Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 22 Mehefin 2016.
Mae addasu gwasanaethau ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio sy’n cynyddu yn ei maint, yn enwedig mewn cymunedau difreintiedig, yn un o’r heriau allweddol sy’n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae ein poblogaeth yn tyfu’n raddol, ond mae hefyd yn heneiddio’n raddol. Mae ystadegau diweddar gan Gydffederasiwn y GIG yn dangos y bydd nifer y boblogaeth ar draws y DU sydd dros 65 oed yn codi i bron 18 miliwn ymhen 20 mlynedd, gyda nifer y boblogaeth sydd dros 85 oed yn dyblu yn ystod yr un cyfnod i bron 4 miliwn. Ac fel yr amlygwyd eisoes gan lefarydd iechyd Plaid Cymru, yng Nghymru, rydym yn amcangyfrif y bydd y ffigur hwnnw dros 1 filiwn o ran y boblogaeth sydd dros 65 oed. Mae’n mynd i fod yn elfen bwysig o’n ffigurau.
Nawr, bydd y newidiadau ehangach hyn yn y boblogaeth, heb os, yn cael effaith sylweddol ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gyda mwy a mwy o bobl angen cymorth ychwanegol mewn cyfnod pan fo’n hadnoddau gwariant cyhoeddus yn cael eu lleihau ar sail barhaus gan Lywodraeth y DU. Mewn gofal eilaidd yng Nghymru, mae cyfartaledd oedran claf ysbyty yn 80 mlwydd oed, ac mae 10 y cant o’r cleifion sydd mewn ysbytai dros 90 oed. Nawr, yn ychwanegol at hyn, mae’r cyfnod aros yn yr ysbyty yng Nghymru yn saith diwrnod ar gyfartaledd. Gallwn weld yr effaith y mae hyn yn ei chael ar ein gwasanaethau gofal eilaidd. Mae’r ffigurau hyn yn rhoi syniad clir i ni o’r effaith bosibl ar ein gwasanaethau. Mae’n anochel fod cynnydd yn y galw yn golygu amseroedd aros hwy am apwyntiadau ac oedi posibl wrth drosglwyddo gofal, ac mae poblogaeth sy’n heneiddio, yn ddieithriad, yn golygu cynnydd yn nifer y cleifion â chyflyrau hirdymor sydd angen sylw parhaus, ynghyd ag amlforbidrwydd. Mae gan ddwy ran o dair o’n poblogaeth sydd dros 65 oed o leiaf un cyflwr cronig, gyda thraean yn dioddef o fwy nag un cyflwr cronig, a phob un ohonynt yn anochel angen triniaethau mwy a mwy cymhleth a phrosesau ymgynghori hwy. Mae’r pwysau cynyddol ar ein hadnoddau cynyddol gyfyngedig yn golygu bod yn rhaid i ni wneud penderfyniadau strategol, cynaliadwy ac arloesol ynghylch cynllunio’r gweithlu.
Mae llif cleifion drwy leoliad gofal eilaidd yn hanfodol er mwyn darparu pecynnau gofal o ansawdd uchel mor gyflym ag y bo modd, ond ni ddylid diystyru rôl gofal yn y gymuned. Rydym wedi siarad droeon yn y Siambr hon am yr angen i fynd yn ôl at ein cymunedau a darparu gwasanaethau mor lleol â phosibl i bobl, gan eu galluogi i aros mewn amgylcheddau cyfarwydd gyda chefnogaeth gymdeithasol gan deulu a ffrindiau, a gwneud defnydd llawn o’r gwasanaethau cymunedol a ddarperir.
