2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Mehefin 2016.
6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG? OAQ(5)0045(FM)
Gwnaf, maent wedi eu nodi yn ein maniffesto.
Diolch yn fawr iawn, Brif Weinidog. Un o'r ymrwymiadau a roesoch yn ystod cyfnod yr etholiad oedd y byddech, o fewn 100 diwrnod, yn ymgynghori ar y cwestiwn o ba un a ddylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei rannu'n ddau neu fwy o sefydliadau iechyd. A ydych chi wedi rhoi’r gorau i’r ymrwymiad hwnnw neu a ydym ni’n mynd i weld cynnig yn cael ei gyflwyno gan eich Llywodraeth newydd?
Nid ydym wedi rhoi'r gorau i'r ymrwymiad i ymgynghori â phobl ar strwythur y gwasanaeth iechyd yn y gogledd ar gyfer y dyfodol, na; mae’r ymrwymiad hwnnw yn parhau i fod mewn grym.
Ymhlith blaenoriaethau Plaid Cymru yn y Cynulliad yma bydd gwthio am fesurau gwirioneddol i daclo recriwtio o fewn y gwasanaeth iechyd, fel sy’n cael ei adlewyrchu, wrth gwrs, yn y cytundeb ar ôl yr etholiad. Ond a wnaiff y Prif Weinidog gydnabod, ynghyd â mi, yn y cyfamser, y cyfraniad sy’n cael ei wneud gan weithwyr iechyd proffesiynol o wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd i ddelio â’r problemau recriwtio sydd gennym ni yn y gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd, a’r bygythiad i hynny gan yr ymgyrch i adael yr Undeb?
Mae’r Aelod yn iawn i ddweud taw marchnad fyd-eang yw meddyginiaeth a nyrsio; mae pobl yn teithio ar draws y byd gyda’r cymwysterau sydd gyda nhw, ac, wrth gwrs, mae yna sawl doctor a nyrs sydd yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru sy’n dod o wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd neu o’r tu fas i’r Undeb Ewropeaidd, er enghraifft y nyrsys yn yr ysbyty ym Mhen-y-bont sy’n dod o’r Philippines, lot fawr ohonyn nhw. Heb y bobl hynny, ni fyddai gwasanaeth iechyd gyda ni yng Nghymru nac yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Mae’n bwysig dros ben nad oes yna rwystr yn cael ei rhoi o’u blaenau nhw fel eu bod nhw’n ffaelu dod i Gymru nac i weddill y Deyrnas Unedig, achos y cleifion fydd yn dioddef o achos hynny.
Brif Weinidog, rwyf wedi derbyn llythyr oddi wrth un o fy etholwyr sy'n weithiwr iechyd sydd wedi bod yn gweithio yn y GIG am 19 mlynedd. Mae'n mynegi ei bryderon am Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Mae’n dweud bod y gwasanaeth yn methu oherwydd diffyg cyfeiriad strategol ac mae'n mynd ymlaen i ddweud bod effaith hyn yn golygu bod y straen yn ormod i unigolion bellach a’u bod yn camu o'r neilltu neu'n chwilio am ymddeoliad cynnar. Beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i ddatrys y sefyllfa hon ac i ddarparu'r gwasanaeth iechyd y mae pobl y gogledd yn ei haeddu?
Rwy'n credu y byddai sylwadau'r Aelod wedi bod yn deg ar un adeg; nid wyf yn credu eu bod yn deg nawr. Yn amlwg, fe roesom Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig. Rydym yn gwybod bod problemau—
Nid fy sylwadau i ydyn’ nhw; sylwadau etholwr ydyn nhw.
Rwyf yn derbyn yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud. Nid wyf yn credu bod y sylwadau'n gywir bellach. Rhoesom Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig. Rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol—amseroedd ambiwlans, er enghraifft, yn un peth—o ran darparu gwasanaethau yn yr ardal. Ac mae hynny’n briodol oherwydd roedd yn eithaf amlwg i ni ar y pryd nad oedd y bwrdd iechyd lleol yn cyflawni fel y dylai—yn sicr nid oedd yn cyfathrebu â phobl fel y dylai. Mae'r sefyllfa bellach, yn fy marn i, wedi gwella'n sylweddol. Ond, serch hynny, mae'n bwysig ystyried sylwadau y rhai sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn achub ar bob cyfle i wella.