3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 2:37, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd. Yn gyntaf, ynglŷn ag adroddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol yr wythnos diwethaf ar farwolaethau y gellir eu hosgoi yng Nghymru a Lloegr, tybed a oes modd inni gael datganiad ar yr agenda iechyd ataliol ac iechyd cyhoeddus, sydd yn un agwedd bwysig ar ymdrin â marwolaethau y gellir eu hosgoi, ac efallai ein gosod ni’n gadarn ar agenda iechyd mwy rhagweithiol, yn hytrach nag adweithiol. Tybed a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth sy'n nodi ei barn bresennol am yr agenda iechyd ataliol ac iechyd cyhoeddus hwnnw.

Yn ail, tybed a gawn ni ddatganiad am ysgolion bro. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn bwrw ymlaen â pholisi yn effeithiol ac yn gyson ar draws Cymru, oherwydd yn fy marn i, ar hyn o bryd, ceir rhai enghreifftiau da iawn o ysgolion bro, ond mae'n eithaf anghyson. Mae gennyf i ddiddordeb mawr, ac rwy'n credu y byddai gan yr Aelodau yma yn gyffredinol ddiddordeb mawr yn y mecanweithiau a'r camau gweithredu a all sicrhau ysgolion bro cyson, ar draws Cymru. Rwy’n credu ei fod yn cael ei gydnabod yn dda mai cyflawni partneriaeth rhwng y cartref a'r ysgol, a'r gymuned a'r ysgol, yw'r ffordd fwyaf effeithiol ymlaen os ydym am wella safonau addysgol. Rydym yn gwario llawer o arian ar ein hadeiladau ysgol, ac nid yw eu gweld—rai ohonynt—yn sefyll yn wag gyda'r nosau, ar benwythnosau, ac yn ystod gwyliau, yn ddefnydd da o adnoddau cyhoeddus. Hefyd, o ran ehangu darpariaeth chwaraeon, gweithgarwch corfforol a gweithgareddau diwylliannol, mae'n fuddiol iawn pe gallem fabwysiadu’r dull ysgol bro hwnnw i’r perwyl hwnnw hefyd. Ac, yn olaf, credaf ei fod yn eithriadol o bwysig ein bod yn sicrhau nad rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn unig—er mor bwysig yw honno—ond hefyd, o ran ein hysgolion presennol, ein bod yn mabwysiadu dull yr ysgolion bro. Heb hynny, ni fyddai gennym y cysondeb rwy’n credu sydd ei angen arnom, ar draws Cymru.