Wrth drafod trosglwyddo i ofal yn y gymuned, ni allwn esgeuluso rhybuddion Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ynghylch recriwtio meddygon teulu. Gwyddom ein bod yn wynebu her o ran recriwtio meddygon teulu yng Nghymru, nid yn unig mewn ardaloedd gwledig, ond mewn llawer o ardaloedd trefol difreintiedig hefyd, ac mae’r heriau hyn yn dra hysbys a rhaid mynd i’r afael â hwy os ydym am sicrhau newid ar draws y system gyfan. Mae’n rhaid i ni recriwtio meddygon teulu newydd, nid yn unig i lenwi’r lleoedd gwag, ond hefyd i gymryd yr awenau gan gydweithwyr hŷn, gyda 23 y cant ohonynt dros 50 oed, fel y nodwyd eisoes. Maent yn heneiddio’n gynt nag yr ydym yn hyfforddi meddygon newydd i gymryd eu lle, gyda dim ond 107 o’r 125 lle hyfforddi ar gyfer meddygon teulu wedi’u llenwi y llynedd. Mae’n rhaid i ni wneud mwy i gymell ein gweithwyr proffesiynol meddygol ifanc dan hyfforddiant i ddod yn feddygon teulu, a rhoi’r hyfforddiant a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt er mwyn iddynt allu mynd i’r afael â’r materion hyn. Mae’n rhaid i ni gynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael o’r 136 presennol. Mae’n rhaid ymdrin â hynny gyda’r ddeoniaeth, ac mae’n rhaid i ni edrych hefyd am leoedd hyfforddi mewn practisau meddygon teulu ar eu cyfer.
Mae’n rhaid i ni hefyd osgoi canolbwyntio ar ddarparu meddygon teulu yn unig, wrth i ni geisio darparu model holistaidd o ofal cymunedol fel y gwelsom yn ddiweddar ym Mhrestatyn. Mae’n rhaid i ni ddibynnu ar ein deintyddion cymunedol, ein fferyllwyr cymunedol, ein nyrsys ardal a’n ffisiotherapyddion i ddarparu gofal rhagorol lle nad oes angen meddygon teulu. Yn hyn o beth, mae’n rhaid i ni ddilyn egwyddorion gofal iechyd darbodus er mwyn gwneud defnydd llawn o’u holl gydweithwyr a sicrhau nad ydynt ond yn gwneud yr hyn na all neb ond hwy ei wneud. Felly, mae angen i ni fynd i’r afael â hyfforddi’r proffesiynau hyn yn ymarferol hefyd: nyrsys mewn practisau, nyrsys ardal, uwch-ymarferwyr nyrsio a nyrsys practis eraill. Efallai y gallwn gysylltu ac annog llwybrau hyfforddiant amgen ar gyfer y proffesiynau hyn.
Croesawaf gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer y gweithlu gofal sylfaenol, a fydd yn cefnogi camau i greu darpariaeth ehangach o wasanaethau mewn practisau ar draws y sector ac edrychaf ymlaen at ei gyflwyno’n llwyddiannus. Mae’r rhain yn amlwg wedi’u targedu tuag at fynd i’r afael â rhai o’r pryderon hyn. Ond mae’n rhaid i ni edrych hefyd ar ein gwasanaethau iechyd cyhoeddus, gan fod rhaid cynorthwyo’r boblogaeth hŷn yn eu cymunedau i fyw bywydau llawn a hapus. Gwyddom fod unigrwydd ac arwahanrwydd yn peri risgiau iechyd difrifol, fel y mae tybaco ac yfed gormod o alcohol. Mae’n rhaid i ni gefnogi ymgyrchoedd sy’n mynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol a hyrwyddo grwpiau cyfeillio ar draws ein cymunedau. Ymhellach, mae’n rhaid i ni barhau i annog ein poblogaeth i wneud dewisiadau byw’n iach, gan ddarparu’r amgylcheddau cymdeithasol, diwylliannol a chwaraeon sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau egnïol a chynaliadwy, gan leihau’r tebygolrwydd o ddatblygu cyflyrau meddygol a gorfod troi at ein gwasanaethau ysbyty yn y pen draw.
Yn olaf, mae’n rhaid i ni gofio nad gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn unig sy’n wynebu heriau poblogaeth sy’n heneiddio. Mae’n rhaid i ni fabwysiadu ymagwedd fwy cyflawn tuag at wneud penderfyniadau, sy’n cwmpasu tai ac addysg, a dysgu gydol oes yn arbennig, a gwella sgiliau llythrennedd a rhifedd, gan annog cydweithio ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n rhaid i ni edrych ymhellach i’r dyfodol, gan sicrhau bod yr egwyddorion a ymgorfforwyd yn ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn sail i’n camau gweithredu ym mhob maes portffolio i helpu ein poblogaeth sy’n heneiddio.