Part of the debate – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Wel, mae’r Aelod dros Ddwyrain Casnewydd wedi codi rhai cwestiynau pwysig iawn, yn arbennig o ran yr arolwg ONS diweddar hwnnw. Cyflwynwyd ynddo y ffigurau diweddaraf ar farwolaethau y gellir eu hosgoi yng Nghymru a Lloegr, ac roedd yn dangos y ffigurau 2014 hynny am y tro cyntaf. Ond gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon ddatganiad llafar yn ddiweddar ynglŷn â phrif negeseuon arolwg iechyd Cymru, sef ein ffordd ni o edrych yn gyffredinol ar gyflwr iechyd y genedl. Maent, wrth gwrs, yn cael effaith fawr ar sut yr ydym yn mynd i'r afael â’r ffigurau hynny yn adroddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Ond hefyd, credaf fod yr ymrwymiadau yr ydym wedi eu gwneud yn ein maniffesto yn adeiladu ar y sylfaen gref iawn yr ydym wedi ei gosod er mwyn gweithredu ymyriadau iechyd cyhoeddus priodol.
Ynglŷn â’ch ail bwynt am ysgolion bro, mae hyn yn rhywbeth lle nad oes amheuaeth fod yn rhaid inni ddefnyddio ein cyfleusterau ysgol, nid yn unig er budd teuluoedd y disgyblion ond hefyd er budd y cymunedau ehangach. Mae angen hefyd inni edrych ar hyn o safbwynt defnydd cymunedol o asedau. Rydych chi wedi crybwyll cyfleusterau chwaraeon, ond hefyd gyd-leoli gwasanaethau allweddol. Mae cryn dipyn o'n mentrau, fel Dechrau'n Deg, hefyd wedi eu lleoli yn ein hysgolion, ond rydym yn gwybod hefyd, o ran mentrau dysgu oedolion a chyfleusterau ysgolion, ac yn wir eu tiroedd a’u cyfleusterau chwaraeon, wrth gwrs—bod angen i ni eu defnyddio i'r eithaf. Fe ofynnodd y Gweinidog blaenorol dros Addysg a Sgiliau i'r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru ddarparu adolygiad a chyngor ar sut y gellir defnyddio cyfleusterau ysgol yn fwy helaeth. Felly hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at eu hadroddiad ar Gynyddu’r Defnydd o Gyfleusterau Ysgol, a gyhoeddwyd fis Mawrth diwethaf. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried yr adroddiad hwn a'i argymhellion.