Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Mae yna sefyllfa argyfyngus yn bodoli yn fy etholaeth i, sef ym meddygfa Waunfawr, a hoffwn dynnu’ch sylw at y problemau dybryd sydd yn fanno a gofyn i chi ymyrryd, gan fod y mater yn rhygnu ymlaen ers deng mlynedd erbyn hyn.
Mae’r feddygfa yn rhoi gofal gwych i dros 5,000 o gleifion, ond mae’r adeilad yn hollol anaddas—nid oes digon o le, mae cyfrinachedd a diogelwch cleifion dan fygythiad ac nid oes modd i’r practis gymryd myfyrwyr meddygol nac ehangu gwasanaethau. Ddeng mlynedd yn ôl, fe ddywedodd y bwrdd iechyd fod gwella meddygfa Waunfawr yn flaenoriaeth, ond nid yw’r cyfleusterau wedi gwella. A ydych chi’n credu bod y llusgo traed yma yn dderbyniol, ac oherwydd bod Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig, a wnewch chi ymyrryd er mwyn symud pethau ymlaen ar frys?