Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Diolch i Nick Ramsay am y cwestiynau pwysig yna. Mae fy man cychwyn yr un fath â’i un ef. Hoffem i'r system fod mor ddealladwy a syml ag y bo modd, er bod rhai o'r materion hyn yn eu hanfod yn gymhleth ac yn faterion i bobl sy'n arbenigwyr yn y maes. Credaf y dylai'r daith yr ydym arni ddechrau â chyn lleied o wahaniaeth ag sydd ei angen rhwng y system sydd gennym eisoes a'r system y byddwn yn ei chreu, gan ychwanegu digon o hyblygrwydd at ein system i ganiatáu ar gyfer gwahaniaethu yn y dyfodol, pe byddai anghenion polisi Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i ni symud i'r cyfeiriad hwnnw. Yn y tymor byr, mae'n bwysig iawn bod y bobl hynny sy'n gweithio’r system o ddydd i ddydd yn adnabod y system a fydd yn cymryd ei lle fel yr un y maent wedi arfer â hi, er mwyn iddynt allu parhau i ddarparu gwasanaeth llyfn i aelodau'r cyhoedd, ond hoffem gael, yn gynhenid yn y ddeddfwriaeth y byddwn yn ei chyflwyno, y gallu i hynny ddatblygu ac aeddfedu.
O ran gwersi yr ydym wedi'u dysgu gan yr Alban, fel y dywedais wrth Adam Price, rydym wedi bod yn ffodus iawn, rwy’n meddwl, o gael cymaint o gymorth gan gydweithwyr yn yr Alban ac rydym yn dal i gael y cymorth hwnnw. Un o'r gwersi yr ydym wedi’i dysgu gan Revenue Scotland yw’r sail i'r penderfyniad a gyhoeddais yn y datganiad ysgrifenedig ddydd Gwener mai Awdurdod Refeniw Cymru fydd yn arwain ar gasglu a rheoli treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi, ac ar gydymffurfiad a gorfodi'r dreth trafodiadau tir. Flwyddyn yn ôl, roeddem yn meddwl bod cydbwysedd y dadleuon ychydig o blaid caniatáu i HMRC barhau i wneud hynny ar ein rhan. Ond, mae profiad blwyddyn gyntaf Revenue Scotland, rwy’n credu, yn rhoi hyder i ni ei bod yn bosibl i ni ymdrin â’r dreth honno yn fwy uniongyrchol ein hunain. Rwy'n credu bod hwnnw'n fuddsoddiad da wrth adeiladu'r system y bydd ei hangen arnom yn y dyfodol. Mae angen inni gadw perthynas adeiladol â Chyllid a Thollau EM yn y cyfamser oherwydd mae ganddynt arbenigedd y bydd angen inni fanteisio arno. Mae gennym gynigion da gan Gyllid a Thollau EM o secondio staff i ni yng Nghymru, yn y tymor byr, i’n helpu i ddatblygu’r arbenigedd hwnnw, a deialog barhaus â nhw i'n helpu i sefydlu ein systemau yma.
Mae Nick Ramsay wedi sôn yn rheolaidd iawn ac yn effeithiol am holl fater y fframwaith cyllidol ar lawr y Cynulliad a'r angen am fecanwaith addasiad grant bloc i ddiogelu sefyllfa trethdalwyr Cymru a phobl sy'n dibynnu ar wasanaethau yng Nghymru. Nid y flwyddyn gyntaf yw'r broblem, fel yr oedd yn ei awgrymu. Mae’n fater syml o amnewid yr hyn a fydd gennym neu’r hyn a fyddai wedi bod gennym yn y blynyddoedd dilynol, ond mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y mecanwaith yn ddigon cadarn i ystyried chwyddiant. Byddwn i’n sicr yn disgwyl y bydd gennym system debyg i'r un y gwnaethant ei negodi yn yr Alban o ran y mater poblogaeth, ond mae gwahaniaethau eraill. Cyfeiriodd Adam Price at waith Canolfan Llywodraethiant Cymru ar effaith wahaniaethol codi’r trothwy treth yng Nghymru o’i gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Bydd yn rhaid i ni drafod y materion hynny yn yr hydref yn ogystal.
O ran cyfryngu yn y dyfodol a'r angen am system ddyfarnu ddiduedd, yn yr Alban maent wedi cytuno i ddefnyddio Swyddfa Cyfrifoldeb y Gyllideb a Chomisiwn Ffisgal yr Alban. Nid oes gennym gomisiwn o'r math hwnnw yma yng Nghymru a byddaf yn ystyried dros yr haf sut y gallem ysgogi math o arbenigedd sy’n benodol i Gymru i gyd-fynd â'r cyngor annibynnol a fydd yn parhau i ddod gan Swyddfa Cyfrifoldeb y Gyllideb.
Cyn belled ag y mae’r pedrochrau dan sylw, rwy’n sicr yn meddwl y byddai'n fuddiol eu hadfywio. Rwyf wedi dweud hynny wrth Brif Ysgrifennydd y Trysorlys eisoes. Yn y cyfamser, byddaf yn cwrdd â Gweinidogion cyllid o'r Alban a Gogledd Iwerddon yr wythnos nesaf i wneud yn siŵr ein bod yn parhau i rannu profiad ac arbenigedd y gallwn ei roi ar waith ar y cyd yn ein trafodaethau â Whitehall.