– Senedd Cymru am 3:21 pm ar 14 Mehefin 2016.
Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar adeiladu ar ein llwyddiant ailgylchu ar gyfer economi gylchol. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Lesley Griffiths.
Diolch ichi, Lywydd. Rwyf am dynnu sylw'r Senedd at stori lwyddiant go iawn i Gymru a sut y gallwn adeiladu ar y llwyddiant hwn ar gyfer y dyfodol. Yng Nghymru y mae’r gyfradd ailgylchu trefol uchaf yn y Deyrnas Unedig a phe byddai’n adrodd ar wahân, y bedwaredd gyfradd uchaf yn Ewrop. Hoffwn dalu teyrnged i’m rhagflaenydd, Carl Sargeant, am ei gyfraniad i gyflawniadau Cymru o ran ailgylchu a defnyddio adnoddau’n effeithlon a hefyd gydnabod ymdrechion awdurdodau lleol Cymru a'r cyhoedd yng Nghymru er mwyn cyflawni hyn.
Cyrhaeddodd cyfradd ailgylchu trefol Cymru 59 y cant yn y 12 mis hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2015 a 58 y cant yn nhrydydd chwarter blwyddyn lawn 2015-16. Mae hyn 5 y cant yn uwch nag yn yr un chwarter yn 2014-15. Yn y dadansoddiad cyfansoddol newydd o wastraff trefol, a gyhoeddwyd gan Raglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau heddiw, nodir bod tua chwarter yr hyn sydd yn y gwastraff bag du—gwastraff gweddilliol—yn wastraff bwyd, a chwarter arall yn ddeunydd ailgylchadwy sych. Pe gallem gadw hyd yn oed hanner y deunydd hwn, gallem yn gyfforddus gyrraedd ein targed o ailgylchu 70 y cant o wastraff trefol. Mae hyn yn dangos cynnydd mawr o ran rheoli gwastraff cynaliadwy yng Nghymru. Fodd bynnag, ei arwyddocâd gwirioneddol yw bod gwastraff a defnyddio adnoddau’n effeithlon yn cynnig porth i'r economi gylchol.
Mae economi gylchol yn un lle gellir defnyddio deunyddiau mewn modd cynhyrchiol dro ar ôl tro, gan greu gwerth ychwanegol a manteision niferus law yn llaw â hynny. Gall y manteision hyn ein helpu i gyflawni nifer o'n nodau lles o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac yn arbennig felly Gymru lewyrchus, Cymru wydn a Chymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang.
Mae astudiaeth ddiweddar gan Sefydliad Ellen MacArthur a WRAP wedi nodi buddion economaidd posibl o fwy na £2 biliwn y flwyddyn i economi Cymru. Mae astudiaeth bellach gan WRAP a’r Gynghrair Werdd yn darogan y gall hyd at 30,000 o swyddi newydd gael eu creu yng Nghymru drwy ddatblygu economi gylchol.
Mae miloedd o weithwyr Cymru’n cael eu cyflogi mewn cwmnïau cadwyn gyflenwi mawr a bach, sy'n ymwneud â chasglu, cludo, ailbrosesu ac ailweithgynhyrchu deunyddiau ledled Cymru. Gall dur, alwminiwm, papur, cardfwrdd, gwydr, plastig, tecstilau a nwyddau electronig i gyd gael eu hailgylchu, gan greu swyddi ac ychwanegu gwerth drwy’r economi gylchol.
Mae angen inni sicrhau bod cymaint o ddeunyddiau â phosibl yn cael eu hailddefnyddio o fewn economi gylchol Cymru. Mae angen i’r deunyddiau hyn fod o ansawdd da er mwyn bod yn ddeniadol i gwmnïau ailbrosesu lleol a chael y prisiau gorau. Drwy hynny, bydd awdurdodau lleol a deiliaid tai yn cyfrannu at ganlyniadau amgylcheddol ac economaidd gwell yn ogystal â mwy o ailgylchu.
Mae'n bwysig i ddeiliaid tai yng Nghymru wybod ble mae'r deunyddiau a gasglwyd oddi wrthynt yn cael eu hailgylchu. Mae adroddiad diweddar ar gyrchfannau terfynol y deunyddiau a gesglir i'w hailgylchu gan awdurdodau lleol Cymru yn dangos bod llai na’u hanner, yn ôl pwysau, yn cael eu hailgylchu yng Nghymru. Mae potensial aruthrol i roi hwb i economi Cymru a nifer y swyddi drwy ailbrosesu mwy o'r deunyddiau hyn yma yng Nghymru.
Felly, fy mwriad fel Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yw bwrw ymlaen â pholisïau er mwyn sicrhau economi gylchol yng Nghymru. Bydd hyn yn un o’m blaenoriaethau allweddol ac mae’n cyd-fynd â'n gwaith i ymateb i becyn yr economi gylchol sy'n cael ei gynnig gan y Comisiwn Ewropeaidd.
Byddaf yn edrych ar yr holl fecanweithiau angenrheidiol, gan gynnwys deddfwriaeth, i'w gwneud yn ofynnol sicrhau bod llawer iawn o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu mewn cynnyrch sy’n cael ei gaffael gan y sector cyhoeddus yng Nghymru. Byddaf hefyd yn edrych ar estyn cyfrifoldeb y cynhyrchydd i sicrhau bod cynhyrchwyr a manwerthwyr yn rhannu beichiau rheoli gwastraff o gartrefi yn fwy cyfartal. Byddaf yn gweithio gydag awdurdodau lleol Cymru a'r sector preifat i weld sut mae cyflawni'r nodau hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi cyhoeddi canlyniadau adolygiad o'r glasbrint casgliadau, sy'n cadarnhau dilysrwydd y dull hwn o weithredu. Mae fersiwn diwygiedig o'r glasbrint ar hyn o bryd yn cael ei baratoi, a byddwn yn ymgynghori ar hyn yn ddiweddarach eleni.
