Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Dadleuol—ie, yn wir. Mae Mike Hedges yn iawn, wrth gwrs, mai pwrpas codi trethi yw talu am wasanaethau cyhoeddus. Rydym hefyd yn gwneud ein gorau i gyfochri trethiant mewn ffordd sy'n hyrwyddo amcanion polisi cyhoeddus, a dyna pam mae gennym dreth gwarediadau tirlenwi. Mae rhywfaint o anwadalrwydd yn gynhenid yn y trethi hyn. Yr amcangyfrifon gorau cyn 23 Mehefin oedd y byddent yn codi tua £300 miliwn y flwyddyn, felly nid yw'n swm ansylweddol, a, phe na byddai gennym, byddem yn sicr yn teimlo'r effaith ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Dyna pam mae'r egwyddor 'dim niwed' mor bwysig yn y trafodaethau.
O ran yr ardoll agregau, rydym yn parhau i fod mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU am y mater hwnnw, ond rwy’n meddwl bod y pwyntiau ehangach a wnaeth Mike Hedges yn bwysig iawn, sef nad yw ein trafodaethau â’r Trysorlys yn canolbwyntio'n gul ar y ddau ddarn hyn o ddeddfwriaeth. Mae'n rhaid iddynt fod yn rhan o'r patrwm mwy hwnnw o drafodaethau lle mae'r cyllid gwaelodol, a sicrhau hwnnw fel rhan barhaol o'r tirwedd—mae cyfyngiadau benthyca, a grybwyllais yn fy natganiad, yn rhan o'r dirwedd ehangach honno hefyd, ac, er ein bod wedi canolbwyntio ar y ddau ddarn pwysig iawn hyn o ddeddfwriaeth y prynhawn yma, a byddwn yn mynd â hwy drwy'r Cynulliad Cenedlaethol yn yr hydref, mae ein trafodaethau â'r Trysorlys ar gynfas ehangach na hynny.