<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:41, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Nawr, mewn gwahanol gyfarfod yr es i iddo ddoe yng Nghaerdydd, clywais gan gynrychiolydd un o'r sectorau a fydd yn cael eu heffeithio'n helaeth gan y bleidlais Brexit. Fe’n hysbyswyd y gallai'r sector addysg bellach a sgiliau golli £760 miliwn o gyllid yn y dyfodol os na chaiff yr arian hwnnw ei ddarparu. Os a phan nad yw’r cyllid hwnnw’n cael ei ddarparu, y bobl ifanc sy'n cael eu heffeithio fwyaf fydd y rhai sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad gyflogaeth. Dim ond un sector o gymdeithas ddinesig Cymru yw hwnnw, ac mae'n dangos pa mor bwysig yw ein haelodaeth o’r UE a'r manteision sydd yno ac na ddylent eu taflu i ffwrdd.

A ydych chi’n cytuno â mi bod y lleisiau hynny o'r gymdeithas ddinesig yn haeddu cael eu clywed pan gaiff telerau Brexit eu trafod, ac a wnewch chi fabwysiadu safbwynt negodi swyddogol i Gymru, i'w gytuno gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn a'i anfon at Brif Weinidog newydd y DU? Ac, os na allwch chi ddwyn yr arweinydd Torïaidd newydd yn San Steffan i gyfrif am yr addewidion a wnaed yn ymgyrch refferendwm yr UE, a allwch chi ddweud wrthym ni sut y bydd y lleoedd prentisiaeth, y cyrsiau hyfforddi a’r cynlluniau dychwelyd i'r gwaith hynny sydd o fudd i rai o'r bobl fwyaf difreintiedig yn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru ar hyn o bryd, ar gael i'r bobl hynny yn y dyfodol?