<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:47, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Lle bynnag y ceir cyllid Ewropeaidd ar gyfer prosiect penodol, mae’n rhaid edrych yn ofalus ar y prosiect hwnnw pan ddaw'r cyllid Ewropeaidd hwnnw i ben. Roeddwn i’n meddwl bod hynny’n amlwg. Soniwyd am hynny eisoes gan arweinydd yr wrthblaid. Oni bai bod Llywodraeth y DU yn darparu arian yn lle’r arian hwnnw, fel yr addawyd, yna mae'n amlwg, yn y dyfodol, na fydd modd ariannu rhai cynlluniau yn y modd y byddem ni’n gobeithio ei wneud.

Mae'n hoff iawn o ddyfyniadau y prynhawn yma. Gadewch i mi gynnig rhai iddo fe. Ar 2 Mawrth, Andrew R.T. Davies yn siarad ar 'The Wales Report':

Gallaf sicrhau y byddai llywodraeth y DU yn gwneud yn siŵr y byddai’r arian hwnnw’n cael ei ailddosbarthu ymhlith rhanbarthau'r DU, neu fel arall byddai'n methu o ran ei gylch gwaith i ddarparu cymorth a chefnogaeth i'r genedl— y DU y mae’n ei olygu trwy hynny— y mae wedi ei hethol i lywodraethu. A dweud y gwir, ni allwn barhau i godi ofn ar bobl, eu gyrru nhw i'r blwch pleidleisio gan eich bod chi’n eu dychryn nhw i bleidleisio mewn un ffordd.

Ar 14 Mehefin:

Mae ymgyrchwyr am bleidlais i adael wedi dweud y byddai’r arian y mae Cymru'n ei gael gan Frwsel yn cael ei gynnal gan lywodraeth y DU pe byddai Brexit yn digwydd.

Rwy’n croesawu hynny.

Dywedodd Andrew R.T. Davies:

Mae'r cyhoeddiad heddiw i’w groesawu’n fawr ac yn dystiolaeth bellach y byddai Cymru’n well ei byd allan o'r Undeb Ewropeaidd. Er gwaethaf honiadau ffantasi y prif weinidog, rydym ni’n gwybod bellach y byddai cyllid ar gyfer pob rhan o'r DU, gan gynnwys Cymru, yn ddiogel pe byddem ni’n pleidleisio i adael.

Ar 21 Mehefin, dywedodd Andrew R.T. Davies wrth yr ‘Herald':

Gallai Cymru fod cymaint â hanner biliwn o bunnoedd y flwyddyn yn well ei byd os bydd y DU yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ddydd Iau...mae Uwch Weinidogion y Llywodraeth eisoes wedi addo cynnal cyllid presennol yr UE pe byddem ni'n pleidleisio i adael.

A chyllid ychwanegol—cyfran Barnett o £9.8 biliwn y gallai Cymru ei derbyn pe byddem ni’n gadael yr UE. A heddiw, dywedodd wrth y cyfryngau nad oedd yn ymwneud ag arian, roedd yn ymwneud â chanlyniadau. Nawr, y cwestiwn iddo ef yw hwn: a yw'n credu y dylai Llywodraeth y DU dalu pob un geiniog a gollwyd i Gymru? A yw’n cadw at ei ddyfyniadau—ac mae'n hoff o ddyfyniadau heddiw—neu a yw’n rhedeg i ffwrdd oddi wrthyn nhw y bore yma?