Mae angen inni ystyried buddion posibl gwasanaethau casglu gwastraff mwy cyson i ddarparu deunydd crai o ansawdd uwch am gost casglu is. Mae’r llwyddiant yr ydym wedi'i weld yn ganlyniad yn bennaf i eglurder a chyfeiriad y strategaeth wastraff genedlaethol 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff' a’i chynlluniau sector ategol. Mae'r cynllun sector trefol a’i lasbrint casgliadau yn rhoi canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch sut y gallant wella canlyniadau ariannol, amgylcheddol ac economaidd. Rwyf am barhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a rhanddeiliaid eraill yn y sector, gan gynnwys busnes a'r trydydd sector, er mwyn sicrhau bod cynnydd tuag at ein targedau yn cael ei gynnal, a’n bod yn datblygu ac yn darparu polisïau effeithiol i gyflawni ein hamcanion ehangach yn y maes hwn.
Rydym yn symud yn gyson tuag at ein nod cyffredinol o fod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050. Dywedasom yn ein maniffesto ein bod am weld Llywodraeth Cymru’n garbon-niwtral erbyn 2020. Mae'r nodau’n uchelgeisiol ond yn gyraeddadwy ac yn golygu y bydd angen inni fel cenedl gynyddu ein hymdrechion o ran yr agenda rheoli gwastraff ehangach, nid dim ond ailgylchu, i leihau allyriadau ymhellach a hyrwyddo defnyddio adnoddau’n effeithlon drwy’r gadwyn gyflenwi gyfan.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal adolygiad o strategaeth wastraff 2010 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff'. Cyhoeddwyd adroddiad cynnydd dros dro y llynedd ac ar hyn o bryd rydym yn paratoi papur trafod i gychwyn y drafodaeth ynghylch yr hyn y dylai'r strategaeth newydd ei gofleidio. Byddaf yn cyflwyno hyn i'r Senedd ac ar gyfer ymgynghori cyhoeddus ehangach erbyn diwedd eleni.
Mae gan Gymru hanes balch o ran ailgylchu trefol, a bydd y targedau sydd ar waith yn sicrhau bod Cymru'n parhau i symud tuag at fod â’r gyfradd ailgylchu trefol uchaf yn Ewrop. Bydd hyn yn dod â gweithgarwch economaidd ychwanegol, mwy o swyddi a mwy o ostyngiadau carbon. Mae'n rhaid inni gynnal y cynnydd hwn a sicrhau ein bod yn manteisio ar bob cyfle i gyfrannu tuag at y nodau sydd yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Bydd yr ychydig flynyddoedd nesaf yn gyffrous iawn ym maes ailgylchu trefol a defnyddio adnoddau’n effeithlon, ac rwyf yn falch o gael cyfle i amlinellu’r agenda hon ichi heddiw. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Simon Thomas.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i groesawu'r Ysgrifennydd newydd i'w swydd a chithau i swydd y Dirprwy Lywydd? Credaf mai dyma'r tro cyntaf i chi fod yn y Gadair, hefyd. [Aelodau'r Cynulliad: 'Clywch, clywch.']
Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd am ei datganiad. Hoffwn ddweud bod llawer iawn o sbwriel ynddo, ond golygaf hynny yn y ffordd gadarnhaol orau bosibl. [Chwerthin.] Fe arhosaf gyda’r jôcs gwael ar ôl honno.
Yr un peth yr oeddwn yn ei feddwl am y ffordd yr ydym yn disgrifio’r stori gadarnhaol iawn hon i Gymru, fodd bynnag, yw efallai fod angen inni fod ychydig yn fwy rhagweithiol yn y ffordd yr ydym yn gwneud hyn. Nid yw 'economi gylchol' yn taro deuddeg ar garreg y drws i mi. Pan fyddwch yn sôn am strategaeth dyfodol diwastraff, credaf fod pobl yn deall hynny, a phan fyddwch yn sôn am y swyddi a all ddod yn sgil ailddefnyddio’r deunyddiau craidd a ddefnyddir gennym yn ein heconomi, credaf fod pobl yn deall hynny. Mae 'economi gylchol’ yn fy ngadael yn oer, felly rwyf yn gobeithio y gall y Llywodraeth ddod o hyd i ffyrdd mwy cyffrous o ddisgrifio’r hyn sy’n stori newyddion da i'r Llywodraeth ac i Gymru fel cenedl.
Mae'r cwestiynau yr hoffwn eu gofyn i'r Ysgrifennydd yn awr yn ymwneud â’r ffordd yr ydym yn mynd i symud yn nes at y targed hwnnw. Yn awr, roedd eich datganiad heddiw yn canolbwyntio ar ailgylchu, ac rwyf yn deall pam, ond o dan strategaeth dyfodol diwastraff, wrth gwrs, mae lleihau ac ailddefnyddio hefyd yn ddulliau allweddol o gyflawni hynny, ac, yn enwedig yn eich nodau carbon isel neu ddi-garbon chi fel Llywodraeth, rhaid i leihau ac ailddefnyddio fod yn fwy blaenllaw hyd yn oed nag ailgylchu. Felly, hoffwn glywed ychydig mwy am eich barn ynghylch sut yr ydych yn mynd i ddefnyddio’r offer hynny i hyrwyddo eich nodau ac, yn y cyd-destun hwnnw, a ydych yn rhoi pwyslais a sylw arbennig, er enghraifft, i gynllun blaendal-dychwelyd ar gyfer poteli plastig yng Nghymru? Cymerais ran mewn gweithgaredd glanhau traeth yn gymharol ddiweddar yn Llansteffan; roedd yn amlwg iawn fod bron pob yn ail eitem yr oeddem yn ei godi o'r traeth yn gaead potel ddiod blastig—caead chwaraeon. Hoffwn weld y Llywodraeth hon yn ystyried ffordd o annog pobl i ailddefnyddio deunyddiau o'r fath yng Nghymru, a bydd Plaid Cymru yn sicr yn dadlau o blaid hynny. A oes pethau, gan ein bod yn edrych tuag at yr haf, a bydd llawer o wyliau’n cael eu cynnal—rwyf wedi bod i un neu ddwy yn barod ac yn edrych ymlaen at ragor—a sioeau a digwyddiadau amaethyddol ac yn y blaen, lle y gallwn sicrhau bod ailddefnyddio ac ailgylchu’n rhan o hynny? Oherwydd mae llawer iawn o wastraff bwyd, a llawer iawn o wastraff plastig sy'n cael ei greu yn sgil ein digwyddiadau awyr agored. Maent yn bwysig iawn i’n cymunedau, ond byddai'n dda o beth sicrhau bod y strategaeth dyfodol diwastraff yn rhan ganolog o’r digwyddiadau cyhoeddus hynny yn ogystal.
