<p>Bargen Ddinesig Caerdydd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 1:36, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, rydym ni wedi clywed bod y cytundeb metro yn ganolog i'r holl gysyniad hwn. Yn anffodus, bythefnos yn ôl, rwy’n meddwl ein bod wedi sylweddoli bod gagendor mawr rhwng ardaloedd fel Caerdydd ac ardaloedd y cymoedd i'r gogledd, ac adlewyrchwyd hyn yn y patrwm pleidleisio. Ac mae'r metro yn rhoi cyfle i ni integreiddio dyfodol economaidd y ddwy ran bwysig iawn hyn o economi’r de.