Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Brif Weinidog, rwy'n siomedig nad ydych chi’n barod i ddangos rhywfaint o arweinyddiaeth ar y cwestiwn hwn. Os nad ydych chi’n barod i gael gair gyda'ch ASau eich hun, efallai y byddan nhw’n barod i wrando ar y neges hon gennyf i: mae pleidleiswyr yn ein hetholaethau eisiau i ni fod yn llais iddynt yn ystod y cyfnod anodd hwn. Maen nhw eisiau i ni fynd i'r afael â'r hiliaeth sydd wedi codi yn ein cymunedau, maen nhw eisiau i ni fynd yn ôl i'r gwaith, ac maen nhw eisiau ein gweld ni’n symud ein gwlad yn ei blaen. Nawr, y peth olaf sydd ei angen arnyn nhw ar hyn o bryd yw mwy o raniadau a mwy o ymladd mewnol.
Yn y cyfarfod cyhoeddus yr oeddwn i’n rhan ohono neithiwr yn Aberystwyth, Brif Weinidog, clywais gan ŵr ifanc y mae ei deulu o dras Almaenig, ac maen nhw’n pryderu am eu dyfodol. Nid ydyn nhw’n gwybod pa hawliau fydd ganddyn nhw, maen nhw’n poeni am adroddiadau yn y wasg ei bod yn bosibl iawn y gallai eu statws fod ar y bwrdd yn y trafodaethau. Nawr, mae llawer o blant wedi bod yn gofyn cwestiynau i’w rhieni pan eu bod yn y sefyllfa hon, ac mae rhieni yn ei chael hi'n anodd iawn ateb y cwestiynau hynny pan fo cymaint nad yw’n hysbys. Nawr, rwy’n gobeithio y gallwch chi ymdrin â hyn yn fwy cynhwysfawr yn y cwestiwn brys yn ddiweddarach, ond mae angen i ni fod yn eglur bod dinasyddion yr UE o fudd net i Gymru. Dylem i gyd ddweud bod croeso i bob un ohonyn nhw yma ac na ddylent orfod gadael y wlad hon os neu pan fydd Brexit yn digwydd yn y pen draw.
Brif Weinidog, pa sicrwydd allwch chi ei roi i bobl sy'n byw yng Nghymru sy'n dod o rannau eraill o Ewrop y byddwch chi’n eu cefnogi nhw, eu hawliau a'u teuluoedd?