1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 29 Mehefin 2016.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ei flaenoriaethau ar gyfer hybu cydraddoldeb yng Nghymru? OAQ(5)0014(FLG)
Diolch i Joyce Watson am y cwestiwn. Ym mis Mawrth eleni, yn dilyn ymgysylltiad helaeth â rhanddeiliaid, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hwyth amcan cydraddoldeb ar gyfer 2016-2020. Mae’r amcanion hyn yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sydd wedi ymwreiddio fwyaf yng Nghymru a hyrwyddo cymunedau cydlynus.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, ond roedd ymgyrch y refferendwm, yn enwedig tuag at y diwedd, yn llawn o anoddefgarwch, ac mae’r gwenwyn hwnnw wedi ymdreiddio i fywyd cyhoeddus. Rydym i gyd wedi gweld adroddiadau am gam-drin hiliol ar ein strydoedd. Rydym hefyd, diolch byth, wedi gweld yr ymateb iddo yn Llanelli ac mewn mannau eraill lle mae pobl leol yn cefnogi ac yn amddiffyn eu cymdogion o Ddwyrain Ewrop, ac rwy’n deall y bydd y Prif Weinidog yn ymweld â Chymdeithas Pwyliaid Cymru yn Llanelli yfory. Ond mae’r ffaith yn aros fod Heddlu Dyfed-Powys wedi cofnodi cynnydd sylweddol mewn troseddau casineb o gymharu â’r mis hwn y llynedd. Felly, mae’n amlwg bod angen i ni wella’r clwyfau yn awr. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a phartneriaid eraill, roi camau ar waith i ddiogelu a chryfhau cysylltiadau cymunedol rhwng pobl o bob cenedl a diwylliant yn ystod y cyfnod cythryblus hwn?
Gadewch i mi ategu’n gryf iawn y peth olaf a ddywedodd yr Aelod. Rwy’n credu ei bod yn iawn—digwyddodd rhywbeth yn ystod cyfnod ymgyrch y refferendwm sydd rywsut wedi cyfreithloni, ym meddyliau rhai pobl, safbwyntiau sy’n wrthun, rwy’n siŵr, i’r Aelodau yn y Siambr hon ac nid oes ganddynt ran o gwbl i’w chwarae yn ein bywyd cymunedol. Hyd yn oed cyn hynny, bu cynnydd o 65 y cant yn nifer yr adroddiadau i’r Ganolfan Genedlaethol Cymorth ac Adrodd Troseddau Casineb yma yng Nghymru. Rwy’n gobeithio y gellir priodoli rhan o’r cynnydd hwnnw i’r ffaith fod pobl yn fwy parod i roi gwybod i’r heddlu am ddigwyddiadau o’r fath. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn annog unrhyw un sydd wedi dioddef y fath ymddygiad gwarthus yn ystod y dyddiau diwethaf i wneud yn siŵr eu bod bob amser yn rhoi gwybod i’r awdurdodau am y digwyddiadau hynny. Mae fy neges yr un fath â neges Joyce Watson i’r holl bobl o bob cwr o’r byd ac o bob rhan o Ewrop sy’n gwneud cymaint o gyfraniad i gyfoeth bywyd yma yng Nghymru: ein bod yn eu croesawu, rydym yn eu croesawu’n fawr, a bod y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn cefnogi cymdeithas ffyniannus amlddiwylliannol yma yng Nghymru. [Aelodau’r Cynulliad: ‘Clywch, clywch.’]
Rydych chi’ch dau wedi sôn am y cynnydd mewn digwyddiadau hiliol yn ystod ac ar ôl y refferendwm, ac rwyf innau’n rhannu’ch barn chi yn condemnio yr hyn sydd yn digwydd. Ond a fedrwch chi fynd ymhellach na jest gwneud datganiad yn y Siambr heddiw? A ydych chi’n gallu ystyried cynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ac addysgu ynghylch y cyfraniad y mae pobl o wahanol wledydd Ewrop a’r byd yn ei wneud i fywyd Cymru?
Diolch yn fawr i’r Aelod am beth y mae hi wedi’i ddweud. Wrth gwrs, mae’n bwysig inni wneud mwy na jest siarad yma yn y Siambr, so mae nifer o bethau rwy’n eu gwneud yn bersonol dros yr wythnos nesaf: mae gyda fi gyfarfod â’r WLGA ddydd Gwener—rwy’n mynd i siarad â nhw—ac mae gyda fi gyfarfod â’r Muslim Council of Wales wythnos nesaf. Mae yn bwysig inni ddod at ein gilydd fel yna, i siarad â’n gilydd am beth rŷm ni’n gallu ei wneud, i ymdrechu gyda’n gilydd, i fod yn glir am beth rŷm ni eisiau ei wneud yma yng Nghymru ac i’w wneud e gyda’n gilydd, fel mae’r Aelod yn sôn.