Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Diolch i chi, Lywydd. Rwyf yn deall nad oes neb wedi gwrthwynebu erioed o'r blaen, yn hanes y Cynulliad i sefydliad y pwyllgorau. Fodd bynnag, nid yw UKIP dan ddyled y consensws blaenorol hwnnw. Rydym yn bwriadu pleidleisio heddiw yn erbyn sefydliad y pwyllgorau polisi a deddfwriaethol ar y sail y cytunwyd arno gan y rheolwyr busnes eraill. Y rheswm yr ydym yn gwneud hyn yw nad yw cydraddoldeb, 4: 4, yn golygu cydbwysedd rhwng partïon. Dywedodd ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Busnes wrthym i ddechrau nad oedd yn golygu cydbwysedd rhwng partïon. Beth newidiodd ynglŷn â hynny— [Torri ar draws.] Rwyf yn ôl. Ar hynny, nid oes dim wedi newid.
Fodd bynnag, tarodd y pleidiau eraill fargen â Llafur i ildio ar y pwynt hwnnw yn gyfnewid am gadeiryddiaeth pwyllgorau dethol, yn enwedig o ran Plaid, sy'n cadeirio nid yn unig y Pwyllgor Cyllid ond dau bwyllgor polisi a deddfwriaethol. Oherwydd hynny, ni fydd y gwrthbleidiau cyfunol yn gallu diwygio Biliau yn erbyn y Llywodraeth. Mae buddugoliaeth wych Leanne Wood yn y Rhondda, a wnaeth leihau Llafur i ddim ond 29 yn erbyn 30 o Aelodau gwrthbleidiau, a gan nad oes grŵp Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad erbyn hyn, a'r Aelod Democratiaid Rhyddfrydol dim ond â'r hawl i gael un lle ar bwyllgor pe byddai hi'n dymuno ei dderbyn, mae hynny'n newid sylweddol iawn yn yr hyn yw'r Cynulliad hwn oherwydd na allwn ddiwygio deddfwriaeth yn y pwyllgor pe byddai'r gwrthbleidiau yn unedig ar unrhyw ffordd benodol o weithredu yn erbyn y Llywodraeth. Mae hynny wedi ei roi i ffwrdd, byddwn i'n haeru, yn gyfnewid am sawl cadeiryddiaeth ddethol.
Ni fydd UKIP yn rhan o'r cytundeb hwnnw. Byddwn, fodd bynnag, yn trin y trefniadau y cytunwyd arnynt gan eraill gyda pharch. Byddwn yn cadeirio ein pwyllgor ni mewn ffordd ystyriol ar sail y dystiolaeth a byddwn yn cyfrannu ym mhob pwyllgor hyd eithaf ein gallu. Diolch.