Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Ie, mi fuaswn i’n cytuno, achos mae’r holl system o dan straen. Fe allem ni i gyd wneud efo lot mwy o amser i ymdrin â phobl, ac, unwaith rwyf i wedi penderfynu fy mod yn mynd i arallgyfeirio claf i rywle arall, rwyf eisiau iddo fo gael ei weld, achos beth sy’n digwydd os oes yn rhaid chi aros chwe mis, yw eich bod chi’n mynd yn ôl i weld y meddyg yna, sydd o dan digon o straen yn barod, ac nid ydym yn gallu cynnig dim byd gwahanol i chi. Dyna pam mae’n rhaid i ni fynd i’r afael efo rhestrau aros a chyflogi rhagor o weithwyr yn y maes. Diolch yn fawr iawn i chi.