11. 10. Dadl: Cynllun Cyflawni ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 5:26, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Gydag un o bob wyth o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd yn chwilio am gymorth meddygol ar gyfer salwch meddwl ac amcangyfrif o un o bob pedwar ohonom yn profi problemau iechyd meddwl ar ryw adeg yn ystod ein bywydau, mae'n amlwg bod angen inni roi llawer mwy o flaenoriaeth i iechyd meddwl. Rydym felly'n croesawu'r ffaith ein bod yn trafod strategaeth iechyd meddwl y Llywodraeth heddiw.

Wrth i strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd Llywodraeth Cymru gychwyn ar ei hail gyfnod, ein dyletswydd ni yw sicrhau bod cyflawni'r strategaeth yn cyfateb i’w nodau. Yn anffodus, mae adroddiad Gofal, a gafodd ei ryddhau yr wythnos hon, yn tynnu sylw at y ffaith nad yw cyflawni bob amser yn cyd-fynd ag uchelgais. Rhaid i ni sicrhau bod eich cynllun cyflawni newydd mewn gwirionedd yn cyflawni canlyniadau gwell i'r miloedd o bobl yng Nghymru sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl. Mae'r cynllun cyflawni ar gyfer 2016-19 yn nodi iechyd meddwl plant a phobl ifanc fel maes blaenoriaeth, ac rydym yn cytuno'n llwyr â chi ar hynny.

Rhaid i bobl ifanc a atgyfeiriwyd at CAMHS aros llawer hirach nag sydd raid i oedolion aros. Mae'r amser aros targed yn 112 diwrnod, sy’n syfrdanol, ac mae tua hanner yr holl atgyfeiriadau dros y targed hwnnw. Felly, rydym yn croesawu'r ymrwymiad yn y cynllun cyflawni i leihau amseroedd aros i 28 diwrnod ar gyfer atgyfeiriadau arferol a 48 awr ar gyfer atgyfeiriadau brys. Pan ymgymerodd y cyn Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol â chraffu ar ôl deddfu ar y Mesur iechyd meddwl, canfu nad yw plant a phobl ifanc yn elwa o'r Mesur. Ers i'r pwyllgor gynnal ei adolygiad, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn adolygu'r gwasanaeth CAMHS, ac ar yr ochr hon o'n plaid, rydym yn edrych ymlaen at gasgliadau'r adolygiad.

Fodd bynnag, os ydym i gymryd y pwysau oddi ar ein gwasanaethau acíwt, mae angen i ni wella mynediad at therapïau seicolegol eraill. Mae mynediad cynnar at therapïau siarad, fel therapi ymddygiad gwybyddol, wedi cael ei brofi i wella adferiad a lleihau'r angen am wasanaethau mwy acíwt. Mae Mind yn argymell y dylai’r uchafswm amser aros o atgyfeiriad at y driniaeth gyntaf fod yn 28 diwrnod, a phan fydd hi’n argyfwng iechyd meddwl ar unrhyw un, dylai'r aros fod yn fyrrach eto. Fodd bynnag, mae amseroedd aros ledled Cymru yn llawer hirach; mewn rhai rhannau o Gymru mae'r amseroedd aros cyfartalog tua 11 mis. Mae hyn yn annerbyniol. Ni ddylai pobl mewn trallod orfod aros misoedd am driniaeth. Ni fyddem yn gadael i rywun mewn poen difrifol aros am gymaint â hynny o amser. Pam y dylai iechyd meddwl fod yn wahanol i iechyd corfforol? Rhaid inni weithio gyda chleifion hefyd i gael gwared ar y stigma sy'n gysylltiedig â materion iechyd meddwl.

Wrth gwrs, os ydym i wella gwasanaethau iechyd meddwl, rhaid inni sicrhau bod yr arian cywir ar gael. Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn y cynllun cyflawni i gynnal y gwaith o glustnodi arian ar gyfer iechyd meddwl. Fodd bynnag, mae lefel y cyllid yn ymddangos yn annigonol.  Mae problemau iechyd meddwl yn cyfrif am tua chwarter o'r holl broblemau iechyd, ac eto i gyd rydym yn gwario dim ond 11.4 y cant o gyllideb GIG Cymru. Yn Lloegr, lle nad yw'r gyllideb iechyd meddwl yn cael ei chlustnodi, maent yn gwario 11.9 y cant o gyllideb y GIG ar iechyd meddwl.

Mae un Bwrdd Iechyd Lleol, Aneurin Bevan, fel mater o drefn yn gwario dros 17 y cant yn fwy na'i ddyraniad wedi'i glustnodi.

Mae PricewaterhouseCoopers, yn ei adolygiad o'r trefniadau clustnodi ariannol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, yn datgan nad oedd y dyraniad wedi'i glustnodi yn seiliedig ar asesiad cadarn o anghenion gofal iechyd.  Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n amlwg o'r holl dystiolaeth bod angen inni wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Rydym yn deall bod pot ar gael—pot bach—ac mae'n rhaid i’r gwasanaethau a ddarparwn fod yn gyfartal, ond rydym yn gofyn bod hwn yn un flaenoriaeth y mae'n rhaid i ni wario mwy arni.

Rydym yn croesawu'r ffaith bod arian ychwanegol wedi ei dargedu at feysydd blaenoriaeth yn y cynllun cyflawni, ond byddem yn gofyn eich bod yn ystyried cynyddu'r arian a glustnodir. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi i gyflawni eich strategaeth iechyd meddwl, ond hefyd i’ch dal i gyfrif er mwyn sicrhau bod y strategaeth hon yn cyflawni'r gwelliannau gwirioneddol i iechyd meddwl pobl Cymru. Diolch yn fawr iawn.