Dywedasoch yn y datganiad—roedd yn eithaf diddorol, yn fy marn i—ei bod yn bwysig fod pobl Cymru’n deall yr hyn sy'n digwydd i'w gwastraff. Credaf fod hynny'n bwysig; clywaf lawer o fythau ar garreg y drws, yn llythrennol, lle mae pobl yn dweud eu bod yn rhoi’r compost allan ac nad yw’r compost ond yn cael ei losgi yn rhywle; nad yw a dweud y gwir ond yn diweddu mewn compost. Credaf fod angen inni ddeall ac esbonio hyn. A allwch ddweud, felly, sut yr ydych yn bwriadu sicrhau bod mwy o ailgylchu’n digwydd yma yng Nghymru, a chynyddu nifer y swyddi yma yng Nghymru a’r economi yma yng Nghymru? Soniasoch yn y datganiad mai tua hanner ein hailgylchu sydd mewn gwirionedd yn digwydd yn ein gwlad ein hunain. Credaf y dylem gynyddu hynny, a hoffwn i'r Llywodraeth bennu targed penodol o fewn ei strategaeth wastraff i gynyddu hynny.
Yr ail elfen yr hoffwn eich holi amdani yw eich barn, neu farn y Llywodraeth, am losgi. Pa le, os o gwbl, sydd i losgi gwastraff yn y strategaeth dyfodol diwastraff? Yn fy marn i ni ddylai fod dim rôl strategol iddo o gwbl, a dylech fynd ar drywydd moratoriwm ar losgi gwastraff. Mae rhai mathau o wastraff, wrth gwrs, y mae'n rhaid eu llosgi, fel gwastraff llawfeddygol a gwastraff ysbyty, ond fel strategaeth lleihau gwastraff, a strategaeth ailgylchu gwastraff, ni ddylai fod dim lle i losgi. Credaf ein bod wedi cymryd rhai camau gwag yn y gorffennol drwy annog atebion lleol a rhanbarthol o ran strategaeth wastraff nad ydynt wedi mynd i'r afael â'n blaenoriaethau cenedlaethol. Rwyf yn gobeithio bod gwersi'r gorffennol wedi eu dysgu ac y byddwch yn pwyso ar unrhyw awdurdod lleol neu gonsortiwm sy'n dechrau defnyddio llosgi fel ffordd o ymdrin â'r maes hynod bwysig hwn, oherwydd, fel y mae eich datganiad yn nodi, mae ailgylchu ac ailddefnyddio’r deunyddiau hyn mewn gwirionedd yn golygu gwell bargen i’n cymunedau a'n heconomi.
Mae’r pwynt olaf yr wyf am ei godi â chi’n ymwneud ag ailgylchu masnachol. Credaf ein bod i gyd yn dal i fod yn rhwystredig iawn, gan ein bod yn gwneud ein gorau yn ein cartrefi ein hunain i gompostio, boed yn yr ardd neu yn y biniau, p’un a ydym yn ailgylchu ac yn rhoi cardfwrdd i’r naill ochr, yn rhoi poteli i’r naill ochr neu’n rhoi plastig i’r naill ochr, pan geisiwn brynu nwyddau—ac weithiau mae’n rhaid inni gael nwyddau newydd—rydym yn gweld eu bod wedi eu gor-becynnu a’u gor-gyflenwi yn y ffordd honno. Mae'n ymddangos, mewn gwirionedd, mai gweithredu cyfyngedig sydd yn y sector masnachol yn hyn o beth. Pa elfennau o'n llwyddiant sy’n ganlyniad i lwyddiant yn y sector masnachol, a beth ydych chi’n ei wneud i sicrhau bod llai, yn gyntaf oll, ac yn bwysig iawn, yn y sector masnachol, o ddeunydd pecynnu diangen a gwastraff? Credaf ei bod braidd yn annheg, yn aml iawn, rhoi baich ar drethdalwyr domestig ac aelwydydd domestig, pan welwn mor glir nad yw llawer o gwmnïau, sy’n gweithredu, wrth gwrs, y tu allan i Gymru, yn ogystal, yn ystyried ein neges yma ynghylch lleihau ac ailddefnyddio.
Mae'n stori lwyddiant dda mai yng Nghymru y mae’r bedwaredd gyfradd uchaf yn Ewrop. Mae'n stori lwyddiant ragorol ein bod yn ailgylchu mwy na gweddill y Deyrnas Unedig. Roeddem yn arfer gwneud yn well ar ynni adnewyddadwy hefyd, ond cwympo’n ôl a wnaethom wedyn. Rwyf yn gobeithio na fyddwn yn cwympo yn ôl yn hyn o beth, ac rwyf yn gobeithio yn eich ymateb heddiw, ac yn eich gwaith fel Ysgrifennydd newydd, y byddwch yn llwyddo i gyflawni eich nod o sicrhau economi ddiwastraff yng Nghymru.
