– Senedd Cymru am 2:22 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes ac rydw i’n galw ar Jane Hutt.
Mae gennyf un newid i fusnes heddiw. Mae'r datganiad ar dai a digartrefedd wedi’i dynnu'n ôl. Yn ychwanegol at hyn, mae’r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i ohirio dadl fer yfory. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y dangosir ar y datganiad a’r cyhoeddiad busnes sydd i’w canfod ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Gyda'r holl gythrwfl gwleidyddol dros yr ychydig wythnosau diwethaf, efallai nad yw diwedd streic amgueddfa’r PCS wedi cael y sylw haeddiannol, ac rwyf am dalu teyrnged i aelodau staff yr amgueddfa, a fu'n brwydro am flynyddoedd yn ôl pob tebyg, i ddiogelu cyflog penwythnos y gweithwyr sy’n derbyn y cyflogau isaf. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru yn gallu ymyrryd er mwyn helpu i roi terfyn ar y streic.
Fodd bynnag, a fyddai arweinydd y tŷ yn trefnu datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi ynglŷn â’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'r cyrff y mae'n eu hariannu’n llwyr, megis yr amgueddfa a'r llyfrgell, er mwyn nodi beth yw'r berthynas rhwng y Llywodraeth a'r rheolwyr yn y cyrff hynny? Credaf y byddai'n ddefnyddiol deall y paramedrau sy'n gweithredu.
Diolchaf i Julie Morgan am y cwestiwn hwnnw. Rwy‘n gwybod ei bod wedi crybwyll hyn yn rheolaidd er mwyn dangos cefnogaeth i sicrhau bod penderfyniad yn cael ei wneud o ran yr anghydfod ynglŷn â‘r amgueddfa genedlaethol. Wrth gwrs, cynigiodd Lywodraeth Cymru gefnogaeth a hefyd hwylusodd drafodaethau i ddod â'r pleidiau ynghyd ac i ddod â'r anghydfod i ben, ac, yn wir, gwnaeth ddarparu peth cyllid ychwanegol i'r amgueddfa genedlaethol i gynorthwyo gyda chostau o fodloni cynnig cyflog uwch. Mae hynny yn amlwg wedi’i gytuno arno yn ddiweddar gydag aelodau PCS.
Credaf fod y cwestiwn ynghylch a allai Ysgrifennydd y Cabinet gynnig eglurder o ran y berthynas, yn un defnyddiol iawn. Mae gennym, mewn gwirionedd, ddogfen fframwaith, sy'n nodi ein trefniadau cyllido rhwng cyrff a noddir a’r Llywodraeth, ond credaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi eglurhad defnyddiol nid yn unig o ran yr amgueddfa genedlaethol, ond o ran cyrff noddedig eraill mewn cysylltiad â threfniadau cyllido.
A gaf i ofyn i chi, reolwr busnes, fel arweinydd y tŷ, am ddatganiad gan y Gweinidog amgylchedd? Roedd yna ddigwyddiad, rydym eisoes wedi ei glywed, gyda’r byd amgylcheddol a chefn gwlad a ffermio ddoe ac roedd diddordeb mawr gen i glywed bod yna fwriad gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu polisi amaeth a physgodfeydd penodol i Gymru. Gan ein bod yn gwynebu haf o sioeau a digwyddiadau cefn gwlad, byddai’n beth braf iawn i Lywodraeth ymgynghori ar bolisi o’r fath. Nid oes yn rhaid cael polisi wedi’i ysgrifennu cyn yr haf, dim ond yr egwyddorion, neu, hyd yn oed, lechen wag jest yn gofyn am syniadau. Felly, os cawn ni ddatganiad ysgrifenedig neu ar lafar gan yr Ysgrifennydd ynglŷn â’r bwriad i ddatblygu polisi a sut felly y bydd y polisi yn cael ei fwrw ymlaen ag ef—.
