Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Brif Weinidog, mae’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn mynd i gael effaith fawr ar y diwydiant amaethyddol, ac mae’n bwysig nawr bod Llywodraethau ar bob lefel yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi ein ffermwyr yn y dyfodol. Ond mae yna bryder enfawr ymysg ffermwyr yn sir Benfro ar hyn o bryd o’r posibilrwydd o gyflwyno parthau perygl nitradau. Oherwydd penderfyniad pobl Prydain, a Chymru, i adael yr Undeb Ewropeaidd, a allwch chi ddweud wrthym ni ble mae hyn yn gadael yr ymgynghoriad roedd eich Llywodraeth chi yn golygu ei gyflwyno ar barthau perygl nitradau? A ydy’r cynlluniau hyn nawr yn mynd mlaen?