– Senedd Cymru ar 5 Gorffennaf 2016.
Byddwn yn awr yn symud ymlaen at eitem 10 ar yr agenda, i drafod y cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon i gynnig y cynnig—Vaughan Gething.
Diolch, Gadeirydd. Cynigiaf y cynnig yn ffurfiol ar gyfer dadl, ac rwy'n falch o gyflwyno ail gynllun cyflawni Llywodraeth Cymru i gefnogi ein strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'.
Ers lansio'r strategaeth yn 2012, bu cynnydd sylweddol ar draws nifer o feysydd. Gall llawer o'r cynnydd hwnnw, wrth gwrs, fynd heb i neb sylwi arno, ond bob dydd ar draws Cymru rydym yn gweld tystiolaeth bod newid yn digwydd, gan wneud gwahaniaeth i unigolion y problemau iechyd meddwl yn effeithio ar eu bywydau.
Un maes pwysig lle mae hyn wedi digwydd yw wrth weithredu ein deddfwriaeth arloesol, Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, ac mae'n deg dweud bod hyn wedi cael ei basio gyda chefnogaeth drawsbleidiol yn y trydydd Cynulliad. Mae ei weithredu wedi gwneud gwelliannau gwirioneddol i’r gofal a'r gefnogaeth y mae unigolion yn eu derbyn ac o ran darparu agwedd wirioneddol gyd-gynhyrchiol sy'n gosod anghenion defnyddwyr y gwasanaeth wrth wraidd y gwaith o gynllunio gwasanaethau a chynllunio gofal a thriniaeth, ac mae hynny'n rhywbeth y dylem fod yn falch ohono.
Ers mis Ebrill 2013, mae dros 100,000 o bobl wedi cael eu hasesu gan y gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol a sefydlwyd o dan y Mesur, ac mae dros hanner y rheini wedi mynd ymlaen i dderbyn triniaeth yn y gwasanaethau hynny. Mae amseroedd aros am asesiad a thriniaeth mewn gofal sylfaenol wedi parhau i wella.
Rydym hefyd wedi gweld y trydydd sector yn cymryd rhan fwy gweithredol yn y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd meddwl eu llunio a'u cyflwyno trwy’r blynyddoedd diwethaf. Mae'n enghraifft dda o egwyddorion iechyd a gofal doeth ar waith. Er enghraifft, mae menter ffrindiau dementia’r Gymdeithas Alzheimer yn cynyddu dealltwriaeth o ddementia ac yn helpu i fynd i'r afael â'r stigma, ac mae Bipolar UK yn cynnig ystod o gymorth ymarferol i bobl yr effeithir arnynt gan anhwylder deubegynol.
Rydym wedi parhau i wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o'r GIG yng Nghymru, a chynyddodd yr arian i dros £600 miliwn yn y flwyddyn ddiwethaf. Yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, cyhoeddwyd dros £22 miliwn o arian newydd yn cyd-fynd â meysydd blaenoriaeth ar gyfer cyflawni dros y tair blynedd nesaf. Mae hynny'n cynnwys dros £5.5 miliwn ar gyfer gofal iechyd meddwl pobl hŷn, a fydd yn cefnogi, ymysg pethau eraill, sefydlu gwasanaeth cyswllt seiciatrig i oedolion hŷn amlddisgyblaethol i helpu gyda rhyddhau cleifion yn gyflymach ac yn fwy priodol o'r ysbyty a, gobeithio, gostwng cyfraddau aildderbyn. Hefyd, mae £1.5 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn datblygu gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol cymunedol hygyrch ar draws Cymru. Dylai hyn helpu i wella canlyniadau iechyd meddwl i fenywod sydd â salwch amenedigol, eu babanod a'u teuluoedd.
Mewn gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, i gefnogi’n rhaglen law yn llaw ar gyfer plant a phobl ifanc, mae £7.6 miliwn ychwanegol wedi'i ddyrannu i ariannu gwasanaethau cymunedol newydd ar gyfer anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd ac awtistiaeth, a gwell mynediad at wasanaethau argyfwng a therapïau seicolegol. Felly, rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys lleihau lleoliadau y tu allan i'r ardal ar gyfer plant Cymru, ac mae gwasanaethau newydd yn dechrau sefydlu eu hunain yn dda ar ôl cyfnod o recriwtio llwyddiannus i mewn i’r gwasanaethau hynny.
Y newidiadau yn CAMHS yw'r rhai mwyaf sylweddol ers blynyddoedd lawer. Drwy sicrhau bod adnoddau priodol ar gael, byddwn yn helpu i sicrhau mynediad amserol at wasanaethau a'r canlyniadau cywir ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae pob un o'r ymrwymiadau hyn yn cael eu cynnwys yn y cynllun cyflawni i sicrhau bod ffocws parhaus ar y meysydd allweddol hyn. Mae ein cynllun cyflawni newydd hefyd yn ein hymrwymo i wella ymhellach fynediad at therapïau siarad. Mae camau sylweddol wedi'u cymryd i wella darpariaeth therapïau seicolegol yng Nghymru, gyda buddsoddiad ychwanegol o bron £2 filiwn yn y gwasanaethau i oedolion y llynedd, a mwy nag £1 filiwn y flwyddyn hon. Mae mwy o therapïau seicolegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn cael eu darparu yn lleol nag erioed o'r blaen.
Mae’r tair blynedd diwethaf wedi dangos i ni, er bod darparu ein strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' wedi bod yn heriol, mae hefyd wedi bod yn gyraeddadwy, ond, wrth gwrs, mae llawer mwy i'w wneud. Felly, mae'r cynllun cyflawni drafft ar gyfer 2016-19 yr ydym yn ei drafod heddiw yn cynnwys nifer o amcanion newydd uchelgeisiol, gan gynnwys adeiladu cydnerthedd a gwell cefnogaeth ar gyfer ein pobl ifanc, yn enwedig y rhai sydd mewn perygl o brofiadau niweidiol plentyndod; mynd i'r afael ymhellach â hunanladdiad a hunan-niweidio a’u hatal; a chynllun gweithredu strategol newydd ar gyfer dementia; gweithredu'r concordat gofal argyfwng i sicrhau bod cefnogaeth briodol yn cael ei darparu i unigolion mewn cysylltiad ag asiantaethau cyfiawnder troseddol; ac ystod o gamau gweithredu i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu mewn modd diogel, amserol ac effeithiol sy'n cefnogi urddas a pharch y defnyddwyr gwasanaeth; ac mae pwyslais parhaus ar sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn gallu dylanwadu ar ffurf polisi iechyd meddwl a gwasanaethau ar draws Cymru.
Rydym yn gwybod bod stigma a gwahaniaethu yn parhau i fod yn her fawr. Dyna pam, yn y blynyddoedd diwethaf, ein bod wedi cefnogi, ynghyd ag Aelodau ar draws y Siambr, ymgyrch Amser i Newid Cymru, gan gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth am broblemau iechyd meddwl a chael pobl i ddechrau siarad am iechyd meddwl. Mae ein cynllun cyflawni newydd yn rhoi hyd yn oed mwy o bwyslais ar fynd i'r afael â stigma a gwahaniaethu.
Mae ymatebwyr i'n hymgynghoriad wedi croesawu'r dull llwybr bywyd yr ydym wedi’i fabwysiadu yn y cynllun. Ond maent wedi nodi bod rhai materion yn berthnasol i bobl o bob oedran, er enghraifft, unigrwydd ac arwahanrwydd. Gwnaeth ymatebwyr hefyd awgrymiadau ynglŷn â sut y gallai'r cynllun gael ei gryfhau, gan gynnwys defnyddio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fel dull ar gyfer ymrwymiad a darparu traws-sector, a chynnwys swyddogaeth cyflwyno'r trydydd sector ac ystyried anghenion iechyd corfforol pobl â salwch iechyd meddwl.
Rydym yn rhoi ystyriaeth ofalus i bob un o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, a bydd fersiwn derfynol y cynllun yn ymgorffori llawer o'r awgrymiadau defnyddiol a gawsom, ac, wrth gwrs, rwy’n edrych ymlaen at ystyried y sylwadau a wneir yn y ddadl hon heddiw. Rydym hefyd yn cymryd rhan mewn ymarfer meincnodi rhyngwladol ar wasanaethau iechyd meddwl, a bydd unrhyw ganfyddiadau perthnasol o'r broses honno yn cael eu hymgorffori yn fersiwn derfynol y cynllun cyflawni, yr ydym yn bwriadu ei gyhoeddi yn nes ymlaen yn yr haf.
Hyderaf y bydd Aelodau o bob plaid yn cydnabod ein llwyddiannau a rennir hyd yma ac yn sylweddoli nad ydym wedi cymryd dewisiadau meddal wrth bennu ein hamcanion ar gyfer y tair blynedd i ddod. Ni fydd pob un o’r uchelgeisiau yr ydym wedi’u pennu yn hawdd eu cyflawni, ond rwy'n hyderus y gellir gwneud cynnydd go iawn yn ystod cam nesaf y ddarpariaeth.
Byddaf yn ymdrin yn fyr â'r gwelliant yn awr. Nid oes gan y Llywodraeth unrhyw broblem gyda'r gwelliant a bydd yn ei gefnogi. Rwy’n cydnabod ei bod yn ddefnyddiol cael model galw a chynllunio capasiti integredig i ddeall lle dylai gwasanaethau gael eu darparu neu eu moderneiddio lle mae adnoddau yn cael eu dyrannu, ac nid wyf yn gweld y dull hwn fel un sydd mewn unrhyw ffordd yn anghyson neu’n ddewis arall i glustnodi sy'n gosod lefel isaf yn hytrach na nenfwd, fel y cymeradwywyd y llynedd gan adolygiad annibynnol. Felly, rwy'n hapus inni gefnogi'r gwelliant hwnnw. Ond rwy’n edrych ymlaen at glywed barn yr Aelodau ar draws y Siambr yn y ddadl heddiw ac, unwaith eto, gallaf gadarnhau y bydd yr hyn gaiff ei ddweud heddiw yn cael ei ystyried wrth inni gwblhau'r cynllun cyflawni ar gyfer y tair blynedd nesaf.
