<p>Llygredd Aer</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:10, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Fel y dywedais yn gynharach, bydd yr hyn sydd eisoes wedi ei drosi i gyfraith Cymru yn aros yng nghyfraith Cymru. Mater i Lywodraeth Cymru wedyn ac, wrth gwrs, i'r Cynulliad, yw penderfynu pa ddeddfau ddylai aros wedyn. Ond, mae'n werth nodi mai cymhellion Ewropeaidd sydd wedi galluogi'r DU i wella ei sefyllfa. Roedd gan y DU enw gwael, yn amgylcheddol, fel ffynhonnell o law asid. Cefais fy magu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle’r oedd Afon Ogwr yn llifo mewn gwahanol liwiau, yn llythrennol, yn ôl yr hyn a oedd wedi cael ei daflu i mewn iddi i fyny'r afon o rai o'r ffatrïoedd ac, wrth gwrs, y pyllau glo a oedd yn bodoli i fyny'r afon. Felly, roedd yn llifo’n goch, yn wyrdd, yn ddu—enwch unrhyw liw. Nid yw'n digwydd nawr; mae'n afon y gallwch chi weld ei gwaelod erbyn hyn. Yn Afon Taf, fel y gwyddom, ceir rhediad eogiaid sy'n mynd i fyny'r afon , a fyddai wedi bod y tu hwnt i amgyffred 30 mlynedd yn ôl gan fod yr afon mor llygredig. Mae llawer o'r sbardun hwnnw wedi dod o Ewrop mewn gwirionedd, er mwyn gwneud yn siŵr bod y DU yn dal i fyny â’r gweddill. Yr hyn yr wyf i eisiau ei sicrhau yw nad ydym ni’n colli’r cymhelliad sydd wedi bodoli dros y 30 mlynedd diwethaf.