Part of the debate – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Rydym yn bobl groesawgar iawn yng Nghymru, ac yn adnabyddus am ein lletygarwch a’n cyfeillgarwch. Felly, tybed a wnaiff arweinydd y tŷ rannu fy siom bod yr Ysgrifennydd Gwladol hyd yn hyn wedi gwrthod ein gwahoddiad i ddod i roi tystiolaeth ar Fil Cymru, a hynny er gwaethaf ein hymdrechion gorau ar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, yr wyf bellach yn gadeirydd arno, yn dilyn stiwardiaeth arbenigol Mr David Melding. Nawr, er gwaethaf y croeso gofalus a roddwyd i rannau o'r Bil diweddaraf hwn, mae pryderon sylweddol yn dal i gael eu mynegi gan arbenigwyr cyfansoddiadol a chyfreithiol blaenllaw ynglŷn â chyflwyniad posibl mwy graddol datganoli, a'r Ysgrifennydd Gwladol, a dweud y gwir, yw'r unig un a all ymateb i'r pryderon hyn. Felly, tybed a allai arweinydd y tŷ, o bosibl, ynghyd â'n Llywydd, wrth geisio diogelu buddiannau'r Cynulliad a phobl Cymru, ddefnyddio eu dylanwad a’u gallu i annog Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ddod i ymweld â ni, gan nodi nad dim ond dymunol a rhesymol ydyw, ond mewn gwirionedd ei fod yn hanfodol ac o wir gymorth i graffu da bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn derbyn ein gwahoddiad cynnes a chwrtais i ddod adref i Gymru.