Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Mae'n gwbl ryfeddol eich bod chi wedi gwastraffu cymaint o'ch amser—ond rwy'n ddigon hapus eich bod chi’n defnyddio fy nyfyniadau i, gan fod gennych chi cyn lleied i'w ddweud, Brif Weinidog. Rwy’n cadw at fy nyfyniadau ac rwy'n ddigon hapus i roi hynny ar y cofnod. Rwy'n eithaf hapus i ddadlau gyda chi ar unrhyw bryd, mewn unrhyw fan, Brif Weinidog, ar y buddion a welaf, a chymeradwywyd hynny gan y bobl yn y bleidlais ar y refferendwm ar 23 Mehefin. Mae’n hollol anhygoel i mi, ar ôl dau gwestiwn eglur iawn—un i ymbellhau eich hun oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet sydd wedi gwawdio craffter busnes ffermwyr, a’r llall, ynglŷn â'r cytundeb yr ydych chi wedi ei wneud gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol i ddod â nhw i mewn i Lywodraeth sydd, yn eu geiriau eu hunain, â goblygiadau cyllidebol sylweddol i’ch Llywodraeth chi. Nid wyf yn credu bod y rhain yn gwestiynau ffôl i'w gofyn yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog gan eich bod wedi dweud yn ystod yr ymgyrch, ar gyfer pob ymrwymiad cyllideb newydd a wneid gan eich Llywodraeth y byddai’n rhaid cael toriadau mewn mannau eraill. Felly, naw wythnos erbyn hyn ar ôl yr etholiad, nid yw'n afresymol i arweinydd y Ceidwadwyr yma yn y Cynulliad i ofyn y cwestiwn i chi, 'Iawn, rydych chi wedi ymrwymo’r arian hwn i ymrwymiadau’r Democratiaid Rhyddfrydol; o ble ydych chi'n cael yr arian hwnnw?' Nid yw'n ymwneud â'r bleidlais Brexit. Mae'n ymrwymiad a wnaed gennych cyn y bleidlais Brexit gan y bu'r trafodaethau hyn cyn y bleidlais Brexit. Felly, o ble mae'r arian yn dod i fodloni’r ymrwymiadau ariannol sylweddol yr ydych chi wedi eu cytuno gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer y dyfodol? A allem ni gael ateb syml, uniongyrchol, neu ai’r ffaith syml yw nad ydych chi’n gwybod?