Diolch. I have selected the amendment to the motion. I call on Angela Burns to move amendment 1 tabled in the name of Paul Davies.
Diolch, Lywydd. Weinidog, diolch yn fawr iawn i chi am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Rwyf wedi darllen y cynllun cyflawni gyda llawer iawn o ddiddordeb ac rwy’n cytuno â chi ar brif amcanion y Llywodraeth—yr hyn yr ydych yn ceisio ei gyflawni o ran gwella darpariaeth iechyd meddwl yma yng Nghymru. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw un yn anghydfynd â'ch amcanion a llawer o’ch methodoleg.
Rydych chi wedi cyffwrdd, eich hun, ar sut yr ydym yn ymladd y stigma hwn ar hyn o bryd, ac mae hynny’n mynd drwy bob maes. Nid dim ond y stigma o un person yn erbyn person arall ydyw, ond gall diwylliannau fod yn gynhenid o fewn sefydliadau a all stigmateiddio pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Does dim amheuaeth yn bendant mae angen hawl mwy cyfartal rhwng triniaeth iechyd meddwl ac iechyd corfforol, ac mae hwn yn un o'r meysydd lle byddwn wir yn eich annog i ystyried ymhellach sut y gallai Llywodraeth Cymru gyflwyno hyn.
Rwy'n gyndyn i sôn am y GIG yn Lloegr, oherwydd gwn fod edrych yn unrhyw le ar draws y ffin yn tueddu i fod yn anathema mawr i lawer o bobl yma. Fodd bynnag, o fewn y GIG yn Lloegr maent wedi cyflwyno cysyniad o barch cydradd. Mae hawliau cyfartal i bobl ag anawsterau iechyd corfforol ac iechyd meddwl wedi cael eu mabwysiadu, ac mae hyn wedi mynd rhywfaint o’r ffordd tuag at gydnabod anghenion iechyd meddwl, yn enwedig yn achos rhai pobl â chyflyrau meddygol. Tybed a allai fod yn ddefnyddiol edrych ar hynny, ac rwy'n siŵr y bydd gan wledydd eraill hefyd syniadau tebyg iawn, i weld a fyddem o bosibl yn gallu mabwysiadu unrhyw un o'r rheini a'u datblygu yn ein gwasanaeth iechyd ni yma.
Mae gen i bum math o faes allweddol yr hoffwn i siarad amdanynt, ac rwyf wrth fy modd eich bod yn mabwysiadu ein gwelliant. Fe wnes i nodi'r hyn a ddywedwyd gennych—nid yw clustnodi yn ymwneud â hyn fel y mwyafswm ond yn hytrach y lleiafswm—ond yn anffodus, bydd llawer o sefydliadau yn ei ddefnyddio fel, 'Ffiw, cyhyd ag y byddwn wedi gwario dim ond yr hyn sydd raid i ni, a dim mwy', ac rydych yn ei weld ledled Cymru; rydych yn ei weld mewn llawer o sefydliadau. Maen nhw i gyd dan bwysau yn ariannol; mae ganddyn nhw i gyd lawer o hawliadau sy'n cystadlu â’i gilydd ar adnodd cyfyngedig, ac yn aml iawn mae iechyd meddwl yn dod fel gwariant sinderela yn rhai o'r sefydliadau hyn. Felly, rydym yn credu y byddai model galw a chynllunio capasiti integredig yn ffordd ymlaen llawer gwell. Byddai hefyd yn ffordd dda iawn o allu archwilio'r galw mewn gwirionedd, gan fod gan faterion iechyd meddwl lawer math o bethau aneglur yn perthyn iddynt. Ac os byddwch yn dechrau cynnwys, er enghraifft, bobl ifanc ag anawsterau dysgu, sy'n aml iawn o ganlyniad i ryw fath o drallod iechyd meddwl, yna dylai hynny hefyd ffitio i mewn i friff ehangach iechyd meddwl. Felly, rwyf wrth fy modd eich bod wedi cytuno i dderbyn y gwelliant hwnnw, ond hoffwn allu dod â’r ddadl hon yn ôl i'r Siambr mewn chwech neu wyth mis i gael gwybod sut mae’r Llywodraeth yn mynd i wneud i hynny weithio a’i gyflwyno.
Hoffwn gyfeirio at fesurau perfformiad. Er mwyn i'r strategaeth gael ei chyflwyno'n effeithiol, mae angen inni gael dull seiliedig ar ganlyniadau sy'n cael ei gefnogi yn gyfochrog gan gyfres o'r dangosyddion ariannol newydd hyn. Mae angen inni gael mwy o adroddiadau cyhoeddus gan Fyrddau Iechyd Lleol, byrddau partneriaeth lleol a byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Hoffwn i ddeall, Weinidog, yr hyn nad yw eich adroddiad neu eich cynllun cyflawni yn ei ddweud, sef yn y nifer o feysydd lle rydych eisoes wedi gosod targedau, pa mor dda yr ydych wedi cyflawni yn erbyn y targedau hyn. Felly, er enghraifft, mae lleoliadau y tu allan i'r ardal ar gyfer plant a phobl ifanc wedi gostwng 10 y cant yn is na llinell sylfaen 2013-14 bob blwyddyn, ac felly mae angen inni gael rhyw fath o adroddiad sy'n dod yn ôl allan fel y gallwn fesur ein sefyllfa. A phan fyddwn yn sôn am sut yr ydym yn adrodd, gadewch i mi ddewis un arall, sef un lle rydych bron yn dweud nad oedd ond ychydig yn niwlog, ble mae'n dweud mai un o fesurau canlyniad fyddai cael adborth. Sut ydych chi'n diffinio ‘adborth'? Pwy sy'n ei gasglu, pwy sy’n ei fesur, a phwy mewn gwirionedd sy’n cael ei weld? A yw'n mynd i aros o fewn y sefydliadau? A fydd yn cael ei anfon ymlaen at Lywodraeth Cymru? Mae cymaint o ddangosyddion sydd wedi eu henwebu yma; lawer iawn ohonynt heb achosion anodd ynghlwm wrthynt o ran lle maent yn cael eu hadrodd, pwy sy’n gweld yr adrodd hwnnw a phwy all gymryd camau gweithredu. Felly, byddwn i'n eich annog, Weinidog, i ystyried hynny.
Mae'n ddrwg gen i; rwy’n carlamu drwy hwn, oherwydd nid yw pum munud yn llawer o amser i siarad am bwnc mor bwysig. Cleifion mewnol ac amseroedd aros CAMHS; rwy’n meddwl efallai y byddaf ond yn dweud o ran y mater hwn y gallaf weld bod Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg newydd yn bresennol, ac rwy'n gwbl sicr y bydd yn edrych ymlaen at archwilio'r hyn sy'n digwydd gydag amseroedd aros CAMHS ar gyfer pobl ifanc a phlant. Er bod eich adroddiad yn sôn am hyn yn llwyddiannus iawn, rydym yn gwybod nad yw adolygiad Shillabeer yn cyflawni popeth y dylai ei wneud, ac mae angen i ni roi mwy o ystyriaeth i hynny.
Ac yn olaf, Lywydd, rwy’n amau fy mod i wedi rhedeg allan o amser yn gyfan gwbl i gloi. Ond roeddwn eisiau dweud wrthych fod holl faes cyflawni iechyd meddwl mor bwysig. Os edrychwn ar ein pobl ifanc, mae 23 y cant o'r holl bobl ifanc sy'n mynychu ysgolion yng Nghymru yn dioddef o ryw fath o rwystr iechyd meddwl. Mae hyn yn eu hatal rhag dysgu, mae'n eu hatal rhag bod yn llwyddiannus, mae'n eu hatal rhag cael y bywydau a ddylai fod ganddynt. A phan fyddwch yn dechrau ar y lefel honno yr holl ffordd drwodd at bobl ag awtistiaeth, pobl ag Asperger, pobl â syndromau sy'n cael eu cydnabod ac y mae llwybrau iddynt, mae'n rhaid i ni eu helpu gan fod hynny'n ganran mor uchel o'r boblogaeth nad ydynt y dinasyddion y gallent fod, ac nac ydynt yn cael y cymorth y gallent fod yn ei gael. Felly, unrhyw beth yr ydych am ei wneud i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, rwy'n hollol barod, ac mae’r blaid hon yn hollol barod, i geisio eich cefnogi chi. Ond rydyn ni eisiau gweld canlyniadau credadwy, mesurau perfformiad credadwy, ac adroddiadau credadwy i’r Cynulliad. Diolch.
A gaf i ddweud yn gyntaf fod yna wella, yn sicr, wedi bod, rydw i’n meddwl, mewn gwasanaethau iechyd meddwl ers cyflwyno’r Mesur iechyd meddwl, ond, heb os, mae yna lawer iawn o feysydd lle mae yna angen gwella mawr o hyd? Rydw i hefyd yn croesawu diweddariad y Llywodraeth ar eu cynllun nhw; mae o i’w weld yn gam ymlaen o’r cynllun diwethaf. Mae yna gamau gweithredu pendant yma rŵan, amserlen yn cael ei nodi hefyd, ar gyfer gweithredu, ac mae yna hefyd—yn bwysig iawn, rydw i’n meddwl—gyfeiriad penodol yn y cynllun at bwy sydd i fod yn gyfrifol am wahanol gamau gweithredu.
Ond, ar y llaw arall, mae yna gwestiynau mawr o hyd ynglŷn â sawl agwedd, gan gynnwys sut mae mesur cynnydd. Ar gyfer rhai dangosyddion mae’r targed yn bendant iawn. Er enghraifft, mae 100 y cant o ferched a gafodd eu hadnabod i fod â phroblemau iechyd meddwl difrifol yn cael cynnig cefnogaeth briodol yn ystod beichiogrwydd. Mae hynny’n dda o beth, ond mewn meysydd eraill nid oes yna dargedau cynnydd cweit mor amlwg.
