Part of the debate – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Diolch yn fawr, Simon Thomas. Mewn ymateb i'ch cwestiwn cyntaf, fel yr ydych wedi dweud, ac fel y cydnabyddir y prynhawn yma, gwnaeth y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, gyfarfod ddoe â ffigyrau allweddol o sectorau amgylcheddol ac amaethyddol Cymru, gan ganolbwyntio yn benodol ar oblygiadau penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd. Fel y dywedwyd eisoes gan y Prif Weinidog, roedd yn cynnwys arweinwyr o’r undebau ffermio, pobl fusnes wledig, yn ogystal â chynrychiolwyr o gyrff amgylcheddol, yn rhannu sylwadau, heriau a chyfleoedd. Gwn y bydd y Gweinidog yn awyddus i ychwanegu at hyn o ran rhoi datganiad i egluro nid yn unig y trafodaethau, ond y camau nesaf o ran datblygu’r ymateb polisi hwnnw gan Lywodraeth Cymru.
Mewn ymateb i'ch ail gwestiwn, yn dilyn adroddiad Estyn, y ffaith mai hwn yw—. Wrth gwrs, rydym bob amser yn croesawu cyhoeddi'r adroddiad, ac rwy'n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn benodol am ganolbwyntio ar y pwyntiau yr ydych yn eu gwneud o ran cynnydd, ond hefyd lle mae mwy y gellir ei wneud, yn enwedig mewn cysylltiad â rhagolygon cyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb yn unol â hynny gyda datganiad.
Credaf y bydd pob un o’n Hysgrifenyddion Cabinet, Llywodraeth Cymru i gyd ac, yn wir, y Cynulliad cyfan yn dymuno yn dda i Gymru. Mae'r rhai sydd yn ddigon ffodus i fod yno nid yn unig i fwynhau yfory, ond, wrth gwrs, y rownd derfynol, pan ddaw, rwy'n siŵr, ddydd Sadwrn—.
Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod mewn gwirionedd yn cydnabod sut mae aelodau o dîm Cymru wedi bod yn arwyr gwych, fel y dywedoch, Simon Thomas, a'r ffordd y maent wedi ymgysylltu â phobl ifanc a theuluoedd; mae wedi bod i raddau helaeth yn fynegiant cefnogwyr teulu, onid ydyw? Rydym yn gallu gweld hynny ac rydym yn falch iawn ohono. Mae wedi rhoi Cymru ar fap y byd, nid yn unig oherwydd talent ein chwaraewyr o Gymru, ond hefyd oherwydd yr ysbryd a'r ethos sydd wedi bod ganddynt wrth iddynt chwarae. Felly, rwy'n siŵr ein bod yn dymuno’n dda i Gymru, ond hefyd yn rhoi sylw i’r gwaddol. Gwn y byddwn i gyd yn awyddus i longyfarch, diolch a chydnabod yr hyn y maent wedi ei gyflawni, nid dim ond ennill y bencampwriaeth, ond y modd y maent wedi gwneud hynny.