Hoffwn ddiolch i Simon Thomas am ei sylwadau ac edrychaf ymlaen at ei gael yn fy nghysgodi; rwyf yn gobeithio y bydd ei jôcs yn gwella dros y misoedd nesaf. Rwyf yn cytuno â chi am yr economi gylchol, oherwydd pan roddwyd teitl y datganiad o fy mlaen, fe betrusais ychydig. Ond credaf eich bod yn iawn; mae arnom angen rhywbeth y mae pobl yn ei ddeall yn iawn ac yn gallu cydio ynddo. Rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol, ac fel y dywedwch, mae'n stori newyddion da. Mae bod lle yr ydym yn y DU ac yn Ewrop yn llwyddiant go iawn. Wrth gwrs, mae angen inni wneud mwy i wthio dros y 59 y cant er mwyn cyrraedd ein targed. A chredaf fod mwy y gallwn ei wneud, ond mae'n fater o sicrhau bod y cyhoedd yn dod gyda ni yn hynny o beth.
Gofynasoch beth arall y gallwn ei wneud, oherwydd, yn amlwg, rydym yn ôl pob tebyg wedi dod i dipyn o fan gwastad, a bydd yn rhaid cymryd camau pellach er mwyn symud ymlaen. Holasoch yn benodol am gynllun adfer blaendal, a gwn fod hynny wedi cael ei ystyried. Efallai eich bod yn ymwybodol fod Llywodraeth yr Alban ar hyn o bryd yn gwneud llawer iawn o waith ynghylch hyn, ac rydym mewn ffordd yn gweithio’n weithredol gyda Llywodraeth yr Alban—does dim pwynt dyblygu’r gwaith y maent hwy’n ei wneud—ac rydym yn aros am rywfaint o gyngor ganddynt. Mae swyddogion yn cydweithio'n agos iawn. Fy nealltwriaeth gynnar o gael cynllun adfer blaendal o'r fath yw y byddai'n hynod o gymhleth i'w gyflwyno. Ond, yn sicr, rwyf yn disgwyl cael y cyngor hwnnw, a gwn, unwaith eto, fod fy swyddogion wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid ynghylch p’un a ddylem wneud hynny.
Roeddwn yn meddwl bod yr hyn a ddywedasoch am y gweithgaredd glanhau’r traeth yn ddiddorol iawn, ac rydych i’ch canmol am wneud hynny, a’r caeadau plastig oedd y drwg yn y caws. Cofiaf pan gefais fy ethol gyntaf, yn ôl yn 2007, nid gwneud cynllun traeth—nid oes gennym draethau yn Wrecsam—ond, wyddoch chi, mynd ar ymgyrch casglu sbwriel, lle y bagiau siopa oedd y drwg. A chredaf nad ydym erbyn hyn yn gweld llawer o fagiau plastig sbwriel yn benodol oherwydd y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gan y lle hwn i leihau eu defnydd. Roedd y pwynt a wnaethoch hefyd am sioeau amaethyddol a gwyliau yn un da iawn. Ni ellir ailddefnyddio plastig yn ymarferol. Felly, credaf fod angen inni edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud, wrth symud ymlaen.
Soniais am sicrhau bod pobl Cymru’n gwybod beth sy’n digwydd i'r cynhyrchion sy'n cael eu hailgylchu, a chredaf fod sgwrs y mae angen imi ei chael â’m cydweithiwr, y Gweinidog dros yr economi a seilwaith, ynghylch hyn. Ac, yn sicr, mae angen inni annog busnesau. Yn wir, yn etholaeth Ken Skates ei hun—rwyf wedi bod ar ymweliad fy hun—mae cwmni newydd sy'n ailgylchu prennau hongian cotiau, ac mae cannoedd o filoedd o brennau hongian cotiau yn llythrennol yn mynd drwyddo. Felly credaf fod hynny’n rhywbeth y gallem ei wneud, er mwyn annog busnesau newydd fel yna i ddod i Gymru.
Credaf, mewn perthynas â llosgi, mai atal yn amlwg yw’r allwedd, ond, unwaith eto, megis dechrau yr wyf yn fy mhortffolio. Mae angen imi gael golwg ar hynny, ond, yn sicr, credaf fod angen parhau i ganolbwyntio ar ble yr ydym wedi bod gyda hynny.
Gofynasoch am wastraff masnachol, a chredaf eich bod yn llygad eich lle—os ydym yn annog aelwydydd i wneud hyn, dylem fod yn annog busnesau. Maent yn cydnabod bod ailgylchu’n arbed arian iddynt. Ond credaf fod yn rhaid inni hefyd edrych ar estyn cyfrifoldeb y cynhyrchwyr, a sicrhau eu bod yn dylunio cynhyrchion a fydd yn para'n hirach, eu bod yn meddwl am yr hyn sy'n digwydd i'r cynhyrchion pan fyddant yn dod at ddiwedd eu hoes, sut y gallant wedyn gael eu hailgylchu neu eu hatgyweirio, a meddwl am y seilwaith y mae ei angen yn hynny o beth.
A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd am ei datganiad—datganiad mor gadarnhaol? Cyfeiriodd at y 30,000 o swyddi posibl yn y sector hwn. Fel y gŵyr hi efallai, mae Castell-nedd Port Talbot, yn fy ardal i, wedi sicrhau'r ail nifer uchaf o swyddi mewn ailbrosesu dan raglen ARID WRAP Cymru a ariennir gan yr UE, sy'n tynnu sylw at realiti ymarferol y potensial i greu swyddi yma. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o’r mathau o swyddi y gellid eu creu, a’r gymysgedd sgiliau sydd ei hangen, er mwyn gallu manteisio'n llawn ar yr economi gylchol yn ei holl ffurfiau, boed yn gasglu gwastraff, ailgylchu, ond hefyd ailweithgynhyrchu, ailddefnyddio ac atgyweirio?
