Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Brif Weinidog, er ein bod ni i gyd yn cytuno bod angen mwy o dai yng Nghymru, nid yw fy etholwyr mewn cymunedau fel Penllergaer, Pontarddulais a Gorseinon wedi eu darbwyllo bod cynllun datblygu lleol drafft y Cyngor yn adlewyrchu'r angen am ddarpariaeth o'r tai iawn yn y lleoedd iawn, i adlewyrchu anghenion pobl yn ystod adegau gwahanol yn eu bywydau. Felly, a allwch chi gadarnhau yn gyntaf, wrth adeiladu tai cyngor, y bydd awdurdodau lleol wedi eu rhwymo yn yr un ffordd ag unrhyw ddatblygwr i roi sylw dyledus cryf i bryderon trigolion lleol am leoliadau? Ac, yn ail, beth ydych chi'n ei wneud ar hyn o bryd i helpu cynghorau edrych ymlaen at ddarparu mwy o gartrefi i bobl hŷn pan fyddant yn cynllunio i adeiladu tai cyngor yn y dyfodol?