Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 22 Mehefin 2016.
A gaf fi gyflwyno ambell ffaith i chi, Weinidog? A gaf fi eich cyfeirio at erthygl yn yr ‘Agricultural History Review’, o dan y pennawd ‘Measuring Regional Variation in Farm Support: Wales and the UK, 1947-72’? Dyma oedd casgliad yr erthygl hon: roedd cymorthdaliadau blaenorol i ffermydd cyn ffurfio’r UE yn cosbi Cymru pan oedd maint y fferm yn llai ar gyfartaledd nag yn y DU gyfan. Y ffaith yw bod gan ffermwr yng Nghymru fwy yn gyffredin â ffermwyr ledled gweddill yr UE nag sydd ganddo â chriw o Dorïaid asgell dde sy’n cefnogi preifateiddio a heb ddiddordeb mewn dim heblaw chwyddo a hyrwyddo’u lles eu hunain. Mae’n well i ffermwyr Cymru aros yn yr UE. Dyna gasgliad llywydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr heddiw, yma yn y Cynulliad hwn, yn ogystal ag Undeb Amaethwyr Cymru. Rwy’n gobeithio y byddwn, yn ystod y 24 awr olaf, yn gweithio’n galed i ddarparu’r sicrwydd y mae’r gymuned amaethyddol ei hangen y byddwn yn gwarchod eu buddiannau, ond fel rhan o Undeb Ewropeaidd ddiwygiedig.