Mae yna bwyntiau penodol, rydw i’n meddwl, yn codi o argaeledd therapïau siarad. Mae adroddiad gan yr elusen iechyd meddwl Gofal yn nodi bod llawer gormod o bobl o hyd yn cael cynnig triniaeth drwy feddyginiaeth yn hytrach na mathau eraill o driniaethau a chefnogaeth. Ac er eu bod nhw croesawu’r gwaith sydd wedi cael ei wneud gan fyrddau iechyd i ehangu’r ddarpariaeth, maen nhw’n credu bod angen gwneud llawer mwy o hyd i ehangu’r ystod yma o driniaethau sydd ar gael. Yn benodol, maen nhw’n teimlo bod pobl yn methu â chael cynnig therapi siarad oherwydd nid oes darpariaeth therapi siarad ar gael mewn ambell i ardal, neu oherwydd bod rhestrau aros yn rhy hir—hynny yw, nid am resymau clinigol.
Gwnaf hefyd sôn am faes arall mae Gofal, yn benodol, yn teimlo ei fod yn cael sylw annigonol, a hynny ydy anhwylderau bwyta. Maen nhw’n siomedig iawn, medden nhw, ar ôl gweithio efo’r grŵp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta i argymell nifer o ffyrdd posib ymlaen, a chamau gweithredu pendant a allai gael eu cymryd, yn ogystal â sut i fesur perfformiad, fod yna ddiffyg mawr yn y strategaeth i fynd i’r afael â phroblemau yn y maes yma.
Os caf symud ymlaen at faes rwy’n gwybod sydd yn achosi pryder i lawer ohonom ni yma yn y Siambr—ac rydym ni newydd gael cyfeiriad ato fo yn fan hyn—sef gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yn benodol. Rydym ni’n bryderus iawn fel Aelodau yma oherwydd ein bod ni’n clywed yn gyson gan lawer gormod o etholwyr yn rhannu eu pryderon nhw. Mi dderbyniais lythyr yn ddiweddar gan gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gynradd Cemaes yn Ynys Môn. Mi wnaf ddarllen ohono: ‘Mae llywodraethwyr Ysgol Cemaes wedi gofyn i mi ysgrifennu atoch i leisio ein pryderon sylweddol am y gwasanaeth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc. Mae gennym nifer o blant yn yr ysgol gynradd sydd angen cymorth a’n dealltwriaeth yw bod cyfnod disgwyl o chwe mis ar gyfer cael mynediad i’r gwasanaeth. Teimlwn fod hyn yn gwbl annerbyniol, ac mae’n codi cwestiynau arwyddocaol am ymrwymiad y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru i les ein plant.’
Mae’n dweud y cyfan; pobl sydd ar—
Yes, of course.
Diolch ichi am gymryd yr ymyriad. A fyddech chi hefyd yn cydnabod mai un o'r problemau gydag amseroedd aros hir o'r fath ar gyfer gwasanaethau CAMHS yw bod y bobl ifanc hynny wedyn yn cael eu taflu yn ôl i wasanaethau lleol a ddarperir gan gynghorau sir, pobl fel y tîm anableddau, y tîm o amgylch y teulu, ac mae'n rhoi y rheini dan bwysau aruthrol ac yn mynd â nhw oddi wrth y bobl a ddylai fod yn brif gyfrifoldeb iddynt?
Rwy’n meddwl eich bod yn hollol gywir, a bod canlyniadau pellach hefyd i amseroedd aros hwy, yn ogystal â thaflu'r baich, os mynnwch, i rannau eraill o’n gwasanaethau cyhoeddus.
It’s very obvious, I think, that the length of waiting times makes a difference to the outcome ultimately. The survey by Gofal shows a very clear relationship between the time that someone waits for treatment and the outcome. The longer someone waits, according to their survey, the less likely it is that they will have a positive outcome in terms of their mental health and well-being. So, it’s not a matter of people having to wait patiently for a service that is going to be as good ultimately; you’re waiting for something that can’t, possibly, bring as good an outcome ultimately.
A couple of other items before closing: the need for one-to-one therapies for many people who, at present, are offered group therapy. There is a place for group therapy, but there are people who have group therapy because the resources aren’t available for one-to-one therapy. The need for out-of-hours appointments is very important. We need more such appointments, particularly where managing to stay in employment is one of the ultimate outcomes that people are aiming for. Of course, it’s very important to expand the care and the support available through the medium of Welsh.
To close, therefore, Plaid Cymru would have—we’ve noted this before—tried to ensure that we increased in real terms the money that goes in to mental health. We would have established residential clinics for eating disorders and tried to become a world leader in that area. Yes, resources are tight—we realise that—but we’re talking about an area here that, for many years, has failed to receive the right resources to ensure that it has its appropriate place within our health service. So, yes, there are positive steps in this latest strategy from the Government, but there is a long way to go.
Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Gydag un o bob wyth o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd yn chwilio am gymorth meddygol ar gyfer salwch meddwl ac amcangyfrif o un o bob pedwar ohonom yn profi problemau iechyd meddwl ar ryw adeg yn ystod ein bywydau, mae'n amlwg bod angen inni roi llawer mwy o flaenoriaeth i iechyd meddwl. Rydym felly'n croesawu'r ffaith ein bod yn trafod strategaeth iechyd meddwl y Llywodraeth heddiw.
Wrth i strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd Llywodraeth Cymru gychwyn ar ei hail gyfnod, ein dyletswydd ni yw sicrhau bod cyflawni'r strategaeth yn cyfateb i’w nodau. Yn anffodus, mae adroddiad Gofal, a gafodd ei ryddhau yr wythnos hon, yn tynnu sylw at y ffaith nad yw cyflawni bob amser yn cyd-fynd ag uchelgais. Rhaid i ni sicrhau bod eich cynllun cyflawni newydd mewn gwirionedd yn cyflawni canlyniadau gwell i'r miloedd o bobl yng Nghymru sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl. Mae'r cynllun cyflawni ar gyfer 2016-19 yn nodi iechyd meddwl plant a phobl ifanc fel maes blaenoriaeth, ac rydym yn cytuno'n llwyr â chi ar hynny.
Rhaid i bobl ifanc a atgyfeiriwyd at CAMHS aros llawer hirach nag sydd raid i oedolion aros. Mae'r amser aros targed yn 112 diwrnod, sy’n syfrdanol, ac mae tua hanner yr holl atgyfeiriadau dros y targed hwnnw. Felly, rydym yn croesawu'r ymrwymiad yn y cynllun cyflawni i leihau amseroedd aros i 28 diwrnod ar gyfer atgyfeiriadau arferol a 48 awr ar gyfer atgyfeiriadau brys. Pan ymgymerodd y cyn Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol â chraffu ar ôl deddfu ar y Mesur iechyd meddwl, canfu nad yw plant a phobl ifanc yn elwa o'r Mesur. Ers i'r pwyllgor gynnal ei adolygiad, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn adolygu'r gwasanaeth CAMHS, ac ar yr ochr hon o'n plaid, rydym yn edrych ymlaen at gasgliadau'r adolygiad.
Fodd bynnag, os ydym i gymryd y pwysau oddi ar ein gwasanaethau acíwt, mae angen i ni wella mynediad at therapïau seicolegol eraill. Mae mynediad cynnar at therapïau siarad, fel therapi ymddygiad gwybyddol, wedi cael ei brofi i wella adferiad a lleihau'r angen am wasanaethau mwy acíwt. Mae Mind yn argymell y dylai’r uchafswm amser aros o atgyfeiriad at y driniaeth gyntaf fod yn 28 diwrnod, a phan fydd hi’n argyfwng iechyd meddwl ar unrhyw un, dylai'r aros fod yn fyrrach eto. Fodd bynnag, mae amseroedd aros ledled Cymru yn llawer hirach; mewn rhai rhannau o Gymru mae'r amseroedd aros cyfartalog tua 11 mis. Mae hyn yn annerbyniol. Ni ddylai pobl mewn trallod orfod aros misoedd am driniaeth. Ni fyddem yn gadael i rywun mewn poen difrifol aros am gymaint â hynny o amser. Pam y dylai iechyd meddwl fod yn wahanol i iechyd corfforol? Rhaid inni weithio gyda chleifion hefyd i gael gwared ar y stigma sy'n gysylltiedig â materion iechyd meddwl.
Wrth gwrs, os ydym i wella gwasanaethau iechyd meddwl, rhaid inni sicrhau bod yr arian cywir ar gael. Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn y cynllun cyflawni i gynnal y gwaith o glustnodi arian ar gyfer iechyd meddwl. Fodd bynnag, mae lefel y cyllid yn ymddangos yn annigonol. Mae problemau iechyd meddwl yn cyfrif am tua chwarter o'r holl broblemau iechyd, ac eto i gyd rydym yn gwario dim ond 11.4 y cant o gyllideb GIG Cymru. Yn Lloegr, lle nad yw'r gyllideb iechyd meddwl yn cael ei chlustnodi, maent yn gwario 11.9 y cant o gyllideb y GIG ar iechyd meddwl.
Mae un Bwrdd Iechyd Lleol, Aneurin Bevan, fel mater o drefn yn gwario dros 17 y cant yn fwy na'i ddyraniad wedi'i glustnodi.
Mae PricewaterhouseCoopers, yn ei adolygiad o'r trefniadau clustnodi ariannol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, yn datgan nad oedd y dyraniad wedi'i glustnodi yn seiliedig ar asesiad cadarn o anghenion gofal iechyd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n amlwg o'r holl dystiolaeth bod angen inni wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Rydym yn deall bod pot ar gael—pot bach—ac mae'n rhaid i’r gwasanaethau a ddarparwn fod yn gyfartal, ond rydym yn gofyn bod hwn yn un flaenoriaeth y mae'n rhaid i ni wario mwy arni.