Ac, yn ail, a gaf i ofyn hefyd am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Addysg ynglŷn â’r adroddiad Estyn sydd wedi’i gyhoeddi heddiw ynglŷn â chyrhaeddiad addysgol plant sydd mewn gofal? Mae’n dangos bod peth cynnydd wedi bod ond ein bod ni’n dal ar ei hôl hi yn sylweddol iawn ymysg plant mewn gofal, gyda 45 y cant ohonyn nhw heb fod mewn gwaith, addysg na hyfforddiant ar ôl 16. Rydw i’n siŵr bod pawb yn cytuno nad yw hynny’n dderbyniol yng Nghymru a bod angen gwella yn sylweddol. Felly, byddai’n braf iawn cael clywed, eto ar lafar neu yn ysgrifenedig, gan yr Ysgrifennydd Addysg beth yw ymateb y Llywodraeth i’r adroddiad hwnnw a pha gamau sydd angen eu newid.
On a more positive note, can I ask for a statement from the Minister—I’m still not quite sure which Minister is responsible for community sport, I think it might by the Minister for well-being or it might be a deputy, who knows, but, anyway, a statement from the Minister responsible for the community side of sports? Because we all wish Wales well in the semi-finals tomorrow night. It’s a marvellous thing to see. The legacy of the interest that’s been engendered in football—and as I speak as a follower of the other ball, but, even so, the interest is going to be magnificent to build on this. Will she join with me in condemning, in the best possible taste, the killjoys in UEFA who’ve said that the Welsh team shouldn’t take their children on the pitch at the end of the game? I cannot think of a more positive message that the Welsh team is sending than to have young girls and boys kicking the ball around at the end of an international football match. When you see what other players do in terms of parading around their various followers of different kinds and their marketable commodities, to have the Welsh players concentrating on their families and on young people taking part is a wonderful, wonderful message. We can build on that in Wales, I’m sure. I think a statement, after we’ve won the final, from the Minister responsible will set the right tone for a summer of sport in Wales.
Diolch yn fawr, Simon Thomas. Mewn ymateb i'ch cwestiwn cyntaf, fel yr ydych wedi dweud, ac fel y cydnabyddir y prynhawn yma, gwnaeth y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, gyfarfod ddoe â ffigyrau allweddol o sectorau amgylcheddol ac amaethyddol Cymru, gan ganolbwyntio yn benodol ar oblygiadau penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd. Fel y dywedwyd eisoes gan y Prif Weinidog, roedd yn cynnwys arweinwyr o’r undebau ffermio, pobl fusnes wledig, yn ogystal â chynrychiolwyr o gyrff amgylcheddol, yn rhannu sylwadau, heriau a chyfleoedd. Gwn y bydd y Gweinidog yn awyddus i ychwanegu at hyn o ran rhoi datganiad i egluro nid yn unig y trafodaethau, ond y camau nesaf o ran datblygu’r ymateb polisi hwnnw gan Lywodraeth Cymru.
Mewn ymateb i'ch ail gwestiwn, yn dilyn adroddiad Estyn, y ffaith mai hwn yw—. Wrth gwrs, rydym bob amser yn croesawu cyhoeddi'r adroddiad, ac rwy'n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn benodol am ganolbwyntio ar y pwyntiau yr ydych yn eu gwneud o ran cynnydd, ond hefyd lle mae mwy y gellir ei wneud, yn enwedig mewn cysylltiad â rhagolygon cyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb yn unol â hynny gyda datganiad.
Credaf y bydd pob un o’n Hysgrifenyddion Cabinet, Llywodraeth Cymru i gyd ac, yn wir, y Cynulliad cyfan yn dymuno yn dda i Gymru. Mae'r rhai sydd yn ddigon ffodus i fod yno nid yn unig i fwynhau yfory, ond, wrth gwrs, y rownd derfynol, pan ddaw, rwy'n siŵr, ddydd Sadwrn—.
Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod mewn gwirionedd yn cydnabod sut mae aelodau o dîm Cymru wedi bod yn arwyr gwych, fel y dywedoch, Simon Thomas, a'r ffordd y maent wedi ymgysylltu â phobl ifanc a theuluoedd; mae wedi bod i raddau helaeth yn fynegiant cefnogwyr teulu, onid ydyw? Rydym yn gallu gweld hynny ac rydym yn falch iawn ohono. Mae wedi rhoi Cymru ar fap y byd, nid yn unig oherwydd talent ein chwaraewyr o Gymru, ond hefyd oherwydd yr ysbryd a'r ethos sydd wedi bod ganddynt wrth iddynt chwarae. Felly, rwy'n siŵr ein bod yn dymuno’n dda i Gymru, ond hefyd yn rhoi sylw i’r gwaddol. Gwn y byddwn i gyd yn awyddus i longyfarch, diolch a chydnabod yr hyn y maent wedi ei gyflawni, nid dim ond ennill y bencampwriaeth, ond y modd y maent wedi gwneud hynny.
Arweinydd y tŷ, a allaf ofyn am ddau ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Addysg? Neithiwr, cefais y pleser o fod yn bresennol yng nghyngerdd sioe arddangos haf Cerdd Gwent yn Neuadd Dewi Sant, gyda cherddoriaeth gan ysgolion ar draws de-ddwyrain Cymru. Dylid clodfori a hyrwyddo’r cydweithredu rhanbarthol hwn ar draws ysgolion, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, ac felly byddai unrhyw gymorth ychwanegol, cymorth ariannol neu fel arall, gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Felly, tybed a allem gael datganiad gan yr Ysgrifennydd Addysg ar yr hyn sy'n cael ei wneud i gefnogi rhaglenni megis sioe arddangos Cerdd Gwent mewn rhannau eraill o Gymru.
Yn ail, yn ystod amser cinio heddiw, ymwelais â digwyddiad y Cyngor Prydeinig yn Nhŷ Hywel, rwy’n gwybod bod nifer o Aelodau yn bresennol, a oedd yn ceisio hyrwyddo dysgu ieithoedd modern ar draws Cymru. Mae’r Cabinet, rwy'n siŵr, yn ymwybodol o’r gostyngiad a fu mewn addysgu ieithoedd tramor ar draws Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, yn hytrach na'r cynnydd yr hoffem ei weld, a chredaf, o’i chymharu â Lloegr, fod y sefyllfa yn waeth yma. Felly, a allem gael datganiad am yr hyn y gellir ei wneud i geisio atal y dirywiad hwn mewn addysgu ieithoedd tramor modern mewn ysgolion ledled Cymru, fel bod disgyblion Cymru yr un mor abl â disgyblion o bob rhan arall o’r DU—gan gynnwys yr Alban, lle maent ar y blaen—yn sicrhau nad ydym yn ynysig ond yn edrych allan ar y byd ac yn gallu cystadlu ar y llwyfan byd-eang?
Diolch i chi, Nick Ramsay. Rwy'n siŵr fod sioe arddangos Cerdd Gwent yn arddangosfa aruthrol o dalent a sgiliau, ond hefyd o arbenigedd proffesiynol ac ymrwymiad y proffesiynau cerddoriaeth ac addysg. Ac, wrth gwrs, byddai wedi bod yn bartneriaeth, rwy'n siŵr, â llywodraeth leol, yn ogystal ag ysgolion, a gwn y bydd gan Ysgrifennydd y Cabinet ddiddordeb mawr i weld canlyniad hynny yn y De-ddwyrain.
