5. 4. Cynigion i Gytuno ar Aelodaeth Pwyllgorau

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:52, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Nodaf ar y diwedd yn y fan yna bod UKIP yn gwrthwynebu aelodaeth y pwyllgorau, ond yn derbyn cadeiryddiaeth pwyllgor, sydd wedi bod yn fuddiol iawn iddyn nhw. Mae'r ffaith—mae'n rhaid bod pob Aelod yn gwybod hyn—bod gennym Gynulliad â 60 o Aelodau, 29 o'r Llywodraeth a 31 o'r gwrthbleidiau, yn golygu nad ydych yn gallu dyblygu 29 a 31 ar bwyllgorau o wyth. Mae'n rhaid i chi fynd i system o'r enw D'Hondt. Gwnaethom guro D'Hondt yr wythnos diwethaf yn y gêm yn erbyn Gwlad Belg, ond nid wyf yn credu ein bod eisiau sôn am hynny. Byddai D'Hondt wedi golygu na fyddai gan UKIP, mewn gwirionedd, aelod ar bob pwyllgor. Byddai wedi golygu, mewn gwirionedd, y byddai UKIP yn aml heb aelod ar bwyllgorau. Nawr, mae Plaid Cymru yn cefnogi—