Rydym yn croesawu'r ffaith bod arian ychwanegol wedi ei dargedu at feysydd blaenoriaeth yn y cynllun cyflawni, ond byddem yn gofyn eich bod yn ystyried cynyddu'r arian a glustnodir. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi i gyflawni eich strategaeth iechyd meddwl, ond hefyd i’ch dal i gyfrif er mwyn sicrhau bod y strategaeth hon yn cyflawni'r gwelliannau gwirioneddol i iechyd meddwl pobl Cymru. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n falch o gael y cyfle i siarad heddiw. Rydym yn gwybod y bydd problem iechyd meddwl yn effeithio ar un o bob pedwar ohonom yn ystod ein bywydau. Felly mae'n hanfodol ein bod yn rhoi y sylw a’r craffu y mae'n ei haeddu i’r cynllun cyflawni hwn. Roeddwn eisiau gwneud rhai sylwadau byr heddiw ar ddwy ran o'r cynllun. Mae'r cyntaf yn ymwneud â fy ngalwadau blaenorol ar gyfer strategaeth dementia ar gyfer Cymru sydd ag adnoddau da a chynhwysfawr ac sy’n seiliedig ar ganlyniadau, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf wedi galw amdano yn y gorffennol pan arweiniais ddadl fer ar hyn yn y Siambr, yn ôl ym mis Ionawr. Rwyf wrth fy modd bod y cynllun cyflawni yn cynnwys yr ymrwymiad i gael strategaeth dementia i Gymru ac rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy o fanylion gan Lywodraeth Cymru ar hynny, ond roeddwn eisiau ystyried rhai pwyntiau sy'n gysylltiedig â hynny .
Gwyddom fod cynnydd gwych wedi bod wrth droi Cymru yn genedl sy’n ystyriol o ddementia ac rwy’n croesawu'r hyn a ddywedodd y Gweinidog am barhau i ganolbwyntio ar hynny heddiw. Mae dros 20 o gymunedau sy’n ystyriol o ddementia wedi’u sefydlu yng Nghymru ar hyn o bryd, ac rwy'n falch iawn mai fy etholaeth i yn Nhorfaen oedd yr ail yng Nghymru i ennill statws ystyriol o ddementia. Boed yn fusnesau neu wasanaethau iechyd lleol, hyd at Big Pit: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru, rwyf wedi gweld y fenter hon yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl. Pan fyddwch yn ystyried nifer y bobl sy'n cael diagnosis o ddementia yn awr, a'r angen mewn gwirionedd i ganfod ffordd drwy'r heriau y mae hynny yn eu cyflwyno i ni fel cymdeithas, rwy’n credu mai dyma un o'r pethau mwyaf pwerus y gallwn ei wneud i wir frwydro yn erbyn yr hyn a all fod yn gyngor anobaith yn wyneb dementia. Felly, rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio ar hynny.
Y maes arall yr oeddwn am siarad amdano oedd cyfraddau diagnosis, sydd yn amlwg yn hollol hanfodol. Ar y pwynt hwnnw pan fydd claf yn cael y diagnosis, sydd yn anochel yn un trychinebus i deuluoedd, y maent yn gallu dechrau dod i delerau ag ef a chynllunio ar gyfer yr hyn sydd i ddod. Wrth gwrs, rydym yn gwybod mai cyfraddau diagnosis dementia yng Nghymru yw'r isaf yn y DU ar hyn o bryd. Rwy'n croesawu'n fawr iawn yr ymrwymiad yn y cynllun cyflawni i edrych ar darged o 50 y cant ar gyfer cofrestrau dementia meddygon teulu a pha mor bwysig yw’r cam hwn ar gyfer cynnydd graddol blynyddol, ond rwy’n credu bod llawer mwy o waith i'w wneud. Ni fyddai hanner cant y cant yn ddigon ar gyfer afiechydon fel canser a dylem, rwy’n meddwl, fod yn anelu yn llawer uwch na hynny yn achos dementia. Rwy'n ymwybodol bod y Gymdeithas Alzheimer wedi galw ar gyfer targedau o tua 75 y cant ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol erbyn 2021. Hyd yn oed os ydych yn edrych ar rannau eraill o'r DU, fel Gogledd Iwerddon, lle mae'r cyfraddau yn 64 y cant, rwy’n meddwl y gallem fod yn anelu yn uwch. Felly, rwy’n gwybod bod y Gweinidog wedi ymrwymo i gynyddu targedau yn flynyddol a byddai gennyf ddiddordeb mewn rhagor o fanylion ynghylch sut yr ydym yn bwriadu tyfu'r targed hwnnw yn y dyfodol.
Wrth gwrs, mae diagnosis yn ddiystyr heb fod y cymorth cywir ar waith wedi hynny. Yn wir, gall diagnosis ei gwneud yn anoddach i ymdopi heb y cymorth cywir ar waith. Y maes arall yr oeddwn am ei godi heddiw oedd yr angen am weithwyr cymorth penodol. Ar hyn o bryd, dim ond 39 y cant o’r cleifion yng Nghymru sy’n cael gweithiwr cymorth. Rwyf wrth fy modd bod y cynllun cyflawni yn nodi'r angen i wella hyn, ond rwy’n credu bod angen edrych eto ar frys ar yr awgrym a gafwyd o un gweithiwr cymorth i bob dau glwstwr meddyg teulu. Roedd hwn yn bwynt a wneuthum yn fy nadl fer. Mae'r Gymdeithas Alzheimer wedi amcangyfrif y byddai hynny tua 32 o weithwyr ar gyfer Cymru gyfan, ond, ar y gyfradd diagnosis bresennol, byddai angen i ni gael tua 370 er mwyn bodloni’r anghenion, a chymaint â 650 o weithwyr os ydym i gael cyfraddau diagnosis hyd at 75 y cant. Felly, rwy’n gobeithio bod hynny'n rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu edrych arno.
Croesawaf yn fawr yr ymrwymiad yn y cynllun cyflawni i barhau i yrru gwelliannau mewn wardiau iechyd meddwl oedolion, yn seiliedig ar ganlyniadau'r archwiliadau dirybudd. Ond rwyf hefyd yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n galed i gynnwys wardiau iechyd meddwl oedolion yn Neddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016, sy'n un o’r ymrwymiadau a wnaed gan y Gweinidog blaenorol i’w gyflawni cyn gynted ag sy'n ymarferol. Rwy'n credu bod hynny'n hollbwysig.
Yn olaf, felly, gan droi at blant a phobl ifanc, rwy’n cydnabod yn fawr iawn y pwyntiau sydd wedi'u gwneud am y gwasanaeth CAMHS, ac mae'n rhywbeth yr wyf wedi’i godi lawer, lawer gwaith yn y pwyllgor fy hun. Rwy’n gobeithio y bydd y pwyllgor newydd yn parhau i ganolbwyntio ar hynny. Rydym wedi gweld cynnydd da gan Lywodraeth Cymru, ond ni allwn fforddio i laesu dwylo am eiliad yn y maes hwnnw. Mae'n rhaid i ni barhau i gael yr adnoddau, ond hefyd mae’n rhaid ei yrru ymlaen yn wleidyddol, a gobeithio y bydd y Llywodraeth a'r pwyllgor, gan weithio gyda'i gilydd, yn gallu parhau i yrru gwelliannau yn y maes hwnnw. Diolch.
Rwy’n ei chyfrif hi’n fraint i allu cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ddod â’r pwnc gerbron yn ymdrin â ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’. Wrth gwrs, mae rhai ohonom ni’n ddigon hen i gofio Mesur iechyd meddwl Jonathan Morgan, cyn Aelod o’r Cynulliad yma, rai blynyddoedd yn ôl nawr, sydd wedi dod â lot o’r gwaith yma gerbron, gyda phwyslais arbennig y Mesur yna ar driniaeth gynnar. Fel meddygon, rydym ni’n credu’n glir yn hynny. Mae’n allweddol bwysig ichi gael triniaeth yn gynnar ac mae’r holl beth yma o gael rhestr aros yn gweithio’n gyfan gwbl yn erbyn yr egwyddor sylfaenol yna.
Ond, yn y bôn, rydym ni eisiau gweld rhagor o weithwyr iechyd ar y llawr sy’n gallu ymdrin â’r problemau. Fel meddyg teulu, buaswn i’n gobeithio y byddwn i’n gallu arallgyfeirio claf â phroblemau iechyd meddwl yn uniongyrchol at therapi siarad, ond nid dyna ydy’r achos ar hyn o bryd. Mae’n cymryd rhai misoedd i’m cleifion weld rhywun sydd yn cynnig CBT ac ati. Mae’n rhaid i’r sefyllfa yna newid. Hyd yn oed os ydym ni’n diagnosio pobl yn gynnar, os oes yn rhaid iddyn nhw aros chwe mis a mwy tan y cân nhw driniaeth—
A ydych yn rhannu fy mhryder, y pryder a fynegwyd i mi gan yr elusen Mind Cymru, bod cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru wedi cael ei greu ar gefn tystiolaeth annigonol oherwydd nad yw data iechyd meddwl megis amseroedd aros ar gyfer therapïau siarad yn cael eu casglu yn ddigonol?
Mae yna bwynt yn hynny, ond, ar ddiwedd y dydd, mae angen mwy o therapyddion arnom ni. Mae angen mwy o bobl i ymdrin â’r sefyllfa achos mae rhestrau aros yn y math hwn o beth yn hollol, hollol annerbyniol, a hefyd yn y maes ymdrin â chyffuriau ac alcohol neu’r camddefnydd o’r sylweddau yna. Mae hefyd eisiau rhagor o weithwyr yn y maes yn fanna, achos mae yna restrau aros hefyd yn y meysydd yna sydd ag oblygiadau mawr iawn gogyfer iechyd meddwl.