Wrth gwrs, mae'r digwyddiad arall yr ydych yn sôn amdano yn bwysig iawn—digwyddiad y Cyngor Prydeinig yr oeddech yn bresennol ynddo. Rydym yn gweithio gyda'r Cyngor Prydeinig, a hefyd sefydliadau a phrifysgolion iaith ar draws y byd, i rwystro a gwrthdroi'r gostyngiad yn nifer y bobl sy’n dewis astudio ieithoedd tramor modern. Yn wir, rwy’n cofio digwyddiad yn fy etholaeth i, yn ysgol Bryn Hafren, sy'n arwain y blaen—ym mhob consortiwm ceir ysgol arweiniol—pan gyhoeddwyd 'Dyfodol Byd-eang' y llynedd, sef cynllun pum mlynedd i wella ac i hyrwyddo ieithoedd tramor modern. Felly, rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut mae’r cynllun hwnnw’n cael ei gyflwyno, ond mae'r Cyngor Prydeinig, a’i sefydliad iaith, yn rhan allweddol yn y datblygiad 'Dyfodol Byd-eang' hwnnw.
Rydym yn bobl groesawgar iawn yng Nghymru, ac yn adnabyddus am ein lletygarwch a’n cyfeillgarwch. Felly, tybed a wnaiff arweinydd y tŷ rannu fy siom bod yr Ysgrifennydd Gwladol hyd yn hyn wedi gwrthod ein gwahoddiad i ddod i roi tystiolaeth ar Fil Cymru, a hynny er gwaethaf ein hymdrechion gorau ar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, yr wyf bellach yn gadeirydd arno, yn dilyn stiwardiaeth arbenigol Mr David Melding. Nawr, er gwaethaf y croeso gofalus a roddwyd i rannau o'r Bil diweddaraf hwn, mae pryderon sylweddol yn dal i gael eu mynegi gan arbenigwyr cyfansoddiadol a chyfreithiol blaenllaw ynglŷn â chyflwyniad posibl mwy graddol datganoli, a'r Ysgrifennydd Gwladol, a dweud y gwir, yw'r unig un a all ymateb i'r pryderon hyn. Felly, tybed a allai arweinydd y tŷ, o bosibl, ynghyd â'n Llywydd, wrth geisio diogelu buddiannau'r Cynulliad a phobl Cymru, ddefnyddio eu dylanwad a’u gallu i annog Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ddod i ymweld â ni, gan nodi nad dim ond dymunol a rhesymol ydyw, ond mewn gwirionedd ei fod yn hanfodol ac o wir gymorth i graffu da bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn derbyn ein gwahoddiad cynnes a chwrtais i ddod adref i Gymru.
Wrth gwrs, bydd Huw Irranca-Davies, ac eraill yn y Siambr hon, yn cael y cyfle i estyn y gwahoddiad hwnnw eto brynhawn yfory, yn weladwy ac yn lleisiol, yn y ddadl ar Araith y Frenhines. Gallaf ddeall eich siom bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gwrthod eich gwahoddiad, gan ei bod mor bwysig, ac er budd gorau’r ddwy ochr, er mwyn symud ymlaen â Bil Cymru. Ond rwy’n aros i’r gwahoddiad gael ei estyn eto brynhawn yfory, rwy'n siŵr yn fwy agored, yn y ddadl ar Araith y Frenhines.
Tybed a gawn ddatganiad gan y Llywodraeth yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf, arweinydd y tŷ, ar fater yr wyf wedi ei godi o'r blaen. Mae hyn yn fater o—. Mae’r Siambr hon yn llunio deddfwriaeth ac mae’r Llywodraeth yn llunio polisïau, ar sail rhoi ystyriaeth i hawliau plant; yn amlwg, rydym wedi ymrwymo i egwyddor sylw dyledus wrth ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Yn anffodus, mae'r rhan fwyaf o gyflenwi a wneir ar draul ein deddfwriaeth a’n polisi yn cael ei wneud gan gyrff cyhoeddus, nad ydynt yn ymroddedig yn yr un ffordd yn union, ac mae Gweinidogion olynol wedi bod yn ddigon caredig i gydnabod bod bwlch posibl yno, lle gallai methu â chyflawni nodau polisi ddigwydd. Rwy'n credu y byddai'n rhoi sicrwydd i bob un ohonom yma yn y Siambr pe gallem gael rhyw fath o ddiweddariad ar gynnydd y gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru, o ran siarad â chyrff cyhoeddus, er mwyn sicrhau nad yw amcanion polisi y lle hwn yn cael eu tanseilio gan bwysau cystadleuol ar awdurdodau lleol, er enghraifft, pan ddaw at benderfynu sut y dylent ystyried hawliau plant wrth wneud eu penderfyniadau eu hunain.
