6. 5. Datganiad: Datganoli Trethi a'r Fframwaith Cyllidol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:31, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Fel y siaradwyr cynharach, rwy’n meddwl bod angen inni symud yn ofalus ar hyn, yn enwedig oherwydd, fel y dywedwch yn eich datganiad, ei bod yn ymddangos bod pob treth a gawn, pob pŵer sy’n cael ei ddatganoli inni, yn arwain at ostyngiad tebyg yn swm y grant bloc, a gallai hynny mewn gwirionedd arwain at fwy o faich ar Gymru nag sydd gennym ar hyn o bryd o'r system ychydig yn ailddosbarthol sydd gennym, hyd yn oed os nad yw'n berffaith. Felly, rwy’n meddwl bod angen inni osgoi cymhellion gwrthnysig, ac, yn amlwg, mae'r dreth gwarediadau tirlenwi yn gwneud hynny, ond gellir ei defnyddio hefyd i ymdrin â chanlyniadau gwrthnysig. Cefais fy nharo gan fwriad San Francisco i godi treth cyflogres gymedrol iawn o 1.5 cant ar y cwmnïau uwch-dechnoleg—cwmnïau byd-eang fel Google, Amazon ac Uber, sydd ddim yn adnabyddus am eu brwdfrydedd i dalu trethi mewn unrhyw le yn y byd. Ond, pe byddai’n llwyddiannus, gellid defnyddio’r arian hwnnw i ddarparu tai fforddiadwy i deuluoedd ar incwm isel sydd wedi cael eu dadleoli gan yr union gwmnïau technoleg llwyddiannus hyn sydd wedi ei gwneud yn amhosibl i bobl barhau i fyw yn y ddinas.

Felly, rwy’n meddwl bod yn rhaid inni sylweddoli, os yw polisïau cyni Llywodraeth y DU yn parhau, y bydd pwysau’n dal i fod arnom i ddod o hyd i ffyrdd newydd o roi hwb i refeniw yn y sector cyhoeddus, yn enwedig os ydym yn gweld gostyngiad mewn grantiau sector cyhoeddus yn dod gan Lywodraeth ganolog. Felly, a oes gennym y pwerau yn y dyfodol, pe byddem yn dymuno gwneud hynny, i addasu’r dreth trafodiadau tir i fod yn dreth gwerth tir, a allai roi gwell adlewyrchiad o lwc dda y rheini sy'n cael budd o gymunedau wedi’u cysylltu'n dda a gwasanaethau rhagorol i dalu mwy fel cyfrwng i wrthdroi’r ddeddf gofal gwrthgyfartal adnabyddus, yn ogystal ag osgoi talu treth? Efallai y gallech roi rhyw syniad o'r cyfeiriad teithio y gallai'r Llywodraeth fod yn awgrymu ein bod yn symud ynddo.