<p>Bargen Ddinesig Caerdydd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:37, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n cytnuo’n llwyr â hynny. Mae cysyniad y metro wedi ei gynllunio i wneud dau beth, yn bennaf. Yn gyntaf oll, wrth gwrs, i'w gwneud yn haws i'r rhai sydd â swyddi yng Nghaerdydd i deithio yn gyflym i mewn i Gaerdydd, ond hefyd i ddenu buddsoddiad oddi wrth yr arfordir ac ymhellach i fyny'r cymoedd, ac i gael gwared ar y dybiaeth honno bod ein cymunedau yn y cymoedd gogleddol yn anodd eu cyrraedd. Rydym ni’n gwybod nad yw hynny'n wir. Rydym ni’n gwybod, gyda'r cynlluniau ffyrdd a roddwyd ar waith eisoes, ac rydym ni’n gwybod, gyda'r cynllun metro, y byddwn yn gallu dweud wrth fuddsoddwyr bod ein cymunedau yn y cymoedd wedi eu cysylltu ag economi ehangach y de-ddwyrain, ac felly maen nhw’n gymunedau y dylid buddsoddi ynddynt. Ac rydym ni’n dechrau gweld ffrwyth hynny gyda phenderfyniad TVR i fuddsoddi.