Wel, rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog dros gymunedau a phlant yn croesawu’r cyfle hwnnw i egluro pa mor ddifrifol y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ei hymroddiad i'r CCUHP, er mwyn sicrhau bod hawliau plant yn pwysleisio ein holl amcanion polisi, ac, yn wir, ein hamcanion a’n dibenion ariannol a chyllidebol hefyd. Mae hynny'n rhan o'n hasesiad ar effaith integredig strategol, ac, wrth gwrs, mae'n cyd-fynd â phapurau cyllideb drafft a therfynol gan Lywodraeth Cymru. Ond mater i'r Gweinidog dros gymunedau a phlant, unwaith eto, yw ymateb i hyn o ran cael yr wybodaeth ddiweddaraf, rwy'n siŵr, a bydd yn agored i dderbyn cwestiynau a chyfleoedd mewn pwyllgorau ac ar lefel cwestiynau llafar y Cynulliad.
Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd. Yn gyntaf, ynglŷn ag adroddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol yr wythnos diwethaf ar farwolaethau y gellir eu hosgoi yng Nghymru a Lloegr, tybed a oes modd inni gael datganiad ar yr agenda iechyd ataliol ac iechyd cyhoeddus, sydd yn un agwedd bwysig ar ymdrin â marwolaethau y gellir eu hosgoi, ac efallai ein gosod ni’n gadarn ar agenda iechyd mwy rhagweithiol, yn hytrach nag adweithiol. Tybed a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth sy'n nodi ei barn bresennol am yr agenda iechyd ataliol ac iechyd cyhoeddus hwnnw.
Yn ail, tybed a gawn ni ddatganiad am ysgolion bro. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn bwrw ymlaen â pholisi yn effeithiol ac yn gyson ar draws Cymru, oherwydd yn fy marn i, ar hyn o bryd, ceir rhai enghreifftiau da iawn o ysgolion bro, ond mae'n eithaf anghyson. Mae gennyf i ddiddordeb mawr, ac rwy'n credu y byddai gan yr Aelodau yma yn gyffredinol ddiddordeb mawr yn y mecanweithiau a'r camau gweithredu a all sicrhau ysgolion bro cyson, ar draws Cymru. Rwy’n credu ei fod yn cael ei gydnabod yn dda mai cyflawni partneriaeth rhwng y cartref a'r ysgol, a'r gymuned a'r ysgol, yw'r ffordd fwyaf effeithiol ymlaen os ydym am wella safonau addysgol. Rydym yn gwario llawer o arian ar ein hadeiladau ysgol, ac nid yw eu gweld—rai ohonynt—yn sefyll yn wag gyda'r nosau, ar benwythnosau, ac yn ystod gwyliau, yn ddefnydd da o adnoddau cyhoeddus. Hefyd, o ran ehangu darpariaeth chwaraeon, gweithgarwch corfforol a gweithgareddau diwylliannol, mae'n fuddiol iawn pe gallem fabwysiadu’r dull ysgol bro hwnnw i’r perwyl hwnnw hefyd. Ac, yn olaf, credaf ei fod yn eithriadol o bwysig ein bod yn sicrhau nad rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn unig—er mor bwysig yw honno—ond hefyd, o ran ein hysgolion presennol, ein bod yn mabwysiadu dull yr ysgolion bro. Heb hynny, ni fyddai gennym y cysondeb rwy’n credu sydd ei angen arnom, ar draws Cymru.