Wrth sôn yn fuan am y problemau efo iechyd meddwl plant, yn sylfaenol, mae’n anodd iawn yn ardal Abertawe cael plentyn i gael ei weld gan y gwasanaeth CAMHS. Rwyf wedi trio sawl tro ac, yn sylfaenol, nid ydyn nhw’n gallu cael eu gweld o gwbl. Mae hyn yn bwynt allweddol: yn nifer o lefydd, nid oes gwasanaeth, neu mae’r person yn cael ei arallgyfeirio yn ôl at y system addysg, fel rydym ni wedi ei glywed eisoes, a phan fo angen iddyn nhw weld rhywun sydd yn y byd seiciatryddol nid yw hynny’n dderbyniol.
Yn nhermau, hefyd, edrych ar yr holl agwedd yma o iechyd meddwl, mae yna berig ein bod ni’n cysidro iechyd meddwl ar ei ben ei hun. Wel, nid yw e, ac fel rydym ni wedi cael cyfeiriad ato eisoes, mae’n rhan o fel rydym ni’n edrych ar berson yn hollol holistaidd: yr agwedd gorfforol, yr agwedd seicolegol, ac, ie, yr agwedd gymdeithasol hefyd, yn ogystal â’r agwedd ysbrydol. Mae’r pedwar peth yn gweu i mewn i’ch gwneud chi’n iach neu ddim. Mae pob egwyddor i’w wneud efo iechyd meddwl—mae’n rhaid inni hefyd gysidro’r ochr gorfforol i’r peth, a hefyd, yn ogystal, yr ochr gymdeithasol.
Yn nhermau cydlynu a chydweithio ar draws gwahanol wasanaethau, rydym wedi clywed nifer o enghreifftiau’n barod, ond gwnaf jest sôn hefyd am yr heddlu, achos, yn nhermau rhai o’r problemau dybryd sydd gyda ni weithiau mewn argyfwng, efo pobl â phroblemau iechyd meddwl argyfyngus lle mae’r heddlu yn rhan o’r broses, mae’n anodd iawn weithiau ffeindio lle diogel i’r bobl yma gael eu trin. Mae hynny yn dod â’r heddlu i fewn i gydgyffwrdd yn benodol felly â’r gwasanaeth iechyd, a byddai’n llawer haws ymdrin efo’r holl sefyllfa ar draws y bwrdd petai gwasanaeth yr heddlu hefyd wedi’i ddatganoli i’r lle yma, achos rydym ni’n gwneud polisïau ac rydym ni’n gwneud rhagor o sŵn y prynhawn yma ynglŷn â’r gwasanaeth iechyd meddwl ac ati, ond mae cryn dipyn o agweddau iechyd meddwl sy’n cael eu ymdrin gyda’r heddlu, sydd ddim, ar hyn o bryd, yn atebol i’r lle yma, a dylen nhw fod. Fe ddylem ni fod yn achub ar bob cyfle i wneud yn siŵr bod gwasanaeth yr heddlu hefyd wedi’i ddatganoli i’r lle yma, fel, pan fyddem yn ymdrin â’r holl wasanaethau iechyd sydd ar gael, bod yr heddlu yn rhan o’r drafodaeth yna.
Ond, yn y bôn, beth rydym eisiau ei weld, fel meddygon, ydy triniaeth gynnar i’n pobl. Mae hynny yn golygu rhagor o ddarpariaeth o weithwyr iechyd, therapyddion siarad ac ati ar y llawr fel ein bod ni’n gallu arallgyfeirio’n cleifion atyn nhw yn uniongyrchol.
Diolch i chi am ildio. Rwy’n cytuno â chi yn llwyr ac nid oes gennyf unrhyw ddadleuon, ond a ydych hefyd yn meddwl bod angen hyfforddi’r meddygon sydd gennym yn barod oherwydd bod gan rai ohonynt ddiffyg dealltwriaeth weithiau o rai o'r problemau sydd gan y bobl sy’n dod atynt? Felly, mae'n ymwneud â hyfforddi'r meddygon sydd gennym yn barod, yn ogystal â rhagor o feddygon.
Ie, mi fuaswn i’n cytuno, achos mae’r holl system o dan straen. Fe allem ni i gyd wneud efo lot mwy o amser i ymdrin â phobl, ac, unwaith rwyf i wedi penderfynu fy mod yn mynd i arallgyfeirio claf i rywle arall, rwyf eisiau iddo fo gael ei weld, achos beth sy’n digwydd os oes yn rhaid chi aros chwe mis, yw eich bod chi’n mynd yn ôl i weld y meddyg yna, sydd o dan digon o straen yn barod, ac nid ydym yn gallu cynnig dim byd gwahanol i chi. Dyna pam mae’n rhaid i ni fynd i’r afael efo rhestrau aros a chyflogi rhagor o weithwyr yn y maes. Diolch yn fawr iawn i chi.
Byddai'n esgeulus imi beidio dechrau drwy groesawu'r gwaith y mae'r Llywodraeth hon wedi'i wneud a'u hymrwymiad i wella iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd meddwl, boed hynny drwy gynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau, cefnogaeth i ymgyrchoedd i roi diwedd ar stigma, neu’r Mesur iechyd meddwl. Ond, fel y soniodd yr Ysgrifennydd Cabinet, a dylai bob amser fod yn wir ym mhopeth a wnawn mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus i gyflawni gwell canlyniadau a gwell Cymru, er bod llawer wedi cael ei wneud, mae yna ffyrdd bob amser y gallwn adeiladu ar hyn.
Mae'r cynllun cyflawni drafft, a'r mesurau canlyniad a amlinellir ynddo, yn gynnydd cadarnhaol i'w groesawu. Ond mae lle o hyd i Lywodraeth Cymru gasglu data canlyniadau cyson ar draws yr holl wasanaethau iechyd meddwl, a dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r mesurau perfformiad a gyflwynwyd gan Gynghrair Iechyd Meddwl Cymru—mesurau sy'n dal profiad y claf, canlyniadau cleifion, canlyniadau clinigol, a barn gweithwyr proffesiynol.
Heddiw, hoffwn ganolbwyntio'n benodol ar agweddau ar y strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' sy'n ymwneud â'r gweithle yng Nghymru. Mae’r dirwasgiad diweddar a bygythiadau cysylltiedig i sicrwydd swyddi nid yn unig wedi rhoi pwysau ariannol ar weithwyr yng Nghymru, ond hefyd wedi bod yn galed ar iechyd a lles pobl. Mae ymchwil gan yr elusen iechyd meddwl Mind yn datgelu bod un o bob 10 wedi ymddiswyddo oherwydd straen eu swyddi, mae un o bob pedwar wedi meddwl am y peth, ac mae un o bob pump o bobl yn cymryd diwrnod i ffwrdd oherwydd straen. Yn ogystal â hyn, mae Gofal yn tynnu sylw at y ffaith bod cynrychiolwyr undebau llafur wedi adrodd bod cydweithwyr yn dod atyn nhw yn llawer mwy rheolaidd i siarad am broblemau iechyd meddwl ac i ofyn am wybodaeth a chymorth. Mae hybu lles meddwl yn y gweithle ac atal a mynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl yn cael ei wneud yn fwy proffwydol yn yr hinsawdd economaidd bresennol, gyda chyflogau isel ac ansicrwydd swyddi—ansicrwydd yr wyf yn teimlo y gallai gynyddu o ganlyniad i'r dyfroedd dieithr yr ydym yn awr yn cael ein hunain ynddynt ar ôl Brexit, a gall hyn gael effaith ar iechyd meddwl. Felly, mae systemau cymorth hygyrch o fewn amgylchedd y gweithle ac amgylchedd gwaith yn bwysig. Gellir gwneud hyn wrth i'r Llywodraeth a busnesau fesur problemau iechyd meddwl yn y gweithle, a chefnogi undebau llafur, yn enwedig gwaith ar gydraddoldeb. Gwn y byddai llawer o'r wasg a gwleidyddion asgell dde am i chi gredu rhethreg yr 'undebau llafur drwg hyn’. Ond mae'r cynrychiolwyr ar lawr gwlad yn bobl ryfeddol sy'n rhoi o’u hamser yn wirfoddol, ac, yn yr achos hwn, yn cynnig cyswllt rhwng y gweithiwr a gwasanaethau cymorth, yn ogystal â helpu i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o iechyd meddwl yn y gweithle.
Rwy'n siŵr bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi bod cynrychiolwyr undebau llafur yn chwarae rhan allweddol wrth hybu iechyd meddwl da a lles yn y gweithle. Yn aml nhw fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer gweithwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl. Mae'r cynllun cyflawni drafft yn nodi nifer o gamau gweithredu sy'n ymwneud â'r gweithle—camau y gellid unwaith eto adeiladu arnynt er mwyn asesu effaith y strategaeth ar iechyd meddwl yn y gweithle a lles yn y sector cyhoeddus. Yn benodol, mae argymhelliad yr elusen iechyd meddwl Gofal y gallai arolygu staff y sector cyhoeddus o ran eu hiechyd meddwl a'u lles, a mynd ati i geisio, deall ac ymateb yn unol â hynny, arwain at welliant cyffredinol mewn iechyd meddwl a lles staff.
Yn olaf, mae pwysigrwydd cydnabod a chefnogi iechyd meddwl a lles yn y gwaith yn dangos yn rhy glir yr angen i iechyd meddwl a lles dorri ar draws gwaith y Llywodraeth hon yng Nghymru. Os ydym mewn gwirionedd yn mynd i gyflawni’r addewid yn 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' mae angen cael hynny—nid strategaeth iechyd yn unig, ond gweithio gyda'n gilydd i osod iechyd meddwl fel blaenoriaeth ar gyfer holl adrannau'r Llywodraeth o economi i addysg, tai a thu hwnt.
