Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 22 Mehefin 2016.
Mae’n dda gen i ddychwelyd at beth fydd, yr wyf yn gobeithio, yn ddadl gadarnhaol dros y gwasanaeth iechyd. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf innau, fel sawl un, rwy’n siŵr, wedi bod yn delio efo etholwyr sydd yn poeni yn ddirfawr ynglŷn â’r ffaith bod yna bwysau cynyddol ar feddygfeydd lleol, eu bod yn gorfod aros 10 diwrnod neu bythefnos i gael apwyntiad gyda meddyg teulu, a bod y gwasanaethau yn yr ysbyty lleol wedi cael eu lleihau. Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod ni fan hyn yn cydnabod bod hynny’n deillio yn uniongyrchol o benderfyniadau’r Llywodraeth, a Llywodraeth Cymru yn hynny o beth.
Er da neu er drwg, penderfyniadau rydym ni wedi eu cymryd dros y blynyddoedd sy’n gyfrifol am hyn, ac nid mewnfudwyr o’r tu allan fel sydd wedi cael ei greu yn ystod y ddadl yn ystod yr wythnosau diwethaf. Rydych yn llawer fwy tebygol yng Nghymru o gael eich trin gan rywun o’r tu allan i Gymru a thu allan i’r Deyrnas Gyfunol fel rhan o’r gweithlu sydd ei angen o’r tu allan i’r Deyrnas gyfunol, na gorwedd mewn gwely mewn ysbyty wrth ochr mewnfudwr o’r tu allan. Felly, dyna’r cyd-destun rydym yn ei drafod fan hyn.
Rwy’n credu bod y ddadl gan Blaid Cymru heddiw yn cydnabod dau beth: ein bod ni wedi cymryd tro gwag rhywbryd yn y gorffennol, un ynglŷn â diffyg cynllunio ar gyfer recriwtio a chadw meddygon teulu yng Nghymru, ac un tro gwag arall—diffyg cynllunio ynglŷn â dyfodol rhai o’n hysbytai cymunedol ni, a methiant i gydnabod, yn enwedig mewn ardaloedd cefn gwlad, bod angen ysbytai cymunedol, efallai ar wedd newydd—nid fel yr hen ysbytai bwthyn fel oedd hi efallai—ond bod angen yr adeiladau hyn a’r presenoldeb yn y cymunedau i gynnal gwe o wasanaethau lleol y mae pobl leol yn eu gwerthfawrogi, ond sydd hefyd yn ychwanegu at iechyd y cyhoedd.
Un enghraifft o hyn oedd llwyddiant digamsyniol, rwy’n meddwl, y cytundeb a darwyd rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth Lafur flaenorol i sefydlu cronfa gofal canolradd. Ar y pryd, nid oedd y Llywodraeth wedi cydnabod bod angen cronfa o’r fath i ddarparu ar gyfer integreiddio rhwng gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau gofal ac iechyd. Ac erbyn hyn mae’r gronfa yna yn cael ei chydnabod fel rhywbeth sydd wedi bod yn llwyddiant ac wedi cynnal nifer o bobl i aros yn eu cartrefi, ac wedi bod yn ffordd i integreiddio rhwng y gwasanaeth iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol. Felly, rwy’n meddwl ein bod ni wedi methu cyfle i adeiladu ar ein hysbytai cymunedol ni.
Nawr, mae yna gyfleoedd i wella. Mae cyd-bartneriaeth canolbarth Cymru wedi ei sefydlu yn ddiweddar gan y cyn Weinidog iechyd, ac mae’n dechrau bod yn llwyddiannus; mae’n dechrau dod â syniadau newydd i mewn i weld beth all gwasanaethau ysbytai a gwasanaethau sylfaenol fod mewn ardaloedd cefn gwlad. Mae yna enghreifftiau wedi cael eu portreadu yn ystod cyfarfodydd y cyd-bartneriaeth yna o’r tu hwnt i Gymru—lleoedd yn Sgandinafia, lleoedd yng Ngogledd America—ond nid oes rhaid mynd ymhellach na swydd Efrog, a dweud y gwir, i weld beth allem ni wneud gydag ysbytai cymunedol yng Nghymru. Fe sefydlwyd yn Pontefract ysbyty cymunedol cwbl newydd gyda 42 o welyau, er mwyn lleihau’r pwysau ar y wardiau aciwt. Ac mae’r ysbyty newydd yna, sydd ond newydd agor, llai na blwyddyn yn ôl, eisoes yn cyfrannu at arbed arian, ac yn galluogi pobl i fynd yn ôl o driniaeth mewn ysbytai trydyddol yn fwy llwyddiannus. Felly, dyma enghreifftiau o’r rôl y gallai ysbytai cymunedol yng Nghymru, yn fy etholaeth i, mewn lleoedd fel Blaenau Ffestiniog a Dinbych-y-Pysgod, efallai eu chwarae ar gyfer y dyfodol.
Ac wrth edrych ar Ddinbych-y-Pysgod yn benodol, dyma enghraifft arall o ysbyty cymunedol a gollodd uned mân anafiadau yn anffodus, a gafodd ei chau am resymau diogelwch—rydym wedi clywed hynny sawl gwaith—ac sydd wedi dod yn ôl fel peilot yr uned mân anafiadau dros y Pasg diwethaf, ac a oedd yn llwyddiant ysgubol, lle roedd y meddygon teulu lleol hefyd yn dymuno gweld hynny yn cael ei sefydlu.
Felly, mewn ardaloedd gwledig—er enghraifft, mae 60 y cant o’r boblogaeth yng Ngheredigion a 53 y cant o’r boblogaeth yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ymhellach i ffwrdd o’r meddyg teulu na 15 munud—mae angen edrych yn ddifrifol ar sut y gallwn ni adeiladu rhwydwaith rhwng ysbytai cymunedol yn ogystal.
Rydym ni’n galw yn y ddadl yma am ailedrych ar y ffordd mae ysbytai cymunedol a’n meddygon teulu ni yn gallu gwasanaethu, yn enwedig mewn ardaloedd cefn gwlad. A allwn ni roi o’r neilltu, efallai am y tro, rai o ddadleuon y gorffennol, gan edrych ymlaen at agwedd fwy cadarnhaol gan y Llywodraeth newydd hon?