Wel, nid wyf wedi ymgymryd â’r darn hwnnw o waith ym mis cyntaf y portffolio. Ond credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, ac mae’r posibilrwydd hwnnw o ddod â mwy o swyddi. Soniais y gallem fod yn edrych ar annog busnesau yn y ffordd yr wyf wedi’i chrybwyll ynglŷn ag etholaeth Ken Skates a’r busnes prennau hongian cotiau.
Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cydnabod ein bod wedi gwneud penderfyniad mawr yma yng Nghymru i fod yn genedl sy’n ailgylchu, ac mae angen inni sicrhau, pan fyddwn yn annog busnesau i ddod yma, ein bod yn dangos mai un o'r rhesymau pam yr ydym am fod yn genedl sy’n ailgylchu yw er mwyn cael y cadernid economaidd hwnnw. Felly gallaf eich sicrhau y byddaf, wrth symud ymlaen, yn cael y sgyrsiau hynny.
Diolch. Galwaf ar lefarydd y Ceidwadwyr, David Melding.
Ddirprwy Lywydd, a gaf i ychwanegu fy llongyfarchiadau ichi ar eich swydd? Nid wyf yn siŵr y byddech eisiau ailgylchu dim byd a wnaeth y dyn diwethaf, ond gwn y bydd gennych eich personoliaeth eich hun yn y swydd, ac rwyf yn gobeithio y byddwch yn anghofio'n fuan yr ambell achlysur pan fu inni wrthdaro pan oeddwn i’n eistedd yn y Gadair honno, yn enwedig os digwydd imi heclo braidd yn anfwriadol o bryd i'w gilydd, ar ôl clywed rhai o gyfraniadau’r fainc flaen.
Mae hefyd yn deimlad braidd yn rhyfedd fod yn rhaid imi wneud fy nghyfraniad cyntaf fel llefarydd, mewn maes nad wyf erioed wedi’i gysgodi o'r blaen, a gwneud hynny mewn maes lle mae’r Llywodraeth yn cyflawni’n uchel. A gaf i roi ar gofnod fy llongyfarchiadau i'r Llywodraeth, a hefyd i'r sawl y mae’n rhaid inni yn awr ei galw yn Ysgrifennydd Cabinet newydd? Cofiaf mai dyna oedd y term yn y Cynulliad cyntaf; felly, mae hyd yn oed hynny wedi ei ailgylchu. Ond rwyf yn gobeithio y byddwch yn mwynhau eich swydd ac y byddwch yn cyflawni llawer o'r pethau yr ydych yn gobeithio’u cyflawni yn y dyddiau cynnar hyn yn eich portffolio.
Credaf fod Llywodraeth Cymru wedi dangos arweiniad yn y maes hwn, ac anfoesgar fyddai peidio â chydnabod hynny. Rydym yn awr mewn sefyllfa lle y gallem weld rhagor o uchelgais. Mae hyn yn ymwneud i raddau helaeth â'r economi gylchol, sy’n mynd â ni ychydig ymhellach i ochr fasnachol pethau, wedi nodi’r hanes eithaf da o ran gwastraff trefol, hyd yn oed ar lefel Ewropeaidd, heb sôn am ar raddfa’r DU. Felly, credaf fod angen inni yn awr ganolbwyntio ar sut yr ydym yn mynd i ddefnyddio adnoddau mentrau bach a chanolig, yn arbennig, ac mae angen iddynt yn fy marn i fod yn ganolog i strategaeth sy'n ailgylchu’n effeithiol ac yn cadw mwy o ddeunydd wedi'i ailgylchu yng Nghymru. Oherwydd, yn eich datganiad clodwiw o onest, rydych yn cydnabod bod dros hanner y deunydd sy’n cael ei ailgylchu ar hyn o bryd wedyn yn gadael Cymru. Felly, os edrychwn ar hynny fel adnodd, sef yr hyn yr wyf yn credu bod angen inni ei wneud, yn hytrach nag yn broblem i’w hallforio, yna credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn rhoi mwy o ran i fusnesau bach a chanolig. I wneud hynny, mae angen inni beidio â’u llethu â rheoleiddio, ond rhoi'r offer iddynt i weld y cyfleoedd ac i ddatblygu eu sgiliau ac i weld ble y gall fod mantais fasnachol.
Gan hynny, felly, mae gennyf un peth penodol, a dweud y gwir, i fynd ar ei drywydd, a hynny yw: rydych yn dweud eich bod yn edrych ar sut y gellir gwneud hynny a'ch bod yn llunio cynlluniau ar gyfer hynny, a hoffwn wybod sut y gellid defnyddio ERDF, ein harian o Ewrop, ynghyd â chyllid Horizon yr UE, oherwydd mae’n ymddangos i mi, wrth wella sgiliau a seilwaith allweddol yn yr economi, y gallai’r rhaglenni Ewropeaidd hynny fod yn addawol iawn, iawn ac yn faes lle y gallem mewn gwirionedd fod â mantais gystadleuol. Mewn cymaint o'r hyn sy'n digwydd yn economi Cymru, rydym yn ceisio efelychu arfer gorau mewn mannau eraill, ond mae'n debyg mai’r gwir uchelgais yr ydych yn ei mynegi'r prynhawn yma yw y gallwn arwain nid yn unig ar lefel y DU ond ar lefel Ewropeaidd yn ogystal. Os gallwn gyflawni’r uchelgais honno a minnau’n dal i fod yn y swydd, yna edrychaf ymlaen at allu cydnabod hynny a llongyfarch llwyddiant pellach fel y mae'n digwydd.
