Part of the debate – Senedd Cymru am 5:46 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf eisiau cytuno'n gryf â'ch sylwadau a'u cymhwyso yn benodol i’r pwysau sy'n wynebu CAMHS. Mae nifer yr atgyfeiriadau i CAMHS wedi cynyddu'n ddramatig, ond yn aml nid yw CAMHS yn gallu rhoi'r cymorth sydd ei angen ar deuluoedd, a'r gwytnwch a'r offer sydd eu hangen arnynt. Dyma lle y gallai'r trydydd sector yn arbennig gynnig cymorth ychwanegol i deuluoedd.