Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 14 Mehefin 2016.
Yn gyntaf, a gaf i ddatgan buddiant? Mae gennyf ferch sy'n mynychu Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe ac wyres yn mynychu Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-lan.
Rwyf yn croesawu'r adroddiad ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru a'r Gweinidog i'r Gymraeg. Rwyf yn credu bod addysg yn allweddol i barhad y Gymraeg fel iaith gymunedol. Rwyf yn falch o dwf addysg cyfrwng Cymraeg, yn enwedig yn y de, a arweinir gan awdurdodau lleol a reolir gan Lafur. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach heddiw wrth ateb cwestiwn gan Jeremy Miles, mae'r ardal sy'n siarad Cymraeg wedi bod yn symud i fyny cwm Tawe—efallai gan adael Craig Cefn Parc a rhannau o Bontarddulais ar ôl—am gryn amser. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen yn gyntaf ei atal ac yna ei wrthdroi, gan wneud y Gymraeg yr iaith gymunedol ledled cwm Tawe unwaith eto. Gall fy ngwraig ddweud wrthych am bryd oedd hi'n ifanc ac yn yr ysgol—yn Ynystawe, lle'r wyf yn byw, Cymraeg oedd iaith y gymuned. Nid yw hynny'n wir mwyach yn anffodus.
Mae gennyf dri chwestiwn yn ymwneud â llywodraeth leol a'r Gymraeg. Mae dau o'r rhain yn—y mae'r Gweinidog yn mynd i'w ddweud—nad ydynt mewn gwirionedd yn rhan o'i bortffolio, felly, ymddiheuriadau am hynny. Yn gyntaf, beth sy'n cael ei wneud i sicrhau bod rhieni yn cael y cyfle cyfrwng Cymraeg, pan fydd eu plant yn Dechrau'n Deg? Dyna ddechrau addysg i lawer iawn o blant, ac os ydynt yn cael eu rhoi mewn cylch Dechrau'n Deg cyfrwng Saesneg y tebygrwydd yw y byddant yn mynd drwy addysg cyfrwng Saesneg drwy gydol eu taith addysgol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y cyfle ar gael. Rwyf wedi gorfod ymgymryd ag achosion ar ran etholwyr, sydd yn y pen draw, wedi mynd a nhw i mewn i gylch Dechrau'n Deg Cymraeg, ond maent wedi gorfod rhoi llawer iawn o ymdrech i wireddu hynny ond, mewn gwirionedd, dylai fod yn fater o ddewis unigol.
Yn ail, beth sy'n cael ei wneud i sicrhau darpariaeth ddigonol o ysgolion cyfrwng Cymraeg sydd ar gael ym mhob ardal awdurdod lleol? Yn drydydd, er fy mod yn ei chael hi'n anodd iawn siarad Cymraeg mewn amgylchedd gwleidyddol a thechnegol, mae rhai sydd wedi eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn gwybod rhai geiriau technegol yn y Gymraeg yn unig. A yw pob awdurdod lleol yng Nghymru yn ateb gohebiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg mor gyflym â gohebiaeth yn Saesneg?