Diolch ichi, David Melding, am eich geiriau caredig. Ddoe ddiwethaf y sylweddolais—oherwydd, wrth gwrs, dim ond ers 2007 yr wyf yma—fod 'Ysgrifennydd Cabinet' yn arfer cael ei ddefnyddio. Felly, unwaith eto, roedd honno’n jôc well o lawer nag un Simon Thomas. [Chwerthin.] Rydych yn llygad eich lle, ac mae'n dda iawn eich bod yn cydnabod cyflawniad uchel y cyfraddau ailgylchu trefol. Dyna pam yr oeddwn mor onest am y sector masnachol. Yr hyn yr wyf am ei wneud yw adeiladu ar gynllun y sector diwydiannol a masnachol sydd gennym yn ein cynlluniau er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio gyda busnesau. Byddwch wedi fy nghlywed yn sôn o'r blaen am estyn cyfrifoldeb y cynhyrchydd, ond credaf fod hyn yn fater o sicrhau ein bod yn gweithio gyda busnesau i sicrhau eu bod, wrth ddylunio eu cynnyrch a’u deunydd pacio, yn gallu lleihau gwastraff, ailddefnyddio mwy, gwella eu gallu i ailgylchu a chynyddu’r cynnwys sydd wedi'i ailgylchu.
Mae hefyd yn ymwneud â rheolaeth gynaliadwy ar wastraff gweddilliol, ac mae angen inni fod yn cael y sgyrsiau hynny gyda hwy. Soniasoch am arian Ewropeaidd. Unwaith eto, rwyf i fod i gwrdd â’m cydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, i gael y trafodaethau hynny ynghylch sut y gallwn ddefnyddio arian Ewropeaidd—agwedd arall eto ar pam y dylem bleidleisio i aros, yn fy marn i, yr wythnos nesaf, i sicrhau bod y cyllid Ewropeaidd yn dal i fod yno, wrth symud ymlaen.
Credaf ein bod eisoes wedi cynnig llawer iawn o gymorth i lywodraeth leol, er enghraifft. Gwn fod llywodraeth leol yn eithaf sinigaidd am y targedau a bennwyd gennym ar ei chyfer o ran gwastraff trefol. Rwyf yn siŵr y byddaf, pan ddechreuaf gael y trafodaethau hynny â busnesau, yn dod ar draws yr un math o lefel. Felly, mae'n fater o beidio â chymryd llwyddiant yn ganiataol. Mae'n fater o weithio'n galed iawn gyda'n gilydd i sicrhau ein bod yn gwella'r gwasanaethau a’n bod yn gallu cyrraedd ein targed maes o law.
Rwyf yn estyn croeso i’r Ysgrifennydd Cabinet i'w swydd ac yn croesawu ei datganiad a'i hymrwymiad i economi gylchol. Yn amlwg, mae wedi canolbwyntio ar ailgylchu yn y datganiad hwn, a nodaf ei bod yn codi'r potensial ar gyfer ailgylchu pellach drwy ddadansoddi cynnwys y bagiau duon, sy'n dangos bod llawer mwy yno y gellid ei ailgylchu. Fodd bynnag, credaf y dylem, law yn llaw â pharhau i fynd ar drywydd yr hyn y gellir ei ailgylchu, edrych ar ailddefnyddio, a dylem fod yn edrych ar atal gwastraff. Gwn y bu cryn dipyn o drafod yma yn y Cynulliad blaenorol am gynllun poteli blaendal-dychwelyd—credaf fod William Powell wedi ei godi ym mhob dadl a gawsom—a nodaf yn eich ateb i Simon Thomas ichi ddweud eich bod yn trafod hyn gyda Gweinidog yr Alban ac yn gweld beth yw eu profiadau yn yr Alban. Yn amlwg, byddwch yn dadansoddi hyn yn ofalus, ond byddai'n ffordd uniongyrchol iawn o ailddefnyddio ac yn atal llawer iawn o’r gwastraff a geir mewn gwirionedd, pan ddadansoddir beth sy'n achosi sbwriel, er enghraifft. Felly, rwyf yn falch iawn fod hynny’n cael ei ystyried.
Y pwynt arall yr oeddwn am ei godi oedd gwastraff gardd, oherwydd rwyf bob amser yn bryderus iawn, yn enwedig yn y wlad, pan welwch wastraff gardd yn cael ei roi allan i'w gasglu gan awdurdodau lleol, a tybed faint o bwyslais y gellir ei roi ar gompostio a cheisio atal hyn, sy'n ymddangos i mi yn beth braidd yn ddiangen i awdurdodau lleol fod yn ei wneud. Dylem fod yn canolbwyntio ar annog ailgylchu gwastraff gardd yn yr ardd ei hun. Rwyf yn deall hynny mewn tref—hynny yw, ni allwch wneud hynny mewn tref lle mae gan bobl ardd fach neu iard neu bethau felly, efallai, ond yn y wlad, mae’n ymddangos i mi nad yw’n beth da i fod yn ei wneud.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Rydych yn iawn—clywsoch fi’n dweud wrth Simon Thomas ein bod wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth yr Alban, ac yn sicr mae swyddogion yn gwylio’r hyn a wnânt yno. Byddant yn cyflwyno rhywfaint o gyngor y byddaf yn ei ystyried yn sicr cyn diwedd y flwyddyn, ond mae'n broses gymhleth iawn dechrau cynllun blaendal-dychwelyd o ddim. Credaf y byddai'n fenter fawr a byddai'n rhaid inni weithio allan a yw'r costau a'r buddion yn gytbwys. Credaf fy mod wedi sôn bod plastig yn eithaf anodd ei ailgylchu. Os feddyliwch chi am y peth, mae'r rhan fwyaf o’r poteli diodydd yn awr, y rhai gwydr, wedi eu disodli gan blastig, ac ni ellir defnyddio hwnnw’n ymarferol.
