Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 22 Mehefin 2016.
Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i gyfrannu i’r ddadl bwysig yma. Efallai fy mod wedi sôn o’r blaen fy mod i’n feddyg teulu, ond jest rhag ofn nad wyf wedi sôn digon am y ffaith honno, rwy’n ailadrodd y peth eto’r prynhawn yma. Ond, yn y bôn, wrth gwrs, mae’r ffaith bod pobl yn byw yn hirach yn destun clod i’r gwasanaeth iechyd, os rhywbeth. Rydym ni wedi hen arfer ar glywed pobl yn beirniadu’r staff a beirniadu’r gwasanaeth iechyd, ond, o leiaf, pan fo tystiolaeth a’i fod yn ffaith gadarn ein bod ni i gyd yn byw yn hirach, dylai fod yn destun clod i’n gwasanaeth iechyd cenedlaethol.
Wrth gwrs, y feddygfa ydy, fel rheol, y lle cyntaf y mae pobl yn troi ato pan fônt mewn cyfyngder—y ‘first port of call’ felly. Beth rydym ni’n ei ffeindio yn gynyddol ydy fod y gwasanaeth yna yn y feddygfa o dan straen anhygoel. Ydym, rydym ni’n gwybod y ffigurau: mae yna 90 y cant o’n cleifion ni yn cael eu gweld yng ngofal cynradd—roeddem ni’n arfer dweud ar 10 y cant o’r gyllideb, ond, fel yr ydym ni wedi ei glywed eisoes, mae’r ganran honno o’r gyllideb yn awr wedi llithro i lawr i 7.45 y cant. Mae yna ofyn, felly, i feddygon teulu a’u staff wneud fwy efo llai o adnoddau. Wedyn, yn dilyn beth mae Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu wedi bod yn ei ddweud dros y misoedd—a’r BMA—mae eisiau rhyw fath o arallgyfeirio, neu newid cyfeiriad, yn y gyllideb yna, a hynny yn ôl i rywbeth fel yr oedd: rhywbeth fel 11 y cant o gyllideb y gwasanaeth iechyd, achos, yn y bôn, mae nifer y cyfweliadau yr ydym yn eu cael gyda’n cleifion yn cynyddu. Mae’r cyfweliadau hynny yn ddwysach ac yn fwy cymhleth achos natur y salwch, fel yr ydym wedi’i glywed gan David Rees. Mae pobl hŷn efo mwy nag un salwch cronig, ac mae yna her sylweddol i ddelio efo nhw i gyd mewn 10 munud. Ar ddiwedd y dydd, beth yr ydym yn poeni yn ei gylch fel meddygon yw ein bod ni eisiau gwella ansawdd y drafodaeth yna rhwng y claf a’r meddyg neu’r nyrs, a 10 munud sydd gyda ni, ac mae hynny ar ddiwrnod da. Ar gyfartaledd, rydym ni’n gweld rhwng 50 ac 80 o gleifion bob dydd. Beth yr ydym eisiau gweld yw gwella ansawdd y 10 munud yna sydd gyda ni. Dyna pam mae eisiau rhagor o arian ac adnoddau: er mwyn inni allu cyflogi rhagor o feddygon teulu yn y lle cyntaf, ond hefyd rhagor nyrsys a rhagor o ffisiotherapyddion ac ati, a hefyd gweithwyr cymdeithasol yn ein practisiau, a hefyd, y buaswn yn dweud, ar bob ward yn ein hysbytai. Dyna lle mae’r cydweithio efo gwasanaethau cymdeithasol yn dod i fewn, ac mor bwysig.
Nid oes eisiau rhyw adrefnu costus. Rydym ni eisiau gweithwyr cymdeithasol efo ni yn y feddygfa sy’n gallu trefnu pethau cymdeithasol i’n cleifion, ond hefyd ar y wardiau yn yr ysbyty—cael un gweithiwr cymdeithasol fanna sy’n gallu trefnu sut y mae’r claf yn mynd i adael yr ysbyty yn gynnar a chyda’r holl drefniadau yn eu lle. Dyna pam mae angen cyflogi rhagor o weithwyr ar y llawr. Dyna pam mae eisiau i ran fwy o’r gyllideb honno ddod i ofal cynradd. Mae eisiau ei chynyddu o 7.45 y cant yn ôl i fel yr oedd, rhywbeth fel 11 y cant. Mae 90 y cant o’r cleifion yn cael eu gweld yng ngofal cynradd, ac rydym ni eisiau’r adnoddau i gynnig gwasanaeth gwell. Mae’r adnoddau yna yn cynnwys cyflogi rhagor o feddygon teulu. Fel y mae David wedi’i ddweud eisoes, mae yna rhai pethau dim ond meddyg teulu y gall eu gwneud. Mae’n rhaid inni gael rhagor ohonyn nhw. Ond mae’n rhaid inni wneud y gwaith—y swydd—yn fwy deniadol i’n meddygon ifanc ni sydd yn awr yn ein hysbytai. Mae’n rhaid iddyn nhw gael eu dylanwadu’n well nag y maent ar hyn o bryd i ddod yn feddygon teulu. Mae’n rhaid i’r holl gynlluniau yna sydd gennym ar hyn o bryd i ddenu meddygon yn ôl i fod yn feddygon teulu—mae’n rhaid eu gwella ac mae’n rhaid inni ei gwneud yn haws i ddenu ein meddygon teulu mwyaf disglair yn ôl i feddygaeth deuluol, yn enwedig yn ein cymunedau mwyaf gwledig a mwyaf difreintiedig ni.
Felly, mae yna sawl her, fel yr ydym wedi’u clywed, ond mae’n rhaid inni fynd i’r afael â nhw. Ar ddiwedd y dydd, mae ein gwasanaeth iechyd ni yn dibynnu ar feddygaeth deuluol sydd hefyd yn ffres ac yn egnïol, ac sy’n gallu datrys y rhan fwyaf o broblemau yn ein cymunedau. Pe bai ni’n arallgyfeirio jest rhyw ganran fechan yn uwch o’n cleifion yn syth i’r ysbytai, byddai ein hysbytai ni o dan hyd yn oed fwy o bwysau nag y maent ar hyn o bryd. Wrth fuddsoddi rhagor o arian mewn gofal cynradd, byddem yn gallu atal lot o bobl rhag gorfod mynd i adrannau damweiniau neu rhag bod ar restrau aros yn y lle cyntaf, achos bod gyda ni’r adnoddau a’r ddysg i drefnu a gwneud pethau i’n cleifion yn y gymuned ond mae’n rhaid inni gael rhagor o help. Buaswn yn falch o glywed gan y Gweinidog a fuasai’n fodlon cyfarfod efo arweinyddion meddygon teulu yng Nghymru er mwyn trafod y ffordd ymlaen. Diolch yn fawr.