Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Mae'r Llywodraethau Ceidwadol a Llafur wedi cydnabod yr angen i ddeddfu i wella ansawdd aer trwy gyflwyno mesurau i reoli a lleihau llygredd. Pasiwyd llawer o'r mesurau hyn cyn i ni ymuno â'r Undeb Ewropeaidd, er enghraifft, Deddfau Aer Glân 1956 a 1968. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno ei bod yn annirnadwy y bydd unrhyw Lywodraeth y DU yn y dyfodol yn cymryd camau i wrthdroi unrhyw reoliadau cyfredol yr UE sydd ar waith i reoleiddio ansawdd yr aer yng Nghymru?