6. 5. Datganiad: Datganoli Trethi a'r Fframwaith Cyllidol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:25, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i Mark Reckless am y cwestiynau yna. Mae fy neges heddiw am beidio â newid er mwyn newid yn seiliedig ar y neges glir iawn a ddaeth gan randdeiliaid yn ystod ein hymgynghoriad ar y dreth trosglwyddo tir. Roeddent yn gryf iawn o'r farn bod angen inni symud yn llyfn o'r gyfraith bresennol at y gyfraith newydd ac y byddai’r newidiadau—a byddwn yn cyflwyno newidiadau—ddim ond y rhai sydd eu hangen gan ganiatáu cwmpas ar gyfer mwy o newidiadau yn y dyfodol.

Yr hyn a ddywedais yn fy natganiad—rwy’n ymddiheuro os na wnes i hyn yn ddigon clir—oedd, ers inni ymgynghori ar ein cynigion treth trafodiadau tir, bod newidiadau wedi digwydd yn yr Alban ac ar lefel y DU nad oeddent yn hysbys ar adeg yr ymgynghoriad, a thynnais sylw yn benodol at y dreth ychwanegol ar ail gartrefi, na ddaeth yn rhan o dirwedd yr Alban a'r DU tan ar ôl i’n hymgynghoriad ni ddod i ben. Rwy’n meddwl bod Mr Reckless wedi gofyn imi a oedd hwnnw'n bolisi yr oeddwn yn ei gefnogi. Dewch imi ddweud ei fod yn bolisi sy’n ddeniadol imi, ond mae'n rhaid inni ymgynghori arno. Ac felly, nid wyf yn dod i gasgliad tan ein bod wedi cael yr ymgynghoriad, ac roeddwn yn ceisio dweud yn fy natganiad y byddwn yn cyhoeddi dogfen ar gyfer ymgynghoriad yn ystod yr haf hwn, ac yna byddaf yn dod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol â chasgliadau cyn gynted ag y byddwn wedi elwa ar hynny.

O ran cyfraddau treth incwm i Gymru, roeddwn yn cyfeirio at y newid arfaethedig yn Bil Cymru ac yn ceisio gwneud y pwynt, yn syml, os na fydd refferendwm, bod arnom angen rhyw fecanwaith i gymryd lle hynny, ac, i mi, hwnnw yw na ddylid trosglwyddo unrhyw gyfrifoldeb am dreth incwm i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn heb gytundeb penodol y Cynulliad Cenedlaethol hwn.