Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Mae trethiant yn bodoli i dalu am wasanaethau cyhoeddus. Mae'n bwysig iawn, os ydym am gael gwasanaethau cyhoeddus o safon uchel, bod gennym system drethu sy'n gweithio. Nid dull o ddatblygu economaidd yw prif bwrpas trethiant; mae yno i ddarparu arian ar gyfer gwasanaethau yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt.
Mae’r ddwy dreth y cynigir eu datganoli ar 1 Ebrill 2018 yn codi incwm cyfyngedig. Bwriad y polisi yw parhau i leihau tirlenwi, ac felly’r dreth gwarediadau tirlenwi, drwy gynyddu ailgylchu. Yn wir, byddai'r Llywodraeth yn ôl pob tebyg yn ystyried y byddai’n llwyddiant pe na byddai’r dreth tirlenwi yn codi unrhyw arian o gwbl. Er bod y dreth trafodiadau tir yn hynod gyfnewidiol a chylchol, mae swm y dreth a godir yn ddigon bach i beidio ag effeithio'n sylweddol ar wariant Llywodraeth Cymru. Bydd, fodd bynnag, yn hanfodol er mwyn cael bargen deg ar y dreth hon ein bod yn sicrhau nad oes dim niwed ac i osod yr egwyddorion ar gyfer unrhyw drethiant a gaiff ei ddatganoli yn y dyfodol.
Rwy’n cytuno â Nick Ramsay am bwysigrwydd cyfryngu. Os caf sôn yn sydyn am yr arian na chawsom o Gemau Olympaidd Llundain, pan weithredodd y Trysorlys fel barnwr a rheithgor, gan roi tua'r un faint o arian inni ag yr wyf yn credu y dylem fod wedi’i gael ar gyfer Abertawe, heb sôn am Gymru gyfan.
Rwy'n nerfus am ddatganoli treth incwm. Rydym yn gwybod ei bod wedi gostwng gan £400 miliwn rhwng 2007-08 a 2009-10. Rwy’n siŵr na fyddai hyd yn oed beirniaid mwyaf Llywodraeth Cymru yn beio Llywodraeth Cymru am y cwymp hwnnw, ac eto, pe byddai’r dreth incwm yn cael ei datganoli, nhw fyddai’n cael eu taro. Dylai unrhyw newid i'r ffordd y caiff Cymru ei hariannu roi amddiffyniad yn erbyn gostyngiadau wedi’u hachosi gan weithredoedd y tu allan i reolaeth Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n rhaid bod 'dim niwed' wedi’i ysgrifennu i mewn yno, ac nid ar gyfer y tymor byr, ond am byth.
Mae gen i gwestiwn. Os ydych yn meddwl yn benodol yn ôl at Silk, roedd sôn am ddatganoli'r ardoll agregau. Mae hynny'n rhywbeth sy'n ymddangos fel ei fod wedi’i roi o’r neilltu ers amser maith. Nid yw'n swm arbennig o fawr o arian, ond rwy’n meddwl ei bod yn dreth sy'n hawdd, rwy’n gobeithio, ei datganoli. A all y Gweinidog roi unrhyw wybodaeth bellach am ddatganoli'r ardoll agregau? Ac a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i sicrhau mai cadw'r terfyn ariannu isaf yw agwedd allweddol unrhyw drafodaethau, fel ei fod gennym os aiff swm yr arian sy'n dod i mewn i Gymru i fyny, neu os yw'r arian sydd wedi cael ei wario’n mynd i fyny, fel nad dim ond pan fo’r arian yn mynd i lawr y mae yno, ac i sicrhau bod 'dim niwed' yn cael ei gynnwys yn y system gyfan, fel nad ydym ar ein colled? A wnaiff y Gweinidog barhau i bwyso am ryw fath o gyfryngu; rhywun i ddyfarnu rhwng Llywodraeth Cymru a'r Trysorlys? Nid wyf yn gwybod a wyf yn cael dweud hyn, ond nid oes gennyf ffydd yn y Trysorlys i fod yn deg. [Aelodau'r Cynulliad: 'O.]