Part of the debate – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Wrth gwrs, bydd Huw Irranca-Davies, ac eraill yn y Siambr hon, yn cael y cyfle i estyn y gwahoddiad hwnnw eto brynhawn yfory, yn weladwy ac yn lleisiol, yn y ddadl ar Araith y Frenhines. Gallaf ddeall eich siom bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gwrthod eich gwahoddiad, gan ei bod mor bwysig, ac er budd gorau’r ddwy ochr, er mwyn symud ymlaen â Bil Cymru. Ond rwy’n aros i’r gwahoddiad gael ei estyn eto brynhawn yfory, rwy'n siŵr yn fwy agored, yn y ddadl ar Araith y Frenhines.