Rwy’n cytuno â’r sylwadau cloi gan Hannah Blythyn nad yw hyn yn fater o edrych ar faterion iechyd meddwl yn unig; mae'n fater o edrych arno o ran yr iechyd corfforol ehangach ac, yn wir, les ac iechyd yn y gweithle hefyd. Rwy’n meddwl eich bod yn taro'r hoelen ar ei phen yn y fan yna, Hannah.
Mae mwy na thair blynedd bellach ers cyhoeddi’r strategaeth hon, a chafodd groeso cynnes ar y pryd, fel gyda llawer o strategaethau cyn ac ers hynny, ond gyda'r cafeat ein bod yn gweld canlyniadau gwirioneddol a gwelliannau y tu hwnt i'r geiriau. Roeddwn yn edrych drwy bapurau briffio Mind a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad a sylwais fod pryder nad yw'r strategaeth yn rhoi digon o swyddogaeth i'r sector gwirfoddol. Mae'r trydydd sector yn gallu chwarae rhan hanfodol wrth roi llais i bobl sydd â phrofiad byw a’u galluogi i gael eu clywed. Byddwn yn mynd ymhellach, mewn gwirionedd, ac yn dweud mai’r sector gwirfoddol yn ôl pob tebyg yw’r mwyaf addas ar gyfer codi proffil materion iechyd meddwl ac estyn allan i'r cymunedau hynny ar draws Cymru. Rwy'n credu fod ystwythder a lleoliaeth yn perthyn iddo na allwch chi wir ei greu yn y sianelau prif ffrwd traddodiadol. Mae gan y sianelau hynny eu lle, ond mae gan y sector gwirfoddol ei le penodol.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Wrth gwrs, Lee.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf eisiau cytuno'n gryf â'ch sylwadau a'u cymhwyso yn benodol i’r pwysau sy'n wynebu CAMHS. Mae nifer yr atgyfeiriadau i CAMHS wedi cynyddu'n ddramatig, ond yn aml nid yw CAMHS yn gallu rhoi'r cymorth sydd ei angen ar deuluoedd, a'r gwytnwch a'r offer sydd eu hangen arnynt. Dyma lle y gallai'r trydydd sector yn arbennig gynnig cymorth ychwanegol i deuluoedd.
Ie, rwy’n cytuno'n llwyr â chi, Lee. Yn wir, roeddwn yn gwrando ar sylwadau Dai Lloyd yn gynharach, ac roedd Dai yn siarad am brinder ar draws y bwrdd. Soniasoch am y prinder therapyddion, ac roedd yn fy nharo i fel yr oeddech yn siarad, Dai, oes, mae prinder therapyddion, ac rwy’n meddwl tybed a yw hyn yn faes y gallai Llywodraeth Cymru edrych arno o ran ymgyrchu i recriwtio therapyddion. Mae nifer o’r therapyddion yr wyf wedi siarad â nhw wedi dweud eu bod ond wedi mynd i mewn i'r math hwnnw o waith yn ddamweiniol ar ôl clywed, ‘Byddech chi yn dda am wneud hyn'. Ni fyddent byth wedi meddwl amdano cyn hynny. Felly, rwy’n meddwl bod maes—. Nid yw hyn yn ymwneud ag arian; mae hyn yn ymwneud mewn gwirionedd â pherswadio pobl y byddent yn dda yn gweithio mewn maes fel 'na. Felly, rwy’n credu bod hwn yn faes y gallai Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd gael rhywfaint o lwyddiant ynddo. Mae problemau ar draws gweddill y DU hefyd, felly os ydych yn dymuno gwneud eich marc, Ysgrifennydd y Cabinet, yna edrychwch ar recriwtio therapyddion a sut y gallwch ymgyrchu i gael y rheini i mewn i’r swydd honno.
Gofynnwyd i mi yn ddiweddar i gynnal digwyddiad yn fy mhentref genedigol, sef Rhaglan, ar ran Amser i Newid Cymru, yr ymgyrch genedlaethol gyntaf i roi terfyn ar y stigma a'r gwahaniaethu a wynebir gan bobl â phroblemau iechyd meddwl. Deuthum yn ymwybodol o fodolaeth y grŵp hwn—yn mynd yn ôl at wybodaeth am y grwpiau hyn—dim ond trwy daro ar draws un o'u hyrwyddwyr, Bev Jones, a oedd yn digwydd byw yn fy mhentref i. Deuthum ar ei thraws ar y stryd, a thrwy gyfarfodydd dilynol rydym wedi bondio, daethom yn ffrindiau, a hi wnaeth godi proffil ymgyrch Amser i Newid Cymru i mi, ac yn wir faterion iechyd meddwl yn gyffredinol, na fyddwn wedi bod yn ymwybodol ohonynt o'r blaen. Mae'n fy nharo i faint yr ydym yn dibynnu ar bobl o fewn y maes hwn, ac yn aml drwy gyfarfodydd damweiniol, i gynyddu ein gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd allan yno, sydd yn hanfodol yn ein gwaith ni fel Aelodau Cynulliad er mwyn gallu helpu pobl eraill a’u cyfeirio ar y llwybrau cywir.
Fel mae gwefan Amser i Newid Cymru yn ei ddweud, mae angen yr ymgyrch oherwydd er bod problemau iechyd meddwl yn gyffredin iawn mae’n gallu bod yn bwnc tabŵ o hyd. Mae Amser i Newid yn awyddus i wella gwybodaeth a dealltwriaeth am salwch meddwl ac, yn bwysicaf oll, i gael pobl i siarad am iechyd meddwl. Mae'r ymgyrch hon, un o nifer, yn enghraifft o ba mor bell yr ydym wedi dod dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a sut y ceir sefydliadau a grwpiau o wirfoddolwyr ledled Cymru sydd, trwy eu gwaith caled a'u hymroddiad, yn helpu i gyflawni nodau 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'.
Ychydig eiriau olaf ar ddatblygiad Cymru fel cenedl sy’n ystyriol o ddementia. Ymdriniwyd â’r pwnc hwn yn fras yn sylwadau Lynne Neagle yn gynharach. Unwaith eto, rwy’n lwcus; mae fy mhentref genedigol, sef Rhaglan yn Sir Fynwy, wedi helpu i arwain y ffordd yn y maes hwn—peidiwch â chael y syniad bod popeth yn digwydd yn fy mhentref i, ond mae llawer yn digwydd yno—gyda dynodi, i ddechrau, brosiect Rhaglan ychydig o flynyddoedd yn ôl, ac mae hwnnw wedi newid yn raddol i fod yn brosiect ehangach i Sir Fynwy, ac mae hynny'n ddibynnol ar rwydweithiau lleol, pobl leol. Rwy'n gwybod fod Mark Drakeford, yn eich rôl flaenorol fel Gweinidog Iechyd, mewn gwirionedd, wedi ymweld â’r prosiect yn ei ddyddiau cynnar. Byddech wedi gweld sut mae gwirfoddolwyr lleol yn helpu i gyflawni amcanion y Llywodraeth ac yn ategu'r sianeli iechyd prif ffrwd i wneud hynny. Pobl leol yn edrych ar ôl ei gilydd yn y lle cyntaf. Mae'n enghraifft wych o sut gall cymuned weithio, gyda chymuned yn gofalu am gymuned, pobl yn gofalu am bobl.
I gloi, mae llawer o arferion da allan yno. Mae rhywfaint ohonynt oherwydd camau gweithredu’r Llywodraeth, mae rhywfaint er gwaethaf camau gweithredu’r Llywodraeth, a’r DU yw hynny, wrth gwrs, nid dim ond yma. Gadewch inni gadw'r pwysau ar gyfer newid gwirioneddol yn y ddarpariaeth iechyd meddwl fel bod pobl ledled Cymru yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau gorau ar yr adegau yn eu bywydau y maent eu hangen fwyaf.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyflwyno cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' heddiw? Mae i’w groesawu'n fawr. Cyflwynodd y weinyddiaeth Lafur ddiwethaf fesurau a welodd gynnydd sylweddol yn y cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a dywedodd y dylai pobl sy'n derbyn y gwasanaethau hyn gael cynllun gofal a thriniaeth ar waith. Er ein bod yn gwybod bod angen gwneud mwy yn hyn o beth, rwy’n meddwl ein bod ni oll yn cytuno mai dyma'r ffordd iawn i fod yn symud.
Fel yr ydym wedi clywed, mae problemau iechyd meddwl yn effeithio ar o leiaf un o bob pedwar o bobl Cymru, ac mae'n aml yn cael ei gysylltu â thlodi, fel achos ac fel symptom. Yn ddi-os, mae tlodi yn cynyddu'r straen a’r poen meddwl a all arwain at iechyd meddwl gwael. I’r rhai sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl, gall sicrhau a chadw cyflogaeth ac ymdopi â heriau ariannol o ddydd i ddydd fod yn rhwystr mawr.
Mae penderfyniad y weinyddiaeth ddiwethaf i gynyddu a chlustnodi gwariant ar gyllid iechyd meddwl yn rhoi cyfle i gael mwy o fynediad at gefnogaeth, gwella llwybrau a gwella canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau.
Bydd y cynllun cyflawni iechyd meddwl yn elfen hanfodol o ran cyflawni'r canlyniadau hyn, ond hoffwn i ganolbwyntio ar un maes penodol, sef y rhaglen cymorth cyntaf iechyd meddwl, sy’n rhaglen allweddol yn y strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' o ran codi ymwybyddiaeth, yn enwedig yn y gweithle.
Trwy eu cysylltiad â byrddau partneriaeth lleol, mae'n amlwg bod gan gyrff cyhoeddus swyddogaeth yn hyn o beth drwy gydlynu strategaethau er mwyn sicrhau bod y cynllun yn cael ei weithredu. Mae ganddynt hefyd swyddogaeth fel cyflogwyr i gymryd yr awenau ar ddarparu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, o ran y ddarpariaeth o wasanaethau o ddydd i ddydd ac ymysg eu staff eu hunain.
