Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Diolch i chi, Mark Isherwood, am dynnu sylw at y Diwrnod Sefyll Lan yn erbyn Bwlio, sy’n cael sylw heddiw ac rwyf yn gwybod ein bod ni i gyd yn cefnogi hynny. Yn wir, rwyf yn gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn edrych ar y polisïau—mae'n rhywbeth sydd, i ddweud y gwir, yn cael ei rannu ar draws y Cabinet; yr Ysgrifennydd addysg, wrth gwrs—o ran mynd i'r afael â bwlio. Rydym fel arfer yn cynnal wythnos ym mis Tachwedd sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â bwlio. Rwy’n meddwl eich bod wedi crybwyll bwlio ar-lein, ond, hefyd, rydym yn gwybod ein bod yn poeni’n fawr y gallai rhywfaint o'r cynnydd mewn troseddau casineb hefyd gael effaith ar blant a phobl ifanc yn ogystal, ac mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn monitro hynny ac yn ymateb iddo yn briodol. Mae'n bwysig iawn ein bod ni yn canolbwyntio ar hynny unwaith eto yn awr, a bod Ysgrifenyddion y Cabinet sydd â’r cyfrifoldebau priodol yn edrych ar hyn yn ofalus iawn.
O ran eich ail bwynt, rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni gydnabod bod Llywodraeth Cymru ar flaen y gad wrth gyflenwi ein seilwaith digidol o ran band eang cyflym iawn, nid yn unig yn ei gyflenwi â’n harian ni, ond hefyd, wrth gwrs, yn ei gyflenwi o ganlyniad i gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd, sydd wrth gwrs dan gymaint o fygythiad yn awr yn sgil Brexit, ond yn amlwg yn cydnabod ei fod yn bartneriaeth sydd yn agos at gyrraedd ei tharged, wrth gwrs, a bydd ar flaen y gad o ran Cymru'n arwain y ffordd.