Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
A gaf i groesawu datganiad yr Ysgrifennydd Cabinet, a’r sylwadau yn benodol ynglŷn â’r fframwaith gyllidol, a’r ymroddiad y bydd gan y Senedd hon gyfle i drafod a chytuno ai peidio y fframwaith maes o law? O edrych ar y cytundeb rhwng Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a Llywodraeth yr Alban, mae’n amlwg ei fod e’n ffrwyth llafur sylweddol iawn, ac rwy’n falch o glywed eich bod chi wedi cael cydweithrediad ynglŷn â hynny ar gyfer ein trefniadau ni. Ond nid oes ganddo effaith deddf gwlad. A fyddai’n cytuno â fi y byddai sylfaen statudol i’r fframwaith gyllidol yn cynnig gwell gwarant i Gymru o’r ymroddiad i ariannu’n ddigonol, o’r egwyddorion bras sy’n sail i’r ymroddiad hwnnw, ac o beirianwaith i allu delio ag unrhyw anghydfod ac anghytundeb, pan fydd yn codi?