<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:40, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Mewn ffordd, mae hynna’n rhoi cyfle i mi ateb y cwestiwn brys nawr, ac rwyf yn hapus i wneud hynny. Rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref ac rwyf wedi dweud wrthi, cyn belled ag y mae Llywodraeth Cymru yn y cwestiwn, ein bod yn credu y dylai dinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU gadw'r hawl i wneud hynny ar ôl i'r DU adael yr UE. Mae hi a minnau o’r un safbwynt ar hynny. Rwy'n credu ei bod yn gwbl anghywir defnyddio dinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU fel testun bargeinio mewn trafodaethau; mae'n gwneud iddyn nhw swnio fel pe bydden nhw’n wystlon. Nid gwystlon ydyn nhw; Mae croeso iddyn nhw yng Nghymru.