– Senedd Cymru am 3:27 pm ar 10 Mehefin 2020.
Yr eitem nesaf yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol. Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gyflwyno'r cynnig—Julie James.
Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i esbonio'r cefndir i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Cyflwynodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Fil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol Llywodraeth y DU ar 20 Mai 2020. Mae diben y Bil yn ddeublyg: mae rhai darpariaethau wedi'u hanelu'n benodol at sefydlu mesurau brys dros dro i helpu cwmnïau i ymdrin â'r pandemig COVID-19 drwy ddiwygio cyfraith cwmnïau ac ansolfedd, gan gyflwyno darpariaethau, er enghraifft, i ganiatáu hyblygrwydd dros dro i gwmnïau a chyrff tebyg allu cynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol a chyfarfodydd cyffredinol eraill yn electronig, dros y ffôn neu'n rhithwir, ar gyfer y cyfnod rhwng 26 Mawrth 2020 a 30 Medi 2020.
Mae'r darpariaethau sy'n weddill yn cyflwyno diwygiadau i gyfraith ansolfedd, y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn eu datblygu ac yn ymgynghori yn eu cylch dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Unwaith eto, mae'r mesurau hyn yn cael eu hystyried yn arbennig o ddefnyddiol i fynd i'r afael â'r materion a gododd yn sgil y pandemig COVID-19. Yn benodol, mae'r Bil yn cyflwyno moratoriwm newydd i Ddeddf Ansolfedd 1986, a fydd yn berthnasol i bob cwmni. Mewn rhai amgylchiadau, bydd cwmni'n gallu gwneud cais am foratoriwm, gyda'r bwriad o ganiatáu i gwmni sydd mewn trafferth ariannol gael cyfle i archwilio ei opsiynau o ran achub ac ailstrwythuro heb i gredydwyr ddwyn camau cyfreithiol yn ei erbyn.
Yn ystod y cyfnod moratoriwm, bydd rhai manteision a chyfyngiadau penodol yn berthnasol. Er enghraifft, ni fydd modd rhoi unrhyw gamau cyfreithiol ar waith yn erbyn cwmni heb ganiatâd y llys. Bydd cwmnïau sy'n destun moratoriwm yn parhau o dan reolaeth eu cyfarwyddwyr, ond byddant hefyd yn cael eu goruchwylio gan fonitor, ymarferydd ansolfedd trwyddedig, sy'n un o swyddogion y llys.
Fel y soniais, bydd y Bil yn berthnasol i bob cwmni yn y DU. Mae ansolfedd yn fater a gadwyd yn ôl fel arfer ac felly byddai'r darpariaethau'n berthnasol ledled y DU. Ac yn ddealladwy efallai, o ystyried sefyllfa COVID-19, defnyddiwyd gweithdrefn garlam i gael y Bil drwy Senedd y DU. Disgwylir y bydd yn cael Cydsyniad Brenhinol erbyn diwedd mis Mehefin.
Ar 5 Mai cysylltodd swyddogion o'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol â fy swyddogion, oherwydd daeth yn amlwg fod darpariaethau'r Bil yn effeithio ar ddarpariaethau ansolfedd presennol y ddeddfwriaeth tai, sydd wedi'u cynllunio i helpu pe bai landlord cymdeithasol cofrestredig yn wynebu trafferthion ariannol. Mae'r darpariaethau hyn, sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Tai 1996, hefyd yn cynnwys cyfnod moratoriwm, sy'n darparu amser i Weinidogion Cymru, fel rheoleiddiwr tai cymdeithasol, i weithio gyda'r landlord cymdeithasol cofrestredig i ddatrys problemau, yn bennaf er mwyn dod o hyd i ateb sy'n galluogi'r asedau tai cymdeithasol i gael eu cadw yn y sector tai cymdeithasol rheoledig, gan ddiogelu tenantiaid yn eu tro. Yn anffodus, mae'r weithdrefn garlam ar gyfer y Bil wedi golygu na fu modd i'r pwyllgor graffu ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn ôl yr arfer, ac felly mae'r ddadl hon wedi'i chyflwyno i roi cyfle i'r Aelodau leisio'u barn.
Mae nifer fach iawn o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru yn gwmnïau cofrestredig, ac felly bydd darpariaethau moratoriwm y Bil yn berthnasol iddynt. Fodd bynnag, ni fydd darpariaethau'r moratoriwm yn berthnasol i fathau eraill o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, megis cymdeithasau cofrestredig neu sefydliadau elusennol corfforedig. Mae hyn yn arwain at ddarpariaethau ansolfedd gwahanol ar gyfer gwahanol fathau o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru a photensial clir i'r moratoriwm ansolfedd newydd arfaethedig wrthdaro yn erbyn y trefniadau presennol, sy'n berthnasol i bob math o landlord cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru.
Yn yr amser sydd wedi bod ar gael, ni fu'n bosibl asesu goblygiadau'r darpariaethau newydd yn llawn, o ystyried y pwerau ansolfedd helaeth sydd eisoes yn bodoli. Am y rheswm hwnnw, rwy'n cytuno y dylai swyddogion geisio darpariaethau yn y Bil i alluogi Gweinidogion Cymru i gymhwyso, datgymhwyso neu addasu'r darpariaethau drwy is-ddeddfwriaeth, er mwyn sicrhau bod y darpariaethau yn y Bil sy'n ymwneud â'r moratoriwm yn gweithredu mewn ffordd sy'n ategu darpariaethau ansolfedd presennol ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru, a chadw pwerau a swyddogaethau presennol Gweinidogion Cymru i ymdrin ag ansolfedd landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, fel y nodir yn Neddf Tai 1996, i sicrhau canlyniadau dymunol y gyfundrefn ansolfedd honno—y prif un yw diogelu stoc ac asedau tai cymdeithasol a diogelu tenantiaid—a sicrhau bod y darpariaethau yn y Bil sy'n ymwneud â'r moratoriwm yn gweithredu, cyn belled ag y gallant, mewn ffordd sy'n gyson ar gyfer pob math o landlord cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru.
