Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Bydd cynghorau, wrth gwrs, yn cynllunio yn ôl y newid demograffig. Rydym ni’n gwybod, yn hanesyddol—ers degawdau lawer—bod tai’n cael eu hadeiladu ar y sail eu bod yn mynd i gartrefu teuluoedd. Rydym ni’n gwybod mwy a mwy o bobl yn gynyddol sydd ar eu pennau eu hunain. Maen nhw wedi cael eu taro'n galed gan y dreth ystafell wely, yn enwedig yng Nghymru wledig, lle mae’n anodd dod o hyd i lety un ystafell wely y tu allan i drefi. O ran y pwynt cyntaf, wrth gwrs mae cynghorau wedi eu rhwymo i’w cynlluniau datblygu lleol eu hunain ac mae’n rhaid iddyn nhw gadw at y cynllun hwnnw, yn union fel y byddai unrhyw ddatblygwr arall yn gorfod ei wneud.