O ran compostio, credaf fod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn cynnal ymgyrchoedd i hyrwyddo compostio gartref ymhlith deiliaid tai. Os feddyliwch chi am y peth, credaf y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn cynhyrchu gormod o wastraff o'r ardd i reoli eu biniau compost eu hunain. Felly, credaf fod pobl yn wirioneddol yn gwerthfawrogi'r gwasanaeth y mae awdurdodau lleol yn ei ddarparu mewn perthynas â chasglu gwastraff gardd dros ben, ac os gall y compost hwnnw wedyn fod o fudd i arddwyr eraill, gallwch weld y broses yno. Credaf mai’r hyn y byddwn yn awyddus iawn i’w osgoi yw pobl yn llosgi eu gwastraff gardd, oherwydd gall hynny yn aml greu mwg gwenwynig iawn.
Weinidog, a gaf i ofyn ichi ynghylch cyfraddau ailgylchu yng Nghymru? Un o'r awdurdodau lleol oedd yn perfformio orau oedd Conwy, ac mae wedi llwyddo i sicrhau llwyddiant o ran ailgylchu gyda threfn ailgylchu gyfredol a bocs troli sy'n cael ei gasglu’n wythnosol, a gwahanol ddeunyddiau ailgylchu sy'n cael eu casglu wrth ymyl y ffordd a’u didoli wrth ymyl y ffordd, ac yna gasgliad bin du bob pythefnos. Yn awr, fel y gwyddoch efallai, mae’r awdurdod lleol yn bwriadu symud i gylch tair wythnos ar draws ardal yr awdurdod lleol, ac mae ar fin cynnal cynllun peilot hefyd, y mae'n bwriadu ei gychwyn yn ystod misoedd yr haf, ar gyfer casglu bob pedair wythnos.
Rwyf yn bryderus iawn am y cynllun peilot a'r effaith y gallai ei chael ar annog ymddygiad ailgylchu cadarnhaol ymysg y gymuned leol. Mae llawer o bryder y gallai hynny arwain at broblemau amgylcheddol yn sgil y rhai nad ydynt yn ailgylchu yn y ffordd y byddech chi a fi am iddynt ei wneud, ac nid oes darpariaeth yn y cynigion i ymdrin â gwastraff anifeiliaid anwes, sydd wrth gwrs yn gallu bod yn arbennig o annymunol os caiff ei adael i bydru mewn biniau du am yn hir. Felly tybed, Weinidog, pa ganllawiau y gallai Llywodraeth Cymru eu cyhoeddi er mwyn sicrhau y darperir ar gyfer y pethau hyn yn iawn, felly os oes newid i wasanaeth casglu sbwriel cyffredinol bob pedair wythnos, nad yw’n cael effaith andwyol ar yr amgylchedd ehangach, ar gymunedau lleol, ac yn wir ar yr economi ymwelwyr, yn enwedig mewn lle fel Conwy lle mae ymwelwyr yn hanfodol o ran rhoi hwb economaidd i’r ardal benodol honno?
Diolch i Darren Millar am ei gwestiwn. Roeddwn yn gwybod bod Conwy yn bwriadu cynnal cynllun peilot i dreialu casgliadau bob pedair wythnos. Credaf eu bod yn dechrau ddiwedd y mis nesaf. Nid oes gennym ni yn Llywodraeth Cymru bolisi ar gyfer casglu sbwriel na ellir ei ailgylchu yn fisol. Mater i awdurdodau lleol yw penderfynu pa mor aml y maent yn casglu gwastraff a beth sydd orau i’w cymuned a'u poblogaethau lleol. Nid oes gennyf ddim cynlluniau i orfodi unrhyw drefniadau penodol arnynt ynghylch pa mor aml y cesglir gwastraff.
O ran gwastraff anifeiliaid anwes, nid yw hynny'n rhywbeth sydd wedi cyrraedd fy nesg yn y dyddiau cynnar hyn. Ond credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn am wastraff anifeiliaid anwes ac rwyf yn hapus i gael golwg ar hynny ac ysgrifennu at yr Aelod.
Mae gennyf ddau siaradwr arall ac mae gennym lai na munud i fynd trwyddynt. A gaf i ofyn i’r ddau siaradwr, felly, am gwestiynau yn unig ar yr achlysur hwn, os gwelwch yn dda? Jenny Rathbone nesaf.
Diolch yn fawr iawn, a chroeso, Weinidog. Hoffwn dalu teyrnged—rydych wedi dweud bod rhyw gymaint o wastraff bwyd yn dal i ymddangos mewn ailgylchu du, sydd yn amlwg yn fater iechyd mawr, yn ogystal ag yn hoff iawn gan y gwylanod—i’r gwaith y mae Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff yn ei wneud i ddargyfeirio bwyd rhag gorfod mynd i safleoedd tirlenwi a chael ei ddefnyddio’n gynhyrchiol gan sefydliadau. Credaf fod hynny’n bwysig iawn.
Hoffwn ofyn ichi am y cymhellion croes o ran ailgylchu seiliedig ar bwysau—Rhif 1—a hefyd pa ystyriaeth y gallech ei rhoi i sut y gallem roi ardollau ar y poteli plastig neu’r caeadau caniau sydd wedi eu crybwyll yn gynharach gan eraill fel ffordd o sicrhau nad ydym yn datrys un broblem a chreu un arall. Sut allwn ni gael y llygrwr i dalu—h.y. y rhai sydd yn taflu eu caniau ar y traeth? Sut mae atal hynny rhag digwydd yn y lle cyntaf drwy efallai gael poteli diodydd y mae'n rhaid eu dychwelyd fel dewis amgen i hynny?
Diolch ichi, Jenny Rathbone. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud wrth Aelodau blaenorol am fy safbwyntiau ar gynlluniau blaendal-dychwelyd, o ran eich cwestiwn olaf. Mewn perthynas â thaflu yn ôl pwysau, roedd briff yr oeddwn yn ei ddarllen yn cofleidio’r hyn y mae gwledydd eraill yn Ewrop wedi ei wneud. Credaf fod Awstria a'r Eidal a rhannau o Wlad Belg yn ardaloedd lle'r oedd treth talu wrth daflu. Credaf fod hynny’n eithaf dadleuol. Wrth symud ymlaen, byddai'n rhaid inni ystyried modelau ar gyfer sut yr ydym yn ariannu awdurdodau lleol i ddarparu’r gwasanaethau uchel eu safon yr ydym wedi’u gweld. Ond, yn sicr, ni chredaf y byddai talu-wrth-daflu yn rhywbeth y byddwn am ei weld yma yng Nghymru.
