Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 22 Mehefin 2016.
Rwy’n cytuno’n llwyr â’r Aelod. Roeddwn yn y digwyddiad gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac rwyf wedi cyfarfod ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru, sydd wedi anfon neges gadarnhaol iawn i’w haelodau y dylent bleidleisio dros aros yn yr UE yfory. Gwyddom fod y farchnad sengl yn gwbl allweddol i’n sectorau ffermio a bwyd ac rwy’n credu bod y peryglon sy’n gysylltiedig â’r posibilrwydd o adael yn sylweddol. Nid ydym yn gwybod, ac mae’r hyn a glywn gan rai gwleidyddion, fel rwy’n ei ddweud, yn seiliedig ar ddamcaniaeth lwyr a gwyddom fod 81 y cant o elw busnesau ffermio yng Nghymru yn deillio o’r cymorthdaliadau y maent yn eu derbyn gan yr UE.