Mae gan awdurdodau addysg lleol ran hanfodol i'w chwarae wrth godi ymwybyddiaeth am faterion iechyd meddwl ymysg plant mewn ysgolion, gan gynnwys gweithio i roi terfyn ar y stigma yr ydym wedi clywed cymaint amdano ynghylch salwch meddwl a mynd i'r afael ag unrhyw anoddefgarwch a bwlio sydd ynghlwm wrth hynny.
Mae'n wir fod y rhan fwyaf o'n cyflogwyr gwasanaethau cyhoeddus yn darparu gwasanaethau cynghori ar gyfer eu staff. Ond yn aml nid yw'r rhain yn mynd mor bell â darparu cymorth ychwanegol i'w helpu i nodi a yw eu hiechyd meddwl mewn perygl neu i ddarparu gwasanaethau cymorth pellach ar gyfer rhai sy'n nodi eu bod yn dioddef o broblemau iechyd meddwl.
Fodd bynnag, mae i'w groesawu bod nifer cynyddol o awdurdodau lleol, byrddau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru yn dechrau cydnabod mantais darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, yn aml mewn partneriaeth â'u hundebau llafur. Mae fy undeb fy hun, Unsain, er enghraifft, wedi datblygu pecyn hyfforddiant cynhwysfawr yn y maes hwn ar gyfer ei aelodau. Mae hefyd rai enghreifftiau gwych o gwmnïau mawr, fel Admiral a Dŵr Cymru, sy'n darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl cynhwysfawr ar gyfer eu gweithwyr, nid yn unig i'w helpu yn eu hymgysylltiad â chwsmeriaid, ond hefyd i gefnogi cydweithwyr yn y gweithle. Mae'r cwmnïau hyn yn gweld codi ymwybyddiaeth ynghylch materion iechyd meddwl fel rhan allweddol o'u rhwymedigaethau iechyd a diogelwch.
Rwy’n gobeithio, felly, i gydnabod pwysigrwydd cyflwyno'r strategaeth hon, y bydd mwy o gyrff cyhoeddus yn barod i groesawu rhaglenni cymorth cyntaf iechyd meddwl a darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth, ar gyfer eu gweithlu ac er mwyn darparu eu gwasanaethau.
A gaf i yn gyntaf ganmol y Llywodraeth ar ei dull o weithredu’r cynllun cyflawni, ac yn benodol yr ymgynghoriad ffurfiol helaeth a'r ymgysylltu â rhanddeiliaid, gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau?
Fel y soniodd llawer o bobl heddiw, un o'r cyfraniadau mwyaf sylweddol i wella gwasanaethau iechyd meddwl oedd hynt Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 ac, yn benodol, rwyf am gyfeirio at rwyddineb cynyddol y mynediad at asesiadau iechyd meddwl sylfaenol.
Afraid dweud bod mynediad amserol at asesiadau yn hanfodol o ran y diagnosis ymlaen llaw a thriniaeth barhaus o salwch meddwl. Mae targedau ar gyfer yr asesiadau hynny wedi bod yn heriol, ond mae cynnydd o ran eu bodloni wedi bod yn dda iawn mewn sawl rhan o Gymru. Ond yn amlwg bu cynnydd yn y galw. Nid oes amheuaeth, mae rhan o hynny yn ganlyniad gwell mynediad, ac felly mae hynny’n amlwg i'w groesawu. Ond mae'n ymddangos i mi fod cynnydd yn nifer y bobl sy'n mynd i weld eu meddyg yn dioddef o salwch meddwl posibl hefyd o ganlyniad i'r pwysau cynyddol y mae pobl yn ei wynebu wrth fyw eu bywydau—pryderon ariannol, perthynas yn chwalu, cyflyrau iechyd eraill ac yn y blaen. Felly, mae’r mater o fynediad at asesiad a'r gallu i ateb y galw cynyddol, hyd yn oed os yw’r perfformiad presennol yn galonogol, yn mynd i fod yn hanfodol.
Un o'r newidiadau a gyflwynwyd gan reoliadau dan y Ddeddf oedd newid y cymhwyster ar gyfer y rhai sydd â hawl i gynnal asesiad sylfaenol, yn benodol drwy dynnu hawliau, er enghraifft, oddi ar seicotherapyddion. Yn ystod yr ymgynghori, dan y rheoliadau, codwyd pryderon mewn cysylltiad â'r newid, yn benodol gan fod rhai o'r ymarferwyr hynny yn darparu gwasanaethau GIG i gleifion ar wahanol adegau yn eu taith, fel yr ydym wedi clywed heddiw. Mae'n amlwg yn hanfodol bod y rhai sy'n darparu gwasanaethau yn cael eu hyfforddi'n iawn, fod eu harbenigedd a'u profiad yn gyfredol, a'u bod yn gweithredu o fewn fframwaith moesegol cydnabyddedig. Mae'r Llywodraeth wedi nodi y byddai'n edrych eto ar y mater o gymhwysedd i ddarparu asesiadau. Felly, er budd sicrhau bod gennym y lefelau cywir a'r mathau cywir o allu i ddiwallu yr hyn sy'n sicr yn mynd i fod yn angen cynyddol, byddwn i'n croesawu cael gwybod a yw’n dal i fod yn fwriad gan y Llywodraeth i gyflwyno cynigion ar y mater o gymhwyster, ac os felly, beth fyddai’r amserlen.
Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd i ymateb i’r ddadl.
Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am y modd adeiladol y mae pawb wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw, a hefyd i’r Siambr hon am barhau i flaenoriaethu materion yn ymwneud ag iechyd meddwl. Byddaf yn ceisio ymdrin ag amrywiaeth o sylwadau. Rwy'n falch bod cymaint o bobl wedi siarad ac wedi gwneud cymaint o bwyntiau, ond ni fydd gennyf amser i ymdrin â phob un ohonynt. Fel y dywedais yn gynharach, bydd y galwadau a wnaethpwyd gan Aelodau yn cael eu nodi a byddwn yn eu hystyried wrth i ni fwrw ymlaen â'r cynllun cyflawni terfynol.
Angela Burns ddechreuodd. Roeddwn yn falch iawn o glywed eich bod yn cydnabod y mater ynglŷn â stigma, yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach. Mae gan y Siambr hon ei rhan i’w chwarae, mewn gwirionedd, o ran sicrhau bod y rhain yn parhau i gael sylw. Dydw i ddim yn rhywun sy'n mynd i esgus bod y broblem wedi mynd i ffwrdd oherwydd ein bod wedi cynnal un neu ddau o ddigwyddiadau. O ran y proffil sydd gan hwn o fewn y gwasanaeth, mae'n fater sy'n rheolaidd yn cael ei godi gyda mi ac wrth imi gysylltu â rhannau eraill o'r gwasanaeth. Er enghraifft, yr wythnos diwethaf, roedd yn fater penodol a godwyd yn fy nghyfarfod i gydag is-gadeiryddion yr holl fyrddau iechyd lleol. Felly, mae'n sicr yn rhywbeth y maent yn ddeall sy’n amcan gweinidogol ac yn flaenoriaeth i ni. Maent hefyd yn deall y pwynt am barch cydradd. Rwy'n gwybod y siaradwyd amdano yn ddiweddar mewn ffordd wahanol, ond mae'n rhywbeth yr ydym wedi bod â diddordeb ynddo ac yr ydym yn awyddus i’w bwyso ar y gwasanaeth yma ers peth amser. Felly, mae hynny'n sicr yn rhan o'r hyn yr ydym yn disgwyl ei weld yn cael ei gyflwyno. Mewn sawl ffordd rwy’n credu ein bod ar y blaen i GIG Lloegr yn y ffordd yr ydym yn ymdrin â darpariaeth iechyd meddwl ac mae ein hamserau aros yn ddisgwyliedig. Yr her i ni yw nid yn unig dweud, 'Rydym yn well na Lloegr', ond i edrych eto, fel yr ydym yn ei wneud yn awr. Beth allwn ni ei wneud yn well? Beth ddylem ni ei wneud yn well? Ac eto, byddaf yn gwneud y pwynt hwn, fel y gwneuthum sawl gwaith, am gyllid: rydym eisoes yn gwario mwy na'r arian a glustnodwyd ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. Nid yw hyn mewn unrhyw ffordd i gael ei weld fel isafswm, ond rwy'n hapus i edrych ar y gwaith yr ydym wedi ymrwymo i’w wneud yn gynharach.
Mae'n werth nodi, o ran canlyniadau yn erbyn amcanion a dangosyddion, wrth gwrs y byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth> ond hoffwn i wneud y pwynt hwn ar y cychwyn: bod dros 90 y cant o ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd sylfaenol ac iechyd meddwl lleol wedi bod yn gadarnhaol iawn am eu profiad. Felly, rydym yn cymryd eu profiad o ddifrif ac nid yw'n rhywbeth yr ydym yn ei gymryd yn ganiataol.
Gwnaed nifer o bwyntiau tebyg gan Rhun ap Iorwerth yn ei gyfraniad, yn enwedig y pwyntiau—a gwnaeth nifer o Aelodau eraill yr un pwyntiau—am ganolbwyntio ar therapïau siarad. Crybwyllodd llawer o aelodau yr un math o bwyntiau, yn benodol ar amseroedd aros, lle mae gennym safonau llymach nag yn Lloegr. Yn wir, rydym yn gweld cynnydd yn cael ei wneud gan ein bod yn recriwtio i'r gwasanaethau hynny. Unwaith eto, pwynt a wnaeth Dai Lloyd am recriwtio pobl i'r gwasanaeth: dyna pam y crybwyllais yn fy sylwadau cynharach ein bod wedi gwario £3 miliwn y llynedd ar recriwtio mwy o bobl i'r gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau i oedolion a phlant, ac rydym yn gwario £1 miliwn yn ychwanegol eleni hefyd. Felly, does dim newid meddwl i fod na methiant i gydnabod yr angen i gael cymysgedd gwahanol o staff, ond hefyd rydym am wario rhywfaint o'n hadnoddau ar recriwtio ychwanegol.