Felly, mae'r Bil, fel y'i cyflwynwyd, wedi'i ddrafftio i ystyried y bwriadau polisi, lle bo'n bosibl, ac mae bellach yn gwneud darpariaethau penodol ar gyfer Gweinidogion Cymru. Ceir dadleuon cyfreithiol rhesymol fod y darpariaethau ar gyfer Gweinidogion Cymru o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, ac rwyf o'r farn felly y dylid ceisio cydsyniad deddfwriaethol y Senedd. Fodd bynnag, er fy mod yn credu bod y darpariaethau yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, rwy'n fodlon y dylid eu gwneud ym Mil Llywodraeth y DU er hwylustod o ystyried y pwnc dan sylw.
Felly, rwy'n cyflwyno'r cynnig a gofynnaf i'r Senedd gymeradwyo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Diolch.
Rwy'n credu bod hon yn ffordd resymol o fynd ati. Mae'n bwysig fod hyblygrwydd yn cael ei gynnal drwy gyfnod moratoriwm, fod modd ei roi i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sydd mewn trafferthion ariannol—yn amlwg, fel y mae'r Gweinidog newydd egluro, roedd hynny'n rhywbeth a oedd ar gael, ac sydd ar gael, yn wir, o dan y ddeddfwriaeth tai gyfredol—ac er mwyn i Weinidogion Cymru ennill pwerau i sicrhau ei fod yn briodol ac nad oes anghysondeb cyfreithiol yn cael ei greu, credwn fod y dull a amlinellwyd gan y Gweinidog yn un rhesymol. Yn anad dim, mae angen inni ddiogelu'r ased tai cymdeithasol yng Nghymru, a diogelu buddiannau tenantiaid drwy hynny, fel y dywedodd y Gweinidog. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol.
Galwaf yn awr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw. Arhoswch i'r meicroffon gael ei agor. Rhowch gynnig arall arni, Mick. Na, mae gennym broblem gyda'ch sain. A gawn ni oedi am eiliad tra bod rhywun yn rhoi rhywfaint o gyngor?
Rwy'n credu ei fod wedi'i ddatrys yn awr, Lywydd.
Ydy, rydych chi wedi'i ddatrys, Mick.
Diolch. Lywydd, fel y mae'r Gweinidog wedi egluro, nid yw'r pwyllgor wedi cael cyfle i graffu ar y memorandwm penodol hwn wrth gwrs. Ond fel Cadeirydd y pwyllgor, mae yna nifer o sylwadau y credaf ei bod yn bwysig i mi eu gwneud, oherwydd mae hon yn ddeddfwriaeth bwysig sy'n effeithio ar hawliau, er mai hawliau corfforaethol ydynt yn bennaf, ond hawliau unigolion hefyd i ryw raddau.
Felly, daw'r ddeddfwriaeth yng nghyd-destun y pwysau economaidd ac ariannol sy'n unigryw iawn o dan yr amgylchiadau eithriadol hyn. Felly, gallai'r rheolau a'r rhwymedigaethau cyllidol arferol, os cânt eu cymhwyso'n llym, beri i lawer o gwmnïau fethu. Felly, diben y Bil yw creu lle i unrhyw gwmni sydd mewn trafferthion ariannol—lle i anadlu, fel y mae'n cael ei ddisgrifio—drwy ddileu effaith camau cyfreithiol gan gredydwyr, hynny yw, camau y gall cwmni neu unigolyn eu cymryd i'w orfodi i dalu dyledion a chyflawni rhwymedigaethau ariannol.
Felly, mae'r Bil yn caniatáu moratoriwm pwysig o hyd at 40 diwrnod i gwmni. Ac yn ogystal, mae'n cyfyngu ar y gallu i roi camau cyfreithiol ar waith—hynny yw, gorfodaeth, yn y bôn. Mae materion wedi'u nodi'n briodol ynglŷn â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn y Bil sy'n gwrthdaro ag agweddau ar bolisi Llywodraeth Cymru. Un o'r amcanion allweddol a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru yw cynnal y pwerau a'r cyfrifoldebau presennol fel y'u nodir yn Neddf Tai 1996, y cyfeiriodd y Gweinidog atynt, a sicrhau nad oes unrhyw ganlyniadau negyddol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.
Mae'r Bil yn gwneud darpariaeth foratoriwm ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig mewn anhawster gan ddefnyddio gweithdrefn ddrafft gadarnhaol, ond gweithdrefn benderfynu negyddol ar gyfer y chwe mis cyntaf. Yn ogystal, ni fydd y ddyletswydd yn y Bil i ymgynghori ar unrhyw reoliadau yn ystod y chwe wythnos gyntaf yn gymwys chwaith.
Nawr, fel pwyllgor, byddwn am adolygu maes o law sut y mae'r Bil hwn yn gweithredu a'r ffordd y bydd y pwerau y mae'n eu darparu wedi cael eu defnyddio. Diolch, Lywydd.
Diolch. Y Gweinidog i ymateb.
Dim ond i ddiolch i'r ddau Aelod am eu sylwadau, ac rydym wedi eu hystyried, ac i annog pobl i gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Diolch, Lywydd.
Y cwestiwn felly yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau i'r cynnig ac felly mae wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.