Wel, mae’r Aelod dros Ddwyrain Casnewydd wedi codi rhai cwestiynau pwysig iawn, yn arbennig o ran yr arolwg ONS diweddar hwnnw. Cyflwynwyd ynddo y ffigurau diweddaraf ar farwolaethau y gellir eu hosgoi yng Nghymru a Lloegr, ac roedd yn dangos y ffigurau 2014 hynny am y tro cyntaf. Ond gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon ddatganiad llafar yn ddiweddar ynglŷn â phrif negeseuon arolwg iechyd Cymru, sef ein ffordd ni o edrych yn gyffredinol ar gyflwr iechyd y genedl. Maent, wrth gwrs, yn cael effaith fawr ar sut yr ydym yn mynd i'r afael â’r ffigurau hynny yn adroddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Ond hefyd, credaf fod yr ymrwymiadau yr ydym wedi eu gwneud yn ein maniffesto yn adeiladu ar y sylfaen gref iawn yr ydym wedi ei gosod er mwyn gweithredu ymyriadau iechyd cyhoeddus priodol.
Ynglŷn â’ch ail bwynt am ysgolion bro, mae hyn yn rhywbeth lle nad oes amheuaeth fod yn rhaid inni ddefnyddio ein cyfleusterau ysgol, nid yn unig er budd teuluoedd y disgyblion ond hefyd er budd y cymunedau ehangach. Mae angen hefyd inni edrych ar hyn o safbwynt defnydd cymunedol o asedau. Rydych chi wedi crybwyll cyfleusterau chwaraeon, ond hefyd gyd-leoli gwasanaethau allweddol. Mae cryn dipyn o'n mentrau, fel Dechrau'n Deg, hefyd wedi eu lleoli yn ein hysgolion, ond rydym yn gwybod hefyd, o ran mentrau dysgu oedolion a chyfleusterau ysgolion, ac yn wir eu tiroedd a’u cyfleusterau chwaraeon, wrth gwrs—bod angen i ni eu defnyddio i'r eithaf. Fe ofynnodd y Gweinidog blaenorol dros Addysg a Sgiliau i'r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru ddarparu adolygiad a chyngor ar sut y gellir defnyddio cyfleusterau ysgol yn fwy helaeth. Felly hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at eu hadroddiad ar Gynyddu’r Defnydd o Gyfleusterau Ysgol, a gyhoeddwyd fis Mawrth diwethaf. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried yr adroddiad hwn a'i argymhellion.
Roeddwn i eisiau gofyn cwestiwn busnes yn seiliedig ar y ffaith fy mod am gael datganiad am gyfraniad y Llywodraeth i’r gwaith o sefydlu ardaloedd cefnogwyr ledled Cymru, yn enwedig o ystyried y rownd gynderfynol. Wrth i ni drafod yma heddiw, rwy’n cael cryn dipyn o negeseuon gan bobl nad ydynt wedi llwyddo i gael tocynnau i fynd i Stadiwm y Principality—cefnogwyr sydd wedi dilyn y gemau drwy gydol y twrnamaint. Roeddwn am wybod tybed a fyddai modd i ni gael datganiad ar eich cyfraniad chi fel Llywodraeth, a gofyn hefyd a fyddech yn apelio i Gyngor Caerdydd agor caeau Cooper yn ogystal â'r stadiwm, fel nad yw’r bobl hynny ar eu colled, a hefyd yn condemnio'r bobl hynny heddiw sy'n gwerthu tocynnau a gawsant am ddim. Digwyddiad rhad ac am ddim yw hwn ac ni ddylid gwneud elw o’r bobl hynny sydd eisiau cefnogi tîm pêl-droed Cymru yn y rownd gynderfynol. Byddwn yn eich annog i gymryd camau brys o ystyried bod hyn yn digwydd yfory, ac efallai y gallwn gael datganiad gan y Gweinidog.