Byddaf yn ymdrin â'r pwynt CAMHS y gwnaeth nifer o Aelodau ei grybwyll, oherwydd ein bod yn cydnabod yr angen i wella mynediad at y gwasanaeth CAMHS arbenigol ac, ar yr un pryd, i sicrhau ein bod yn cael sgwrs gydag atgyfeirwyr a theuluoedd am atgyfeiriadau i mewn i’r gwasanaeth hwnnw, gan fod plant a phobl ifanc eu hunain wedi cydnabod bod nifer yn cael eu hatgyfeirio i mewn yn amhriodol, ac mae’r niferoedd yn sylweddol mewn gwirionedd. Yn y Siambr hon, byddwch wedi clywed y Gweinidog blaenorol yn gwneud y pwynt hwn ar sawl achlysur, ac felly rhan o'r hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw gwneud yn siŵr bod atgyfeiriadau amgen eraill ar gyfer pobl nad oes angen y gefnogaeth arbenigol arnynt. Hynny yw, edrych ar yr ystod wahanol o ymyriadau amgen a chefnogi sydd ar gael. Er enghraifft, gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion, yr hyn y mae Teuluoedd yn Gyntaf yn ei wneud—yr holl wahanol ymyriadau sydd eu hangen yno i gynorthwyo pobl sydd angen rhyw fath o gymorth a chefnogaeth, hyd yn oed os nad yw’n wasanaethau CAMHS arbenigol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Byddaf yn gorffen y pwynt hwn. Cafodd hynny ei ddwyn ymlaen yn rhaglen ddiweddar Law yn Llaw ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, a’r gynhadledd y siaradais â hi o bell—ni allwn fod yn bresennol yno ar y diwrnod. Y pwynt yr wyf yn ceisio ei wneud yw bod hwn yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni weithio drwyddo ar y ddau ben. Nid wyf yn poeni pwy sy’n ymyrryd gyntaf. [Torri ar draws.] Wel, Angela Burns a glywais yn gyntaf, ac yna byddaf yn ymdrin â Rhun, i weld a yw ef am ddweud yr un peth neu rywbeth gwahanol.
Diolch i chi, ac rwy’n derbyn y pwynt a wnaeth Rhun ac yr ydych wedi’i ateb. Fodd bynnag, lle mae’n methu yw mewn lle fel hyn: er enghraifft, atgyfeiriad brys ar gyfer CAMHS os yw plentyn sy’n cael ei weld am ei fod yn hunan-niweidio ac wedi dweud ei fod yn mynd i ladd ei hunan. Os yw’r plentyn hwnnw yn awtistig, yna nid yw’n cael y cymorth hwnnw, oherwydd bod CAMHS yn dweud nad yw hynny'n un o'r anhwylderau y maent yn ymdrin â hwy. Mae hwn yn achos parhaus yn fy etholaeth i, ac mae'n sefyllfa hollol chwerthinllyd, lle mae plentyn yn bodloni un set o feini prawf, ond, oherwydd ei fod yn digwydd bod ag anhwylder penodol, mae’n cael ei eithrio o’r broses CAMHS, ac felly wedyn mae’n cael ei wthio yn ôl i mewn i’r gwasanaethau cymdeithasol. Dyna'r math o eglurder sydd ei angen mewn sefyllfa fel hon.
Rwy'n meddwl bod yna bwynt ynghylch gweld y person cyfan, yn hytrach nag un cyflwr penodol, ond os ysgrifennwch ataf ar y mater penodol hwnnw, gallaf gynnig rhywbeth mwy defnyddiol arno.
Byddaf yn ceisio gwneud rhywfaint o gynnydd. Unwaith eto, gwnaeth llefarydd UKIP nifer o bwyntiau adeiladol. Yr unig beth y byddwn i yn ei ddweud yn benodol, o ran y galw am fwy o arian, yw fy mod wedi dweud ein bod yn buddsoddi mwy o arian. Rydyn ni'n buddsoddi mwy o arian nag erioed o'r blaen, ac rydym wedi parhau i fuddsoddi. Nid yr alwad am fwy o arian yw'r her; yr her bob amser yw ble i ddod o hyd iddo a ble rydyn ni’n peidio â dewis ei wario hefyd.
Ar y pwynt hwnnw yn benodol—ac mae'n bwynt cyffredinol ar gyllid—mae cyllid ar gyfer CAMHS yn ymddangos, ar yr olwg gyntaf, i fod wedi mynd i lawr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. A allech chi egluro ai mater o godio ble yn union y daw’r cyllid ar gyfer trin rhywun 16 mlwydd oed a throsodd o fewn y gwasanaeth iechyd, neu a fu dirywiad yn y cyllid ar gyfer pobl ifanc?
Fel y dywedais, cyhoeddwyd buddsoddiad ychwanegol sylweddol o £7.65 miliwn y llynedd, a nodais hynny yn fy sylwadau agoriadol. Felly, nid wyf yn derbyn y bu gostyngiad yn y cyllid ar gyfer CAMHS; nid dyna’r her sy'n ein hwynebu. Mewn gwirionedd, ni fyddem wedi gallu recriwtio pobl newydd i mewn i'r gwasanaeth i wneud rhywbeth ynghylch mynd i'r afael ag amserau aros hir—sy’n sicr heb ei orffen eto—heb y buddsoddiad ychwanegol hwnnw mewn staff.
Byddai’n well i mi fwrw ymlaen. Yn benodol, roeddwn i eisiau cydnabod y pwyntiau a wnaed gan Lynne Neagle, unwaith eto, mewn cyfraniad a baratowyd yn dda iawn am ddementia yn benodol. Tynnodd sylw at y ffaith ein bod yn genedl ystyriol o ddementia sydd â chymunedau ystyriol o ddementia, ac effaith hynny ar unigolion ar draws y gymuned honno, o ran deall beth yw dementia, ond hefyd o ran profiad bywyd gwell, ac yn benodol tynnodd sylw at faint yr her. Gallaf ddweud ein bod yn disgwyl cael y cynllun gweithredu strategol newydd ar ddementia erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Ond rydym wedi gweld cyfraddau diagnosis yn gwella, ac rwy’n disgwyl i ni gyrraedd 50 y cant erbyn diwedd y flwyddyn hon, ac yna rwy’n disgwyl pennu ein lefel newydd o ddisgwyliadau.
Rwy’n mynd i ymdrin â nifer o'r pwyntiau a grybwyllwyd gan Dai Lloyd. Ar blismona ein perthynas ymarferol, mae'n rhywbeth yr ydym yn gweithio'n galed arno, ac rydym yn cydnabod yr angen i ni barhau i wneud hynny, yn ogystal â'ch pwynt ynglŷn â hyfforddiant ar gyfer staff a'r pwynt ehangach am y gymysgedd o staff sydd gennym.
Nick Ramsay, ar wahân i sôn am Raglan mewn sawl man ac ar bob cyfle, rwyf wrth fy modd eich bod hefyd yn cydnabod yr heriau ar draws y DU, ond hefyd y ffordd yr ydym yn manteisio ar brofiad bywyd pobl ac effaith gwirfoddoli fel rhan o gynnal lefel dda o iechyd meddwl a lles.
Yn olaf, rwyf yn awyddus i sôn am y pwyntiau a godwyd gan Dawn Bowden a Hannah Blythyn, yn enwedig o ran edrych ar ddangosyddion a materion iechyd meddwl yn y gweithle. Nid yn unig o safbwynt fy mywyd blaenorol fel cyfreithiwr, ond hefyd fy mywyd blaenorol fel swyddog undeb i undeb llafur, rwy’n cydnabod y swyddogaeth sydd gan gynrychiolwyr undebau llafur i'w chwarae wrth helpu i greu gweithle mwy cadarnhaol ac mewn cymryd camau lle nad yw hynny'n digwydd. Mae'n swyddogaeth bwysig nad yw weithiau yn cael ei hamlygu. Ond fe es i, fy hun, ar hyfforddiant ymwybyddiaeth cymorth cyntaf iechyd meddwl ac rwyf wedi gwneud yn siŵr bod fy staff hefyd wedi ymgymryd â’r hyfforddiant hwnnw ar gyfer y swyddogaethau arbennig o ingol ac anodd y maent yn eu gwneud o bryd i'w gilydd. Gall hwnnw fod yn bwynt efallai y bydd Aelodau unigol yn dymuno ei ystyried drostynt eu hunain.
Yn olaf, rwyf am ymdrin â, nid pob un o'r pwyntiau a wnaeth Jeremy Miles, ond i orffen ar y pwynt hwn, ac mae'n ymwneud ag ymgysylltu, oherwydd eich bod yn cydnabod y pwyntiau am yr ymatebion y mae pobl wedi'u gwneud a sut y byddwn yn ymdrin â'r proffil galw ar adeg o ansicrwydd economaidd ac nad ydym yn dymuno eistedd yn ôl. Cawsom 137 o ymatebion i'r ymgynghoriad, ac mae'r ymatebion a'r modd yr ydym yn ymgysylltu yn ddilys. Gallaf ddweud hynny oherwydd bydd yr ymatebion hynny wedi newid yr hyn yr ydym yn ei wneud yn y pen draw yn y cynllun terfynol. Felly, byddwn yn ystyried yr hyn y mae pobl yn ei ddweud a'r hyn sydd angen iddynt ei wneud i ymdrin â'r galw sydd gennym yn awr a'r hyn a ddisgwyliwn yn y dyfodol, ac i wneud yn siŵr ein bod yn dod yn ôl, nid yn unig i ddweud ein bod wedi ymdopi , ond ein bod wedi gwella'r sefyllfa a bod y canlyniadau wedi parhau i wella ledled Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at siarad mwy yn y Siambr hon ar adeg arall am weithredu iechyd meddwl yma yng Nghymru.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.