Part of the debate – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n falch o weld eich bod yn parhau â brwdfrydedd eich rhagflaenydd am y trethi cyntaf i Gymru ers 800 mlynedd. Mae'n debyg ei bod ychydig yn ormod i ddisgwyl i'r cyhoedd fod yn frwdfrydig ynghylch talu trethi, ond o leiaf mae’r brwdfrydedd gennych chi gyda golwg ar hanes a'r drydedd ganrif ar ddeg mewn gwirionedd.
Mae hyn, yn wir, yn cynrychioli newid sylfaenol i’r setliad datganoli. Yn gyntaf, rwy’n cefnogi eich awydd i gadw trethi Cymru mor syml â phosibl. Rwy'n falch eich bod yn parhau â'r polisi na ddylai ein trethi ni fod yn wahanol i'r rhai dros y ffin ac mewn rhannau eraill oni bai bod gwir angen am hynny. Sut yr ydych chi’n mynd i sicrhau’r symlrwydd hwn, a beth yr ydych chi wedi'i wneud i roi sicrwydd i randdeiliaid y bydd y gyfundrefn dreth sy'n datblygu yng Nghymru mor syml â phosibl?
Rwy’n deall y bydd y broses ddeddfu ar gyfer trethi fel y dreth trafodiadau tir yn gymhleth; rwy'n siŵr eich bod yn cytuno ei bod yn bwysig ein bod yn gwneud hyn yn iawn. Gwnaethoch sôn am hyn, ond beth yr ydych chi’n ei wneud i ddefnyddio’r profiad o ddatganoli treth yn yr Alban? Fel y dywedasoch yn gynharach, maent wedi gwneud rhai camgymeriadau yno, fel datblygu'r ddeddfwriaeth ar gyfer Revenue Scotland ymhell ar ôl iddynt ddechrau ar y broses o ddatblygu trethi unigol. Gwnaethant ddysgu nifer o wersi; a ydych chi wedi dysgu’r gwersi hynny—wel, mae’n amlwg eich bod, oherwydd rydych wedi’i wneud yn y drefn arall—ond pa wersi eraill y mae Llywodraeth Cymru wedi’u dysgu, ac, yn wir, beth allwn ni ei ddysgu i’r Alban yn y maes hwn, Ysgrifennydd? Rwy'n siŵr bod yna bethau yno—mae hon yn broses ddwy ffordd.
Rwy'n falch eich bod yn bwriadu cynnal perthynas adeiladol â Chyllid a Thollau EM. Pa mor hyderus ydych chi yn y cyfnod cynnar hwn y bydd Cyllid a Thollau EM yn addas i’w ddiben yng nghyd-destun Cymru? Roedd yr Alban, i ddechrau, yn mynd i ddibynnu'n drwm iawn ar Gyllid a Thollau EM, ond wrth i bethau fynd rhagddynt a datblygu, roeddent yn dibynnu llai arnynt, ac rwy’n meddwl eu bod wedi rhoi llawer mwy o'r gwaith i Revenue Scotland yr oedd Cyllid a Thollau EM yn mynd i’w wneud yn wreiddiol am resymau cost a rhesymau effeithlonrwydd. A ydych chi’n rhagweld y bydd gan Awdurdod Refeniw Cymru gyfrifoldeb ehangach tebyg yn y dyfodol o ran cymryd rhywfaint o'r cyfrifoldeb hwnnw eu hun?
Rydych wedi sôn, tuag at ddiwedd eich datganiad, am y fframwaith cyllidol. Fel y gwyddoch, ac fel yr wyf wedi’i ddweud wrthych yn y gorffennol, mae gennych gefnogaeth drawsbleidiol ar ddatblygu fframwaith cyllidol priodol. Rwy'n credu bod gennym gytundeb cyffredinol na allwn fynd ymlaen fel yr ydym, yn enwedig gan fod y trethi hyn ar fin cael eu datganoli i Gymru.
Rwyf wedi siarad dro ar ôl tro ac wedi gofyn cwestiynau i chi am fy mhryderon ynglŷn â gostyngiadau i’r grant bloc yn sgil datganoli treth, gan gynnwys datganoli treth incwm. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni, fel y gofynnodd Adam Price i chi, am unrhyw drafodaethau â’r Trysorlys am fecanweithiau o gyfrifo'r gostyngiad yn y grant bloc yn y flwyddyn gyntaf a, hefyd, y dewisiadau ar gyfer mynegeio gostyngiadau yn y dyfodol? Yn amlwg, nid yw'r rhain yn faterion sy’n destun trafodaethau mewn tafarndai ledled Cymru, ond mae'r rhain yn bwysig iawn o ran datganoli treth yn gywir.
O ran gostyngiadau yn y dyfodol, yn gyntaf, sut y bydd chwyddiant yn cael ei ystyried? Gyda'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd a mewnforion drutach, y consensws cyffredinol yw bod yna risg o chwyddiant uwch dros y tymor canolig. Felly, mae'r mynegeio ar gyfer chwyddiant yn dod yn fwy a mwy pwysig, hyd yn oed yn fwy felly nag yr oedd o'r blaen. Yn ail, rydych eisoes wedi sôn am y mater o newid yn y boblogaeth. Mae Llywodraeth yr Alban wedi ymdrin â hyn ac mae ganddynt gytundeb â San Steffan nad cyfran yr Alban o dreth incwm fydd yn talu am unrhyw newid niweidiol i’r boblogaeth, ond y DU yn ei chyfanrwydd. A ydych chi’n ceisio cael sicrwydd tebyg gan y Trysorlys? Rwy'n fwy na pharod i gyflwyno’r achos hwnnw gyda chi. Mae hon yn enghraifft dda o ble mae angen inni weld tegwch ledled y DU. Ydym, rydym i gyd yn cytuno â'r angen am atebolrwydd cyllidol a'r angen i Lywodraeth Cymru ysgwyddo’r risg sy'n gysylltiedig â'r penderfyniadau ariannol yr ydych yn eu gwneud, ond ni ddylech orfod ysgwyddo’r risg sy'n gysylltiedig â phenderfyniadau’r DU gyfan. Mae angen inni ddatgysylltu’r ddau hynny.
Yn olaf, Lywydd, rydych yn sôn am yr angen am ryw fath o gyfryngu yn y dyfodol os nad yw'r swm o arian yr ydym yn ei gael drwy fformiwla Barnett a'r fframwaith ariannol yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn teimlo y dylem fod yn ei gael. Rwy’n cofio rhai o sesiynau tystiolaeth y Pwyllgor Cyllid yn y Cynulliad diwethaf. Roedd awgrym y gallem ddatblygu corff i’r DU a fyddai'n ymdrin â phroblemau cyfryngu fel hon, fel na fyddai mor syml â thrafodaeth ddwyochrog rhyngoch chi a Llywodraeth San Steffan. Beth yw eich barn chi, yn y dyfodol, am ryw fath o gorff a allai ddarparu'r cyfryngu hwnnw? A fyddech chi’n hoffi ein gweld yn dychwelyd at y trafodaethau pedrochrog a gafodd eich rhagflaenydd nifer o flynyddoedd yn ôl, cyn iddynt gael eu disodli gan drafodaethau dwyochrog? Rwy'n meddwl bod y trafodaethau pedrochrog, o fy nhrafodaethau â Jane Hutt, yn ddefnyddiol iawn wrth symud ymlaen.