Wrth gwrs, mae hwn yn rhywbeth yr ydym am ei sicrhau, sef bod pobl yn gallu mynd i’r ardaloedd cefnogwyr lleol hynny. Maen nhw wedi dod yn hynod boblogaidd. Yr awdurdodau lleol, yn amlwg, ddylai sicrhau bod trefniadau yn cael eu gwneud, yn ogystal â darparu cymorth ariannol ar eu cyfer mewn gwirionedd. Gall cefnogwyr fwynhau’r gêm hefyd, wrth gwrs, drwy gefnogi busnesau, tafarndai a bwytai lleol. Ond rwy'n credu o ran y pwynt a wnaethoch—y pwynt sy’n peri pryder mawr o ran bod pobl yn ceisio camfanteisio ar yr achlysuron hyn drwy werthu tocynnau rhad ac am ddim—rydym yn mynd i wneud datganiad cryf, rwy’n meddwl, o ganlyniad i’ch cwestiwn heddiw. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu hwnnw â mi. Rwy’n credu mai’r neges gyffredinol, wrth gwrs—ac mae hyn yn ymateb i Simon Thomas yn gynharach—yw, lle bynnag y byddwch chi’n gwylio'r gêm, gadewch i ni gefnogi Chris Coleman a'r bechgyn a gwneud ein gorau glas i’w calonogi ar gyfer buddugoliaeth fendigedig arall.
Ategaf sylwadau Nick Ramsay am ieithoedd tramor modern, pryd y clywsom mai’r rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio’n andwyol yw’r disgyblion yn yr ardaloedd mwy difreintiedig. Galwaf am ddau ddatganiad, y cyntaf ar fwlio. Mae heddiw yn Ddiwrnod ‘Stand up to Bullying’ sy’n rhan o’r ymgyrch ‘Stand up to Bullying’, sydd â’r nod o annog unigolion, cymunedau lleol, ysgolion a busnesau i wrthsefyll bwlio a sicrhau bod eu disgyblion neu eu gweithwyr yn cael cymorth effeithiol i fynd i'r afael â'r broblem. Rydym yn clywed yn gyson yn y lle hwn—yn y Siambr hon, mewn pwyllgorau, ac yn ein gwaith achos ni’n hunain—am bobl sydd yn dal i gael eu bwlio ar sail rhywioldeb, nam, cyflwr neu ffactorau eraill. Rwy’n gwybod ei fod yn rhywbeth sydd wedi cael llawer o sylw gan Lywodraethau blaenorol Cymru, ond dyma’r ffigurau: roedd 68 y cant o bobl ifanc a holwyd yn gwybod am rywun a oedd wedi’i fwlio ar-lein ac roedd 81 y cant yn nodi bod bwlio yn gyffredin mewn ysgolion. Rhaid cyfaddef mai ffigurau’r DU yw’r rhain ac nid ffigurau sy'n benodol i Gymru, ond maent yn haeddu datganiad yn unol â hynny.
Yn olaf, datganiad gan Lywodraeth Cymru, os caf alw am hyn, ar gyfathrebu digidol yng nghyd-destun adolygiad Ofcom o gyfathrebu digidol, a ddaeth i'r casgliad bod diwygio Openreach yn hanfodol er mwyn gwella'r farchnad telathrebu o ran creu gwasanaeth mwy annibynnol sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid o fewn BT. Gofynnaf hyn oherwydd, ac yng nghyd-destun, y llythyr a aeth at brif weithredwr Ofcom oddi wrth glymblaid diwydiant y rhwydwaith cyfathrebu sy'n cynrychioli miliynau o gwsmeriaid band eang, ac a fydd yn gyfrifol am ddarparu'r genhedlaeth nesaf o rwydweithiau digidol. Bob wythnos yn y Siambr hon, rydym yn clywed Aelodau yn codi materion yn ymwneud â band eang a chysylltedd ffonau symudol yn eu hardaloedd eu hunain, ac, yn amlwg, bydd hyn yn hanfodol i’r agenda honno.
