3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:44, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Ategaf sylwadau Nick Ramsay am ieithoedd tramor modern, pryd y clywsom mai’r rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio’n andwyol yw’r disgyblion yn yr ardaloedd mwy difreintiedig. Galwaf am ddau ddatganiad, y cyntaf ar fwlio. Mae heddiw yn Ddiwrnod ‘Stand up to Bullying’ sy’n rhan o’r ymgyrch ‘Stand up to Bullying’, sydd â’r nod o annog unigolion, cymunedau lleol, ysgolion a busnesau i wrthsefyll bwlio a sicrhau bod eu disgyblion neu eu gweithwyr yn cael cymorth effeithiol i fynd i'r afael â'r broblem. Rydym yn clywed yn gyson yn y lle hwn—yn y Siambr hon, mewn pwyllgorau, ac yn ein gwaith achos ni’n hunain—am bobl sydd yn dal i gael eu bwlio ar sail rhywioldeb, nam, cyflwr neu ffactorau eraill. Rwy’n gwybod ei fod yn rhywbeth sydd wedi cael llawer o sylw gan Lywodraethau blaenorol Cymru, ond dyma’r ffigurau: roedd 68 y cant o bobl ifanc a holwyd yn gwybod am rywun a oedd wedi’i fwlio ar-lein ac roedd 81 y cant yn nodi bod bwlio yn gyffredin mewn ysgolion. Rhaid cyfaddef mai ffigurau’r DU yw’r rhain ac nid ffigurau sy'n benodol i Gymru, ond maent yn haeddu datganiad yn unol â hynny.

Yn olaf, datganiad gan Lywodraeth Cymru, os caf alw am hyn, ar gyfathrebu digidol yng nghyd-destun adolygiad Ofcom o gyfathrebu digidol, a ddaeth i'r casgliad bod diwygio Openreach yn hanfodol er mwyn gwella'r farchnad telathrebu o ran creu gwasanaeth mwy annibynnol sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid o fewn BT. Gofynnaf hyn oherwydd, ac yng nghyd-destun, y llythyr a aeth at brif weithredwr Ofcom oddi wrth glymblaid diwydiant y rhwydwaith cyfathrebu sy'n cynrychioli miliynau o gwsmeriaid band eang, ac a fydd yn gyfrifol am ddarparu'r genhedlaeth nesaf o rwydweithiau digidol. Bob wythnos yn y Siambr hon, rydym yn clywed Aelodau yn codi materion yn ymwneud â band eang a chysylltedd ffonau symudol yn eu hardaloedd eu hunain, ac, yn amlwg, bydd hyn yn hanfodol i’r agenda honno.