Part of the debate – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Arweinydd y tŷ, a allaf ofyn am ddau ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Addysg? Neithiwr, cefais y pleser o fod yn bresennol yng nghyngerdd sioe arddangos haf Cerdd Gwent yn Neuadd Dewi Sant, gyda cherddoriaeth gan ysgolion ar draws de-ddwyrain Cymru. Dylid clodfori a hyrwyddo’r cydweithredu rhanbarthol hwn ar draws ysgolion, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, ac felly byddai unrhyw gymorth ychwanegol, cymorth ariannol neu fel arall, gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Felly, tybed a allem gael datganiad gan yr Ysgrifennydd Addysg ar yr hyn sy'n cael ei wneud i gefnogi rhaglenni megis sioe arddangos Cerdd Gwent mewn rhannau eraill o Gymru.
Yn ail, yn ystod amser cinio heddiw, ymwelais â digwyddiad y Cyngor Prydeinig yn Nhŷ Hywel, rwy’n gwybod bod nifer o Aelodau yn bresennol, a oedd yn ceisio hyrwyddo dysgu ieithoedd modern ar draws Cymru. Mae’r Cabinet, rwy'n siŵr, yn ymwybodol o’r gostyngiad a fu mewn addysgu ieithoedd tramor ar draws Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, yn hytrach na'r cynnydd yr hoffem ei weld, a chredaf, o’i chymharu â Lloegr, fod y sefyllfa yn waeth yma. Felly, a allem gael datganiad am yr hyn y gellir ei wneud i geisio atal y dirywiad hwn mewn addysgu ieithoedd tramor modern mewn ysgolion ledled Cymru, fel bod disgyblion Cymru yr un mor abl â disgyblion o bob rhan arall o’r DU—gan gynnwys yr Alban, lle maent ar y blaen—yn sicrhau nad ydym yn ynysig ond yn edrych allan ar y byd ac yn gallu cystadlu ar y llwyfan byd-eang?