Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Maen nhw’n dal i barhau, wrth gofio’r ffaith bod y gyfraith amgylcheddol sydd wedi cael ei throsglwyddo i gyfraith Cymru yn mynd i aros er bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Byddai’n fater wedyn i Lywodraeth Cymru benderfynu pa gyfreithiau i gadw yn y pen draw, a pha gyfreithiau na fyddent yn cael eu cadw yn y pen draw.