Diolch i chi, Mark Isherwood, am dynnu sylw at y Diwrnod Sefyll Lan yn erbyn Bwlio, sy’n cael sylw heddiw ac rwyf yn gwybod ein bod ni i gyd yn cefnogi hynny. Yn wir, rwyf yn gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn edrych ar y polisïau—mae'n rhywbeth sydd, i ddweud y gwir, yn cael ei rannu ar draws y Cabinet; yr Ysgrifennydd addysg, wrth gwrs—o ran mynd i'r afael â bwlio. Rydym fel arfer yn cynnal wythnos ym mis Tachwedd sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â bwlio. Rwy’n meddwl eich bod wedi crybwyll bwlio ar-lein, ond, hefyd, rydym yn gwybod ein bod yn poeni’n fawr y gallai rhywfaint o'r cynnydd mewn troseddau casineb hefyd gael effaith ar blant a phobl ifanc yn ogystal, ac mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn monitro hynny ac yn ymateb iddo yn briodol. Mae'n bwysig iawn ein bod ni yn canolbwyntio ar hynny unwaith eto yn awr, a bod Ysgrifenyddion y Cabinet sydd â’r cyfrifoldebau priodol yn edrych ar hyn yn ofalus iawn.
O ran eich ail bwynt, rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni gydnabod bod Llywodraeth Cymru ar flaen y gad wrth gyflenwi ein seilwaith digidol o ran band eang cyflym iawn, nid yn unig yn ei gyflenwi â’n harian ni, ond hefyd, wrth gwrs, yn ei gyflenwi o ganlyniad i gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd, sydd wrth gwrs dan gymaint o fygythiad yn awr yn sgil Brexit, ond yn amlwg yn cydnabod ei fod yn bartneriaeth sydd yn agos at gyrraedd ei tharged, wrth gwrs, a bydd ar flaen y gad o ran Cymru'n arwain y ffordd.
Ac yn olaf, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Lywydd. Arweinydd y tŷ, a yw'n bosibl cael datganiad gan Ysgrifennydd yr economi ar ardrethi busnes. Roedd maniffesto y Llywodraeth newydd yn nodi’n glir iawn y byddai’n gwneud ymrwymiad ar ardrethi busnes, yn benodol i godi, yn amlwg, y ffin, neu'r trothwy, dylwn i ddweud, ar gyfer cynnwys busnesau yn y gyfundrefn ardrethi busnes. Mae tymor y sioeau haf, eisteddfodau—beth bynnag yr ydych yn eu galw—maent oll yn digwydd yn ystod yr wyth wythnos nesaf. Bydd llawer o Aelodau yn ymgysylltu â busnesau a sefydliadau, a byddai rhyw fath o ddealltwriaeth o feddylfryd y Llywodraeth ynghylch sut mae'n mynd i fwrw ymlaen â’r ymrwymiad hwn, ac, yn wir, lefel y trothwy y bydd y Llywodraeth yn ei chyflwyno, yn ddefnyddiol iawn, rwy’n credu, wrth hysbysu’r sgyrsiau y bydd Aelodau yn eu cael mewn digwyddiadau drwy gydol yr haf. Felly, byddai datganiad cyn y toriad yn cael ei werthfawrogi'n fawr.
Wel, wrth gwrs, mae Andrew R.T. Davies yn gwybod bod yr ardrethi annomestig, yr ardrethi busnes, wedi’u datganoli’n llawn ar 1 Ebrill 2015. Mae Llywodraeth Cymru yn awr yn gyfrifol am bob agwedd ar reoli’r gronfa ardrethi annomestig. Ac, wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys y risgiau sy'n gysylltiedig â chydbwyso rhyddhad incwm a thaliadau. Felly, mae’r gwaith o ailbrisio eiddo annomestig ar y gweill ar hyn o bryd, a daw i rym ar 1 Ebrill 2017, a bydd hyn wrth gwrs yn diweddaru prisiadau eiddo annomestig. Ond mater i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yw ymateb i'r pwynt hwn, ac rwy'n siŵr y bydd yn darparu diweddariadau.
Diolch, Weinidog.