1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Mehefin 2016.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i fynd i’r afael â phroblem newid yn yr hinsawdd? OAQ(5)0030(FM)
Ar ôl cyflwyno dwy Ddeddf arloesol, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, i sicrhau bod Cymru’n cael deddfwriaeth i ddelio’n effeithiol â’r newid yn yr hinsawdd, rŷm ni nawr yn ymrwymo i’w gweithredu nhw’n llawn.
Diolch am yr ymateb yna. Mae’n amlwg bod newid hinsawdd eisoes yn cael effaith ar lot o’n cymunedau ni, yn arbennig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, gydag ardaloedd fel Powys a Thal-y-bont wedi dioddef llifogydd. A fyddai’r Prif Weinidog yn cytuno y byddai hi o fudd i Gymru sicrhau ein bod ni’n parchu cyfreithiau Ewropeaidd sy’n mynnu y dylem ni gael egni adnewyddadwy ac y dylem ni gadw at y targedau yna, a’i bod hi’n gwneud synnwyr inni gydweithredu â’n cymdogion Ewropeaidd ni, a bod hynny’n rheswm arall pam y dylai pobl bleidleisio dros aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin?
Mae hynny’n iawn. Mae’n wir i ddweud, wrth gwrs, fod y Deyrnas Unedig wedi cael ei llusgo i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei lanhau ac i sicrhau bod yr afonydd a hefyd y môr a’r awyr yn well na beth oedd yn wir 30 mlynedd yn ôl. Rwy’n cofio, fel rhywun oedd yn pysgota lot fel bachgen, fod yr Afon Taf yng Nghaerdydd yn wael dros ben; roedd braidd dim ynddi hi. Erbyn hyn, wrth gwrs, mae yna eogiaid yn oifad—’nofio’ dylwn i ddweud—lan yr afon, ac mae hynny’n dangos faint o les sydd wedi cael ei wneud i’n hamgylchedd ni o achos y cyfreithiau Ewropeaidd sydd wedi sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn cael amgylchedd llawer yn well nag o’r blaen.
Brif Weinidog, fe ddaeth y fenyw a oedd yn gyfrifol am y trafodaethau ym Mharis, trafodaethau’r COP, Christiana Figueres, i Gymru’r wythnos diwethaf. Fe ddaeth i siarad yng Ngŵyl y Gelli ac fe soniodd hi yn huawdl iawn am yr angen i Lywodraeth, busnesau a’r sector gwirfoddol, os liciwch chi, sector y gymdeithas sifil, i gydweithio â’n gilydd i wireddu’r freuddwyd a grëwyd yn y trafodaethau ym Mharis.
Fe ddywedodd hi hefyd, yn blwmp ac yn blaen, fod cynnydd o 2 y cant—cynnydd, mae’n ddrwg gen i, o 2 radd Celsius yn y tymheredd, yn ôl y diwydiant yswirio ei hunan, yn ‘systematically uninsurable’. Ac felly mae Paris, wrth gwrs, yn ceisio cael 1.5 gradd fel y cynnydd mwyaf posib. A ydych chi, felly, ar ran Llywodraeth Cymru yn ymrwymo’ch Llywodraeth chithau i gynnydd o ddim mwy na 1.5 gradd?
Mae hwn yn rhywbeth inni ei ystyried, wrth gwrs. Mae’n bwysig dros ben ein bod ni’n sicrhau hefyd fod yna weithredu’n cymryd lle ar draws y byd. Rŷm ni’n gallu chwarae ein rhan, wrth gwrs—rŷm ni wedi gwneud hynny o achos y ddeddfwriaeth sydd wedi cael ei phasio. Ond hefyd, nid oes pwynt inni leihau beth ŷm ni’n ei wneud ynglŷn â newid hinsawdd os yw pethau’n mynd yn waeth mewn gwlad arall. Felly, dyna pam mae hi mor bwysig sicrhau bod gweithredu’n cymryd lle ar draws y byd a’n bod ni’n chwarae rhan hanfodol yn hynny.
A gaf i dorri ar eich traws chi, Brif Weinidog? Rwy’n meddwl bod y cyfieithu ddim yn gweithio—. Na, mae’r cyfieithu nôl yn gweithio. Felly, mae’n ddrwg gen i dorri ar eich traws chi, ond am funud roeddech ond yn cael eich deall mewn un iaith. Felly, os wnewch chi jest ddweud tamaid bach o beth ddywedoch chi nawr—
Mae’n rhaid i fi gofio nawr beth ddywedais i. [Chwerthin.]
A dywedwch yr un peth yr eildro. [Chwerthin.]
Mae’n bwysig dros ben ein bod ni yng Nghymru yn chwarae ein rhan. Mae’n bwysig hefyd, wrth gwrs, fod pob gwlad yn y byd yn chwarae ei rhan. Nid yw’n ddigonol i ni leihau beth yr ŷm ni’n ei wneud, os yw pethau’n gwaethygu mewn gwlad arall, a dyna pam mae mor bwysig, wrth gwrs, i sicrhau ein bod ni’n gweld gweithredu’n cymryd lle ar draws y byd a’n bod ni yng Nghymru yn chwarae rhan hanfodol.
Diolch yn fawr. Perffaith. Russell George.
Brif Weinidog, mae’r cysylltiad rhwng llygredd aer ac afiechyd, a hyd yn oed marwolaeth gynamserol, yn hysbys. Gyda hyn mewn golwg, tybed a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi ynglŷn â beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella ansawdd aer ledled Cymru, yn enwedig yn ein dinasoedd mawr yn y dyfodol.
Wel, un ffordd o wella’r amgylchedd, wrth gwrs, ac allyriadau yn wir, yw buddsoddi mwy mewn ynni cynaliadwy, a gwn fod hwnnw’n fater sy’n codi yn ei ran ef o’r byd. Mae’n amlwg fod rhai ffurfiau ar ynni sy’n llygru llawer llai nag eraill, a dyna’r trywydd sy’n rhaid i ni a’r byd ei ddilyn yn y dyfodol. Un ffordd o fuddsoddi ymhellach, wrth gwrs, er mwyn lleihau allyriadau carbon yw buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Mae metro de-ddwyrain Cymru yn enghraifft o hynny, fel y bydd systemau metro eraill ledled Cymru, yn Abertawe ac yn wir, yng ngogledd-ddwyrain Cymru i ddechrau.
Mae yna ffyrdd eraill hefyd, wrth gwrs, o leihau allyriadau. Er enghraifft, os oes gennych broblemau gyda thraffig, lle mae traffig yn segur am beth amser neu’n symud yn araf ar ffordd benodol, bydd ffordd osgoi yn helpu. Rwy’n siŵr y bydd yn gwybod hynny, wrth gwrs, o ystyried y ffaith fod ffordd osgoi’r Drenewydd yn mynd rhagddi. Bydd hynny’n helpu i leihau allyriadau, rwy’n siŵr, yn ei etholaeth.