Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 22 Mehefin 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae penderfyniad Llywodraeth flaenorol Cymru i symud i’r gyfradd fodiwleiddio o 15 y cant wedi’i gwneud yn llawer anos i rai ffermwyr yng Nghymru gystadlu yn y farchnad yn erbyn cynhyrchwyr bwyd o wledydd eraill. O ystyried yr amgylchiadau hyn, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol i sicrhau bod ffermwyr yn cael cyfle i gael mynediad uniongyrchol at y cronfeydd hyn o dan y cynllun datblygu gwledig er mwyn gwneud iawn am golli enillion o dan golofn 1?