11. 10. Dadl: Cynllun Cyflawni ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 5:47, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Ie, rwy’n cytuno'n llwyr â chi, Lee. Yn wir, roeddwn yn gwrando ar sylwadau Dai Lloyd yn gynharach, ac roedd Dai yn siarad am brinder ar draws y bwrdd. Soniasoch am y prinder therapyddion, ac roedd yn fy nharo i fel yr oeddech yn siarad, Dai, oes, mae prinder therapyddion, ac rwy’n meddwl tybed a yw hyn yn faes y gallai Llywodraeth Cymru edrych arno o ran ymgyrchu i recriwtio therapyddion. Mae nifer o’r therapyddion yr wyf wedi siarad â nhw wedi dweud eu bod ond wedi mynd i mewn i'r math hwnnw o waith yn ddamweiniol ar ôl clywed, ‘Byddech chi yn dda am wneud hyn'. Ni fyddent byth wedi meddwl amdano cyn hynny. Felly, rwy’n meddwl bod maes—. Nid yw hyn yn ymwneud ag arian; mae hyn yn ymwneud mewn gwirionedd â pherswadio pobl y byddent yn dda yn gweithio mewn maes fel 'na. Felly, rwy’n credu bod hwn yn faes y gallai Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd gael rhywfaint o lwyddiant ynddo. Mae problemau ar draws gweddill y DU hefyd, felly os ydych yn dymuno gwneud eich marc, Ysgrifennydd y Cabinet, yna edrychwch ar recriwtio therapyddion a sut y gallwch ymgyrchu i gael y rheini i mewn i’r swydd honno.

Gofynnwyd i mi yn ddiweddar i gynnal digwyddiad yn fy mhentref genedigol, sef Rhaglan, ar ran Amser i Newid Cymru, yr ymgyrch genedlaethol gyntaf i roi terfyn ar y stigma a'r gwahaniaethu a wynebir gan bobl â phroblemau iechyd meddwl. Deuthum yn ymwybodol o fodolaeth y grŵp hwn—yn mynd yn ôl at wybodaeth am y grwpiau hyn—dim ond trwy daro ar draws un o'u hyrwyddwyr, Bev Jones, a oedd yn digwydd byw yn fy mhentref i. Deuthum ar ei thraws ar y stryd, a thrwy gyfarfodydd dilynol rydym wedi bondio, daethom yn ffrindiau, a hi wnaeth godi proffil ymgyrch Amser i Newid Cymru i mi, ac yn wir faterion iechyd meddwl yn gyffredinol, na fyddwn wedi bod yn ymwybodol ohonynt o'r blaen. Mae'n fy nharo i faint yr ydym yn dibynnu ar bobl o fewn y maes hwn, ac yn aml drwy gyfarfodydd damweiniol, i gynyddu ein gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd allan yno, sydd yn hanfodol yn ein gwaith ni fel Aelodau Cynulliad er mwyn gallu helpu pobl eraill a’u cyfeirio ar y llwybrau cywir.

Fel mae gwefan Amser i Newid Cymru yn ei ddweud, mae angen yr ymgyrch oherwydd er bod problemau iechyd meddwl yn gyffredin iawn mae’n gallu bod yn bwnc tabŵ o hyd.  Mae Amser i Newid yn awyddus i wella gwybodaeth a dealltwriaeth am salwch meddwl ac, yn bwysicaf oll, i gael pobl i siarad am iechyd meddwl. Mae'r ymgyrch hon, un o nifer, yn enghraifft o ba mor bell yr ydym wedi dod dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a sut y ceir sefydliadau a grwpiau o wirfoddolwyr ledled Cymru sydd, trwy eu gwaith caled a'u hymroddiad, yn helpu i gyflawni nodau 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'.

Ychydig eiriau olaf ar ddatblygiad Cymru fel cenedl sy’n ystyriol o ddementia. Ymdriniwyd â’r pwnc hwn yn fras yn sylwadau Lynne Neagle yn gynharach. Unwaith eto, rwy’n lwcus; mae fy mhentref genedigol, sef Rhaglan yn Sir Fynwy, wedi helpu i arwain y ffordd yn y maes hwn—peidiwch â chael y syniad bod popeth yn digwydd yn fy mhentref i, ond mae llawer yn digwydd yno—gyda dynodi, i ddechrau, brosiect Rhaglan ychydig o flynyddoedd yn ôl, ac mae hwnnw wedi newid yn raddol i fod yn brosiect ehangach i Sir Fynwy, ac mae hynny'n ddibynnol ar rwydweithiau lleol, pobl leol. Rwy'n gwybod fod Mark Drakeford, yn eich rôl flaenorol fel Gweinidog Iechyd, mewn gwirionedd, wedi ymweld â’r prosiect yn ei ddyddiau cynnar. Byddech wedi gweld sut mae gwirfoddolwyr lleol yn helpu i gyflawni amcanion y Llywodraeth ac yn ategu'r sianeli iechyd prif ffrwd i wneud hynny. Pobl leol yn edrych ar ôl ei gilydd yn y lle cyntaf. Mae'n enghraifft wych o sut gall cymuned weithio, gyda chymuned yn gofalu am gymuned, pobl yn gofalu am bobl.

I gloi, mae llawer o arferion da allan yno. Mae rhywfaint ohonynt oherwydd camau gweithredu’r Llywodraeth, mae rhywfaint er gwaethaf camau gweithredu’r Llywodraeth, a’r DU yw hynny, wrth gwrs, nid dim ond yma. Gadewch inni gadw'r pwysau ar gyfer newid gwirioneddol yn y ddarpariaeth iechyd meddwl fel bod pobl ledled Cymru yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau gorau ar yr adegau yn eu bywydau y maent eu hangen fwyaf.