Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Mae’r Aelod yn iawn ynglŷn â’r sefyllfa yna yn y Waunfawr—mae yna bwysau mawr yna. Rwy’n deall bod y feddygfa ei hunan yn trafod y peth yn fanwl iawn â’r bwrdd iechyd. Mae’n rhaid datrys y broblem cyn gynted ag sy’n bosib—rwy’n deall hynny. Wrth gwrs, byddai’n rhaid cael cais o’r feddygfa yn gyntaf, ond i wneud hynny, wrth gwrs, mae’n rhaid trafod y peth â’r bwrdd iechyd er mwyn sicrhau bod y cais yn un iawn. Ond rwy’n gwybod bod y bwrdd iechyd yn deall y sefyllfa a’n deall bod yn rhaid sicrhau mwy o le i’r feddygfa yn y pen draw. Rwy’n deall taw siop oedd y feddygfa ar un adeg a bod 5,000 o bobl yn cael eu gwasanaethu oddi yno nawr—1,000 ar y dechrau—felly mae’n amlwg bod yn rhaid datrys y broblem cyn gynted ag sy’n bosib.