Cytunaf yn llwyr ein bod yn gwybod y gallai 50 y cant o sbwriel yn ôl pob tebyg sy’n cael ei daflu i mewn i fin du gael ei ailgylchu. Mae'n fater o sicrhau ein bod yn dod o hyd i ffordd o annog pobl i edrych ar yr hyn y maent yn ei daflu—edrych o gwmpas eu tŷ a gweld yr hyn y gallant ei daflu, a sicrhau eu bod yn taflu’r pethau iawn yn y mannau iawn ar yr adeg iawn. Efallai y bydd angen inni gael ymgyrch arall, er enghraifft, i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Credaf fod hynny wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y gorffennol. Ond mae'r rhain i gyd yn bethau y bydd yn rhaid imi eu hystyried er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cyrraedd y targed o 70 y cant.
Iawn, diolch. Yn olaf, Nathan Gill.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae nodau Llywodraeth Cymru yn glodwiw, ond efallai’n afrealistig: ailgylchu 70 y cant erbyn 2025 a 100 y cant erbyn 2050. Er mwyn cyrraedd y 100 y cant, rhaid ichi ddod â deiliaid tai Cymru gyda chi. Rydych yn gweithio mewn ymateb i gyfarwyddeb fframwaith yr UE, sydd ddim ond yn gofyn am gyfradd ailgylchu o 65 y cant erbyn 2030. Dyma achos perffaith o oreuro deddfwriaeth yr UE, y mae Llafur yn cwyno cymaint amdani yn San Steffan, ac, yn sydyn, dyma ni, yn ei chael yng Nghymru.
Yn awr, mae dwy brif ffordd o gael pobl i ailgylchu yng Nghymru: gallwn ddefnyddio'r foronen neu gallwn ddefnyddio'r ffon. Rwyf yn ofni ei bod yn ymddangos ein bod yn dilyn llwybr y ffon yn rhy aml. Disgwylir i lawer o fy etholwyr yng Nghonwy ac, yn fuan, yn Ynys Môn, nid yn unig ddidoli eu sbwriel eu hunain ar ran y cyngor ond hefyd wneud y tro â chasglu biniau pob pedair wythnos. Yn awr, mae’r rhai ohonoch sy’n dioddef o’r system sydd gennym ar Ynys Môn yn gwybod, pan fydd y gwynt yn chwythu, fod y sbwriel wedi'i ailgylchu yn llythrennol yn diweddu yr holl ffordd i lawr y stryd, ac mae llawer o drigolion y stad lle yr wyf i’n byw, pan fydd hi’n wyntog, nad ydynt hyd yn oed yn trafferthu rhoi’r sbwriel wedi'i ailgylchu allan, gan ei fod yn chwalu i bob man. Onid yw'n llym iawn disgwyl i bobl â theuluoedd mawr roi eu sbwriel mewn bin yn union yr un maint ag aelwyd lle nad oes ond un person yn byw? Wrth gwrs, mae Caerdydd yn awr o bosibl yn wynebu'r pla pedair wythnos yn ogystal. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gymhelliad allwch chi ei gynnig i'n trigolion ynghylch ailgylchu, yn hytrach na bod hyn yn ddraenen yn ystlys gasgliadol y Cymry? Ac ar ben hynny, pam nad yw’n bosibl inni—?
Mae hynna'n ddau gwestiwn ac mae ein hamser ar ben. Rwyf wedi bod yn drugarog iawn.
Rydych wedi bod yn hynod drugarog, a diolch yn fawr iawn ichi.
Ie, wel, peidiwch â gwthio ymhellach. [Chwerthin.]Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Nathan Gill am ei gwestiwn, er fy mod yn meddwl ei fod braidd yn sur. Roedd yn drueni mai dyna oedd y cwestiwn olaf i roi terfyn ar yr hyn yr wyf yn meddwl sydd wedi bod yn ddatganiad cadarnhaol iawn. Wyddoch chi, nid yw'r ystadegau’n ategu’r hyn yr ydych yn ei ddweud. Nid wyf yn credu ein bod wedi gorfod defnyddio moron a ffyn. Rwyf yn meddwl bod pobl wedi ymgysylltu â hyn yn wirioneddol. Rwyf yn derbyn ein bod wedi cyrraedd, gyda 58 neu 59 y cant, tipyn o fan gwastad, ac er mwyn cyrraedd y 70 y cant, bydd yn rhaid inni feddwl am bethau gwahanol, ynghylch sut mae cael y 50 y cant allan o'r gwastraff gweddilliol i mewn i’r blychau ailgylchu. Ond, wyddoch chi, mae pob awdurdod lleol yn ymgysylltu yn y ffordd y cyfeiriasoch ato yn Ynys Môn a Chonwy, nid dim ond y ddau awdurdod lleol hynny. Yn anffodus, mae gennym 22 o awdurdodau lleol, ac weithiau—nid wyf yn dweud bod gennym 22 o enghreifftiau o’r ffordd yr ydym yn gwneud hyn, ond, unwaith eto, gadewch inni edrych ar yr arfer gorau, gadewch inni sicrhau ein bod yn cael yr arfer gorau ledled Cymru i sicrhau ein bod yn cyrraedd y targedau hynny. Maent yn uchelgeisiol, ond credaf eu bod yn gyraeddadwy, ac fel y soniais mewn ateb blaenorol, ein dewis ni oedd y targedau hynny; ein dewis ni oedd i Gymru fod yn genedl â lefelau uchel o ailgylchu. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.